20

Y Daith i Rio Rhan 1

Y Daith i Rio

Er bod pobl dal yn siarad am Gemau Olympaidd Llundain y llynedd, mae llygaid y byd yn troi tuag at Frasil eisoes yn enwedig â Chwpan y Byd FIFA 2014 ar y gorwel. Dim ond dwy flynedd ar ôl hynny, bydd y ddinas fwyaf yn y wlad, Rio de Janeiro yn cynnal Gemau Olympaidd 2016.

IYn y rhifyn hwn o Ddaearyddiaeth yn y Newyddion (a rhifyn 22 ym mis Mehefin) byddwn ni’n edrych ar Frasil gan ganolbwyntio ar Rio de Janeiro a’r digwyddiadau chwaraeon anhygoel hyn.

undefined

Edrych ar Frasil fel gwlad...

Yn gyntaf, byddwn ni’n canolbwyntio ar sut y mae Brasil wedi mynd o 'lai economaidd ddatblygedig' dlawd i bwerdy economaidd mewn dim ond ychydig dros ddeng mlynedd. Yn yr erthyglau eraill, byddwn ni’n cymharu dwy wahanol ddinas ym Mrasil:

  • Mae (neu ddim ond ‘Rio’) yn enghraifft wych o faterion sy’n wynebu pobl yn y byd sy’n datblygu.
  • Mae Curitiba, a fydd yn cynnal llawer iawn o gemau Cwpan y Byd, wedi datblygu mewn ffordd mor wahanol nes ei bod hi’n un o ddinasoedd mwyaf cynaliadwy'r byd.

undefined

Rio de Janeiro

Astudio Brasil mewn ysgolion...

Tan yn ddiweddar, mewn gwersi Daearyddiaeth yng Nghymru, roedden ni’n sôn am wledydd cyfoethog (GMEDd) a gwledydd tlawd (GLEDd).

Mae Cymru yn enghraifft dda o wlad mwy economaidd ddatblygedig – er nad yw hi'n teimlo felly drwy'r adeg, rydych chi'n byw yn un o wledydd cyfoethoga'r byd!

Tan yn ddiweddar roedd Brasil yn cael ei defnyddio fel enghraifft o wlad lai economaidd ddatblygedig, ond dros y pum mlynedd ddiwethaf, mae ei chyfradd datblygu wedi bod mor gyflym nes dydy hi ddim bellach yn gweddu i’r categori hwn. Nawr, rydyn ni’n sôn am wledydd diwydiannol newydd ac mae Brasil, Rwsia, India a China yn enghreifftiau gwych o hynny.

Oeddech chi'n gwybod?

Mae Brazil, Russia, India a China (sef y gwledydd B.R.I.C) yn bwerau economaidd mawr ac maen nhw’n newid y ffordd mae’r byd yn gweithio. Maen nhw’n dylanwadu arnom ni yma yng Nghymru hyd yn oed! 

undefined

Ystyr Economaidd yw rhywbeth i wneud ag arian a ddaw fel arfer o’r gwaith y mae pobl yn ei wneud a’r diwydiannau yn eu gwlad. Mae’r rhan fwyaf o wledydd yn dechrau’n dlawd ac yn araf newid i fod yn gyfoethocach drwy newid y math o waith y mae’r bobl sy’n byw yno’n ei wneud. Weithiau, gelwir y broses hon yn Ddatblygiad Economaidd.

 

Y Daith i Rio - Datblygiad ym Mrasil

Y tri pheth sydd wedi helpu Brasil i ddatblygu’n ddiweddar yw:

  • Ffermio

  • Echdynnu mwynau

  • Gweithgynhyrchu

Fel arfer, bydd GLEDd yn cynhyrchu ac yn allforio cynnyrch gwreiddiol unrhyw beth a gawn ni’n uniongyrchol o’r ddaear megis mwynau, pren neu fwyd). Mae gan Frasil lawer iawn o adnoddau gwreiddio a dau o’r prif feysydd datblygu yno yw ffermio a chynhyrchu bwyd, a chynnydd enfawr mewn cynhyrchu mwynau.

undefinedMaes arall a ddatblygwyd yno yw mewn cynnyrch eilradd (gwneud neu weithgynhyrchu pethau) ac mae de-ddwyrain Brasil wedi gweld cynnydd enfawr o amgylch dinasoedd Rio de Janeiro a Sao Paulo.

Datblygiad ym Mrasil - Ffermio

Er gwaetha’r ffaith bod gogledd-ddwyrain Brasil yn dioddef sychdwr blynyddol ac mai fforest law'r Amazon yw’r rhan helaethaf o ogledd Brasil, mae rhan fawr o’r wlad yn berffaith ar gyfer amaethyddiaeth.

undefined

Mae gan rannau mawr o dde Brasil yr hinsawdd berffaith a phridd ffrwythlon ar gyfer ffermio âr; tyfu cnydau gwerthfawr megis coffi a siwgr. Mae’r ardaloedd hyn hefyd yn gallu cynhyrchu nifer fawr o gnydau’r prif fwyd; sef bwyd sy’n cael ei fwyta bob dydd fel yd a chorn. Hefyd caiff siwgr ei ddefnyddio i wneud tanwydd ar gyfer ceir a thryciau - darganfyddwch dwy yn y blwch isod.

Central Brazil has huge areas of natural grassland perfect for pastoral farming (breeding animals like cattle).

Datblygu ym Mrasil – Echdynnu mwynau

Mae gan Frasil gelc mawr o fwynau fel haearn, aur a gemau gwerthfawr. Gellir allforio'r rhain i wledydd eraill sy’n dod ag arian i Frasil gan wledydd cyfoethog fel UDA.

undefined

 

 

Dyma'r pwll haearn mwyaf yn y byd wedi'i leoli yn nhalaith Parâ yn y mynyddoedd Carajâs yng ngogledd Brasil.

Yn y pwll mae biliynau o dunelli o fwynau haearn yn ogystal ag aur, nicel, copr a maganîs.

 

Caiff y cynnyrch gwreiddiol eu defnyddio i gynnal twf gweithgynhyrchu domestig (gwneud pethau ym Mrasil). Daw golosg/siarcol o’r fforest law a chaiff ei ddefnyddio fel tanwydd toddi mwynau i gael metelau pur.

Defnyddir dur i gynhyrchu ceir ac mae’r Carajas yn fforest law'r Amazon (uchod) yn gartref i’r mwynau dur puraf yn y byd. Mae pyllau Bocsit yn rhoi alwminiwm u adeiladu awyrennau i Embraer S.A. cwmni aerofod enfawr.

Datblygiad ym Mrasil - Gweithgynhyrchu

Rio de Janeiro a Sao Paulo, yw’r brif ardal weithgynhyrchu ym Mrasil. Mae system drafnidiaeth Brasil fel un twmffat yn dod â’r adnoddau i gyd i un ardal i gael eu defnyddio mewn ffatrïoedd.

Mae cwmnïau amlwladol ceir yn yr ardal, yn cynnwys rhai brandiau mawr, byd-eang fel Toyota (a fydd, digwydd bod, yn adeiladu injans yng ngogledd Cymru o 2013 ymlaen). Mae gwaith dur enfawr yn defnyddio’r haearn sy’n dod o’r Amazonia fel y mae diwydiannu cysylltiedig fel adeiladu llongau, peirianneg drom a ffatrïoedd awyrennau ger llaw.

Mae’r ardal lle mae’r rhan fwyaf o weithgynhyrchu yn digwydd weithiau yn cael ei galw yn yr ardal graidd neu’r craidd economaidd. Gelwir ardaloedd eraill o wlad, y rhai sydd heb ddatblygu’n economaidd gymaint yn ardaloedd ymylol fel arfer.

Oeddech chi'n gwybod?

Ethanol – Llond llwy o siwgr...

Tan 2007, yr unig fwynha nad oedd gan Frasil ddigonedd ohonynt oedd tanwydd ffosil (olew, glo a nwy). Newidiodd hyn pan ddarganfuwyd cyflenwad enfawr o olew yn ddwfn o dan wely’r môr ar arfordir Môr yr Iwerydd. Cymerodd lawer o waith peirianneg ond nawr mae’r olew yn llifo ac mae’r economi yn teimlo’r budd.

Cyn i’r olew gael ei ddarganfod, Brasil oedd un o brif gynhyrchwyr Bioethanol y byd.

undefined

Alcohol wedi’i wneud â siwgr yw Bioethanol. Caiff ei gynhyrchu mewn ffordd debyg iawn i gwrw a gwin a gellir ei ddefnyddio yn lle petrol. Roedd y tanwydd siwgwrllyd yma yn cael ei ddefnyddio i bweru mwy na hanner y ceir ym Mrasil!

Caiff Bioethanol ei alw yn ‘carbon niwtral’ oherwydd bod y siwgr yn amsugno’r carbon deuocsid o’r aer with iddo dyfu. Ond maw tanwydd ffosil, ar y llaw arall, yn cynhyrchu llawer iawn o CO2 sydd, yn ôl gwyddonwyr, yn effeithio ar hinsawdd y Ddaear.

Yn drist iawn, ar ôl darganfod yr olew yn 2007, penderfynodd y llywodraeth i ostwng pris petrol er mwyn rhoi hwb i’r gyfradd ddatblygu. Roedd hynny’n golygu arafu cynhyrchiant bioethanol a throi at danwydd ffosil. Fodd bynnag, mae’r duedd hon wedi troi ar ei phen eto ar ôl i UDA ei gwneud hi’n rhatach o lawer i fewnforio bioethanol .

Unwaith eto, mae Brasil yn paratoi i fod yn gynhyrchydd ac allforiwr ethanol mwya’r byd.

Ar y Ffordd i Rio – Oes yn newid

Dechreuodd Brasil wirioneddol newid ar ôl ethol yr Arlywydd Luiz Inácio Lula da Silva (‘Lula’) yn 2002.

Mae Lula yn gyn-weithiwr gwaith dur a ddaeth yn undebwr masnach oedd yn ymgyrchu dros gyflyrau gweithio gwell i Frasiliaid a oedd yn ennill cyflog isel. Fel arlwywyd, canolbwyntiodd ar wella bywydau Brasiliaid cyffredin. Roedd hyn yn newid mawr o’i gymharu â’r llywodraeth flaenorol a oedd yn llygredig ac yn awchu am bwer.

undefined

Mae gwaith Arlywydd Lula wedi creu enghraifft i wledydd eraill De America allu cyflymu eu datblygiad hwythau.

Byd yr hwb datblygu nesaf yn dod o ganlyniad i Gwpan y Byd FIFA 2014 a'r Gemau Olympaidd yn 2016. Byddwn ni’n archwilio'r rhain yn fanylach yn rhifyn 22 ynghyd â’r effaith y mae’r datblygiad wedi’i gael ar amgylchedd Brasil.

Gweithgaredd disgybl

Trip rhithiol:

  • Gweithiwch mewn grwp bychan o 2 neu 3
  • ‘Ewch’ i’r lleoedd a enwir yn yr erthygl hon yn defnyddio System Wybodaeth Ddaearyddol megis Google Earth neu Google Maps
  • Edrychwch am luniau ar y System Wybodaeth Ddaearyddol i weld beth sy’n digwydd yn y gwahanol rannau o Frasil -
    • y fforest law
    • ardaloedd sychdwr
    • pyllau enfawr
    • datgoedwigo ar gyfer golosg
    • adeiladu llongau
    • ffatrïoedd ceir ac yn y blaen

Rhowch y lluniau hyn mewn i gyfres o sleidiau ar PowerPoint er mwyn arddangos eich darganfyddiadau i’ch athro.

 

Top

Mwy o’r rhifyn yma...