20

Curitiba

Curitiba: Dinas gynaliadwy yn y byd datblygol

Yn aml, fe’i disgrifir fel y ddinas fwyaf cynaliadwy yn y byd. Curitiba yw prifddinas daleithiol Paraná ym Mrasil. Ffrwyth gweledigaeth y cynllunydd Jamie Lerner yw Curitiba ar y cyfan.

Yn gynnar yn y 1970, pan oedd dinasoedd Brasil yn diwydiannu ar gyfradd gyflym, dim ond rhai ‘di-lygredd’ y byddai Curitiba yn ei dderbyn. Adeiladodd ardaloedd diwydiannol gyda chymaint o wyrddni nes ei bod yn cael eu galw’n gyrsiau golff. Ond, fe’u llanwyd gan fusnesau mawr pan aeth y gystadleuaeth yn mewn dinasoedd De Americanaidd eraill i drybini.

undefined

Cyfradd twf economaidd y ddinas dros 30 mlynedd yw 7.1%, sy’n uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol sy’n 4.2%. Mae incwm fesul person y ddinas 66% yn uwch na gweddill Brasil ar gyfartaledd. Rhwng 1975 a 1995, tyfodd enillion neu gynnyrch domestig Curitiba tua 75% yn fwy na gweddill Talaith Paraná a 48% mwy na Brasil gyfan. Ym 1994, cynhyrchodd dwristiaeth 4% o gyfanswm incwm y ddinas - tua $280 miliwn ($ UDA).

Mae gan Curitiba rwydweithiau iechyd, addysg a gofal dydd bwrdeistrefol yn ogystal â llyfrgelloedd cymunedol sy’n cael eu rhannu gan ysgolion a dinasyddion. Datblygwyd ‘Strydoedd Dinasyddiaeth’ ac arnynt mae adeiladau sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol fel cyfleusterau chwaraeon a diwylliannol wrth ymyl terfynellau trafnidiaeth dorfol (yn benodol system fysiau anhygoel Curitiba – gweler isod).

O ran addysg a chyflogaeth, ym Mhrifysgol Agored y ddinas, gall preswylwyr wneud cyrsiau mewn pynciau megis mecanyddiaeth, steilio gwallt ad amddiffyn amgylcheddol am ffi fechan. Daeth polisïau i greu swyddi a chynhyrchu incwm yn rhan o strategaeth gynllunio’r ddinas yn y 1990au hefyd.

undefined

undefined

Hunangymorth – adeiladu dinas o fath newydd

Ers 1990, mae’r Gronfa Dai Bwrdeistrefol wedi bod yn rhoi cefnogaeth ariannol tuag at dai i’r boblogaeth â’r incwm lleiaf. Oherwydd bod cymaint o bobl yn mewnlifo i Curitiba, prynodd cynllun tai cyhoeddus y ddinas un o’r darnau tir prin oedd ar ôl yno, sef “Novo Barrio” (Cymdogaeth Newydd), bydd hwn yn gartref i 50,000 o deuluoedd.

WByddai tir feddianwyr yn adeiladu eu tai eu hunain, ond derbynion nhw ymgynghoriad am awr gyda phensaer i’w helpu nhw gyda datblygu eu cynllun (yn ogystal â phâr o goed). Y polisi cyfredol yn Nghuritiba yw, wrth i unrhyw ardal favela gael ei chlirio, bydd y preswylwyr yn symud i gymunedau wedi’u cynllunio ac yn derbyn hyfforddiant adeiladu a morgais bach. Fel hyn, nid yn unig eu bod nhw’n gallu prynu’r tir a’r deunydd ar gyfer adeiladu ty a fyddan nhw’n ei adeiladu eu hunain, ond byddan nhw hefyd yn ennyn sgiliau newydd a fydd yn helpu gyda gwaith. Yn y ffordd yma, bydd pobl ddi-waith a gweithwyr anffurfiol yn cael eu trawsnewid i fod yn berchnogion tai cyfreithlon mewn cymunedau a adeiladwyd i bwrpas, gyda rhagolwg ehangach am waith yn y sector ffurfiol.

Oeddech chi'n gwybod?

System drafnidiaeth Curitiba

Mae gan Curitiba system drafnidiaeth sydd wedi’i chynllunio’n ofalus iawn. Mae hi’n cynnwys lonydd ar brif strydoedd ar gyfer a system trawstaith fws gyflym. Mae’r bysiau yn hir ac wedi’u rhannu’n dair rhan (deugymalog), ac maen nhw’n stopio wrth diwbiau penodol wedi’u codi, sy’n addas ar gyfer bobl anabl. Un pris sydd, dim ots pa mor bell fyddwch chi’n teithio a byddwch chi’n talu yn yr orsaf fysiau.

undefined

Defnyddir y system gan 85% i boblogaeth Curitiba a hon yw’r ysbrydoliaeth ar gyfer:

  • TransMilenio yn Mogotá, Colombia

  • Metrovia yng Nguayaquil, Ecuador

  • Transmetro yn Ninas Guatemala, Guatemala/p>

  • The Orange Line yn Los Angeles, UDA

Hon hefyd yw ysbrydoliaeth systemau trafnidiaeth y dyfodol yn Ninas Panama, Dinas Cebu yn y Philippines, Kuala Lumpur ym Malaysia ac yn fwyaf diweddar, Lagos yn Nigeria.

 

Jaime Lerner – Pensaer Curitiba

Erbyn yr 1960au roedd poblogaeth Curitiba wedi ymchwyddo i 430,000. Arweiniodd y pensaer Jaime Lerner, a ddaeth yn faer yn ddiweddarach, dîm a awgrymodd y syniadau canlynol:

  • Rheoliadau llym ar ymledu trefol

  • Lleihau traffig yng nghanol y dref

  • Cadw Sector Hanesyddol Curitiba

  • System deithio gyhoeddus fforddiadwy a hwylus

Llwyddodd i gyflawni bob un o’r rhain drwy bedestreiddio'r rhan fwyaf o Ardal Fusnes Ganolog y ddinas.

Mabwysiadwyd y cynllun hwn, Cynllun Gwych Curitiba, ym 1968. Caeodd Lerner y prif ffyrdd i gerbydau pe bai gan y ffyrdd hynny lawer o gerddwyr arnynt fel arfer. Roedd gan y cynllun ddyluniad ffordd newydd er mwyn lleihau traffig, sef i System Ffordd Driphlyg. Mae’r system yn defnyddio dwy ffordd un cyfeiriad yn symud i gyfeiriadau gwahanol sydd wedi’u lleoli ar y naill ochr i ffordd ddwy lôn lle mae gan fysiau lôn eu hunain.

System Teithio Cyflym Curitiba

Mae pump o’r ffyrdd triphlyg yn ffurfio siâp seren sy’n cydgyfeirio canol y ddinas. Mae’r system drafnidiaeth bysus yn cludo dros 2 filiwn o deithwyr bob dydd. Mae mwy o berchnogion ceir y pen yn Curitiba nag yn unrhyw le arall ym Mrasil ac mae’r boblogaeth wedi dyblu ers 1974, ond eto mae’r traffig wedi gostwng 30%, ac mae llygredd amgylcheddol y ddinas yr isaf ym Mrasil.

undefined

undefined

Rhoddodd y ddinas lawer o sylw i gadw a gofalu am wyrddni’r ddinas. Gyda 28 parc ac ardaloedd coediog, cyfeirir ati fel prifddinas ecolegol Brasil. Ym m197, roedd llai nag 1 metr sgwâr o le gwyrdd i bob person; nawr, mae 52 metr sgwâr i bob person.

undefined

Plannodd breswylwyr 1.5 miliwn o goes ar hyd strydoedd y ddinas ac os yw adeiladwyr yn cynnwys lle gwyrdd yn eu prosiectau, byddan nhw’n derbyn toriadau yn eu trethi. Datryswyd y broblem o berygl ddwr llifogydd drwy greu gwyriad i’r dwr at lynnoedd newydd mewn parciau. Roedd hynny hefyd yn gwarchod lloriau’r dyffrynnoedd a glannau’r afon drwy ymddwyn fel rhwystr rhag meddiant anghyfreithlon, gan hefyd roi gwerth hamddenol ac atyniadol i’r miloedd sy’n defnyddio parciau’r ddinas. Newidiwyd torri glaswellt yn y parciau i ddefaid yn pori sydd yn defnyddio adnodd gwerthfawr arall mewn modd cynaliadwy.

Oeddech chi'n gwybod?

Syniad i'r sbwriel!

Mae’r cynllun cyflogaeth “y gyfnewidfa werdd" yn canolbwyntio ar gynhwysiad cymdeithasol sydd o fudd i bobl anghenus a’r amgylchedd. Daw teuluoedd incwm isel sy’n byw mewn trefi sianti â’u sbwriel i ganol cymdogaethau oherwydd bod lorïau bin methu eu cyrraedd, yn fanno byddan nhw’n cyfnewid y bagiau bin am docynnau bws a bwyd. Mae hyn yn golygu bod llai o sbwriel yn y ddinas a llai o afiechyd, a bydd llai p sbwriel yn cael ei daflu i ardaloedd sensitif fel afonydd gan greu gwell bywyd i bobl dlawd, heb ddigon o faeth.

Caiff 70% o wastraff y ddinas ei ailgylchu gan breswylwyr y ddinas fel rhan o’r cynllun "Sbwriel? ‘Dyw hwnna ddim yn sbwriel" (‘O Lixo que Não é Lixo’). Unwaith yr wythnos, bydd tryc yn casglu papur, cardfwrdd, metel, plastig a gwydr sydd wedi cael ei ddidoli yng nghartrefi’r ddinas. Mae dim ond ailgylchu papur y ddinas yn arbed cymaint â 1,200 o goed y dydd. Yn ogystal â’r buddion amgylcheddol mawr, mae arian a gesglir o werthu deunyddiau yn cael ei roi at gynlluniau cymdeithasol, ac mae’r ddinas yn cyflogi’r digartref a alcoholics wedi’u hadfer mewn gwaith gwahanu sbwriel.

Asesiad ar gyfer Dysgu: Cwis

Cyn rhoi cynnig ar y cwis, sicrhewch eich bod chi wedi darllen pob un o’r erthyglau yn y rhifyn hwn:

  • Y Daith i Rio – Rhan 1

  • Byw yn Rio

  • Curitiba

Flash Player Required

Get Adobe Flash player

Gweithgaredd myfyriwr

Gwrandewch ar y fideo.

Defnyddiwch system wybodaeth ddaearyddol fel Google Earth i ddod o hyd i luniau er mwyn cymharu ym mha ffyrdd, rydych chi’n meddwl, y mae Curitiba yn wahanol i Rio.

Rhowch eich syniadau mewn poster neu mewn cyflwyniad PowerPoint a'u rhannu gyda'r dosbarth.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Y Daith i Rio Rhan 1

Y Daith i Rio Rhan 1