6

Glaw Cwpan Ryder

Mae golff yn chwaraeon ar gyfer bob tywydd; gellir ei chwarae yn yr haul a hyd yn oed yn y glaw. Pan ddaeth Cwpan Ryder i Gymru ym mis Hydref 2010, ’roedd pawb yn gobeithio am dywydd braf, ond daeth Ifan y glaw heibio a stopio’r golffwyr rhag cystadlu.

undefined

Glaw yn tarfu ar Gwpan Ryder

Pam ein bod ni’n cael cymaint o law yng Nghymru?

Dros y blynyddoedd diweddar, mae Cymru wedi profi tywydd drwg gyda glaw a llifogydd mewn sawl rhan o Gymru.

Mae aer yn cario anwedd ynddo (sef dŵr yn ei ffurf nwy). Mae hwn yn ffurfio pan fydd gwynt yn pasio dros Fôr yr Iwerydd ac yn anweddu peth ohono tua’r Gorllewin.

Mae aer sydd mor uchel a hynny yn oer iawn, a does ganddo ddim o’r gallu i ddal cymaint o anwedd ac felly mae’n rhaid i beth ohono gyddwyso. Pan fydd hyn yn digwydd mae dafnau bychain yn ffurfio, rydyn ni’n galw’r rhain yn gymylau. Pan fydd hi’n oer iawn mae’n nhw’n rhewi ac yn tyfu ddigon mawr i syrthio fel dyodiad.

undefined

Felly, pam ei bod hi’n bwrw mwy yng Nghymru?

Mae’r moroedd sy’n amgylchynu Cymru yn achosi’r aer i gario llawer iawn o anwedd. Hefyd, mae gennym ni lawer o fryniau. Pan fyddwn ni’n cael tywydd braf, mae’n gwthio’r aer am ei fyny ac mae hyn yn achosi glaw darfudol. Ond, rydyn ni’n cael ffryntiau hefyd!

Beth yw ffrynt?

Ar fap o’r byd, mae Cymru jyst dros hanner ffordd heibio’r Cyhydedd tuag at Begwn y Gogledd. Oherwydd ein lleoliad ni ar y byd, mae aer oer o’r rhanbarth polar yn cyfarfod aer cynner o’r rhanbarth trofannol yn cyfarfod uwch ein pen. Dydy gwahanol fathau o aer ddim yn cymysgu’n rhwydd ac yn aros arwahan - gelwir y ffin rhyngddyn nhw yn ffrynt.

Beth yw ffrynt?

Arsylwyd ar ffrynt yn gyntaf gan wyddonwyr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Cafon nhw eu henw oherwydd eu bod nhw’n debyg iawn i fyddinoedd: ’roedden nhw’n gwrthwynebu ei gilydd, ond yn wynebu ei gilydd ar hyd llinellau o’r enw ffrynt.

Penderfynon nhw fod y ddau fath o aer yn ymddwyn yn yr un ffordd ac felly bathwyd y term sy’n dal i gael ei ddefnyddio heddiw.

 

undefined

Enghraifft o ffrynt tywydd

Sut mae ffryntiau yn achosi glaw?

Mae aer polar oer mor drwm nes ei fod yn gwthio’r aer cynnes yn uwch nes ei fod yn oeri. Dydy aer oer methu dal dŵr felly mae’n syrthio fel glaw. Mae Cymru’n profi sawl ffrynt o’r Gorllewin i’r Dwyrain sy’n achosi llawer iawn a law ffrynt.

Pam fod ardaloedd Dwyreiniol Cymru yn cael llai o law?

Ar ôl i’r aer gael ei orfodi i godi, mae’n achos glaw tirwedd yn ardaloedd bryniog Cymru, jysd i’r Dwyrain o’r mynyddoedd Cymreig. Mae’r aer yn suddo, yn cynhesu ac yna’n sychu. Mae hyn yn ffurfio ‘cysgod glaw’ ac o’r herwydd yn achosi tywydd braf.

undefined

Cysgod glaw

Beth ddigwyddodd yn ystod Cwpan Ryder?

Yn ystod Cwpan Ryder, tarodd ddau ffrynt gwahanol o’r De ar Gymru gan achosi cyfuniad o law ffrynt a glaw tirwedd yng Nghasnewydd ar y dydd Gwener a’r dydd Sul. Anlwcus, ond ni anghyffredin yn ystod Hydref gwyllt Cymraeg!

Gweithgaredd

Tynnwch lun o fap glaw sy’n syrthio yn y DU – eglurwch pam fod rhannau o Gymru yn derbyn llawer mwy o law nag ardaloedd yn Nwyrain Lloegr, megis Llundain.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...