Ar ddydd Gŵyl Dewi eleni, disgynnodd glaw mor drwm yn Uganda nes achosi llifogydd a thirlithriadau a ddinistriodd gymuned o'r enw Nametsi. Mae'r gymuned wedi'i gefeillio ‚ chymunedau yn Rhondda Cynon Taf.
Wrth i bobl ledled Cymru ddechrau trefnu cymorth, dechreuodd y bobl leol gloddio er mwyn ceisio dod o hyd i weddillion dros gant o bobl. Merched a phlant oedd llawer ohonyn nhw. Roedden nhw wedi bod yn cael lloches yn Nametsi oherwydd bod yr afon rhy uchel iddyn nhw fedru cyrraedd eu cartrefi.
Tirlithriadau yn Uganda
Ar yr un pryd ‚ thrychineb Nametsi, roedd adroddiadau yn ein cyrraedd ni am lifogydd a sychder ar draws llawer o Affrica, Asia, Awstralia ac Ewrop.
O dan amodau cyffredin, mae'r gwyntoedd yn y Môr Tawel yn gyrru dwr arwyneb cynnes tua'r gorllewin lle mae'n 'pentyrru' o amgylch Awstralia ac Indonesia. Mae hyn yn caniat·u i ddwr oer oddi ar arfordir De America godi i'r arwyneb. Mae hyn yn achosi aer oer, llaith yn y gorllewin ac aer oerach a mwy sych yn y dwyrain.
Os yw'r gwyntoedd uwch ben y Môr Tawel yn gostegu, yna bydd y dwr cynnes yn y gorllewin yn llifo tua'r dwyrain. Mae hyn yn achosi glaw trwm yn Ne America a sychder mewn llefydd fel Awstralia. Rhoddodd pysgotwyr lleol ym Mheriw'r enw El Niño ar yr amodau tywydd hyn. Digwyddodd hyn ym mis Rhagfyr ñ Mawrth 2010 gan achosi trychinebau hinsoddol ledled y byd ar ddechrau'r flwyddyn
Ar ôl El Niño, nid aeth y gwyntoedd yn ôl i'w cryfder arferol, ond yn hytrach fe aethon nhw'n gryfach nag arfer. Felly roedd hyd yn oed mwy o ddwr cynnes nag arfer wedi pentyrru i'r gorllewin o'r Môr Tawel. Dyma fu'n help i sbarduno'r llifogydd ym mis Gorffennaf ac Awst. Mae'r amodau hyn yn cael eu galw'n La Niña gan y pysgotwyr lleol.
Er bod Cymru wedi profi tywydd eithafol eleni, mae prin iawn yw'r trychinebau. Mae hyn am fod gennyn ni bobl sy'n gweithio i'n cadw ni'n ddiogel. Un tîm pwysig yw Asiantaeth yr Amgylchedd yng Nghymru. Mae'r asiantaeth hon yn cyhoeddi rhybuddion llifogydd ac yn rhoi gwybod i bobl os yw eu cartrefi neu eu swyddfeydd mewn perygl o lifogydd.
Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn cyhoeddi mapiau peryglon llifogydd. Gallwch roi eich cod post i mewn i weld a yw eich ardal chi mewn perygl. Edrychwch:
Mae'n debyg mai un o weithgareddau amlycaf Asiantaeth yr Amgylchedd yng Nghymru yw'r cynlluniau llifogydd er mwyn atal llifogydd ledled Cymru. Ewch i'w gwefan i ddod o hyd i fwy am eu cynlluniau diogelu rhag llifogydd sydd ar waith ar hyn o bryd yn Fairbourne, Abergele, Dolgellau, Afon Rhyd-hir, Pwllheli, Bangor-ar-Ddyfrdwy, Caersws, Casgwent, Dyffryn Conwy, Henffordd, Llanymddyfri, Llanfyllin, Meifod, Rhydymwyn a'r Orsedd.
Edrychwch:
Darganfyddwch beth yw'r perygl llifogydd yn eich ardal chi a'r ardal gyfagos. Defnyddiwch wefan Asiantaeth yr Amgylchedd i'ch helpu.
Edrychwch ar wahanol gynlluniau llifogydd yng Nghymru a phenderfynwch pa agweddau ar gynlluniau eraill fyddai'n gweithio yn eich ardal chi.