42

Egluro Corwyntoedd

Stormydd trofannol gyda chyflymdra gwynt dros 119 cm/awr (74mya) yw Corwyntoedd.

Caiff corwyntoedd eu rhannu’n bum categori yn ôl graddfa Saffir-Simpson.

Mae stormydd trofannol yn cael eu ffurfio dros gefnforoedd twym; gan amlaf mae’n rhaid i wyneb y môr fod o leiaf 27°C i ddibwysiant trofannol ddatblygu’n gorwynt.

Mae wyneb twym y cefnforoedd yn cynnig dau beth i’r aer uwchben:

  1. Gwres
  2. Anwedd Dŵr

Mae’r ddau hyn yn rhoi egni er mwyn i’r corwynt gael ei ffurfio.

 

Llun: Global tropical cyclone tracks-edit2 © Wikimedia Commons

Llwybrau’r Stormydd Trofannol 1985-2005

Mae’r map uchod yn dangos lle mae stormydd trofannol a chorwyntoedd yn symud.

Mae yna fand sydd bron iawn â dim llwybrau stormydd ar draws y cyhydedd.

Mae hyn achos nad oes digon o rym Coriolis (sef grym troelli’r Ddaear) yn agos at y cyhydedd.

  • Meddyliwch am ddŵr yn troelli i lawr twll plwg.

Y pethau mwyaf sydd eu hangen i ffurfio Stormydd Trofannol/Corwyntoedd yw:

  • Tymereddau wyneb cefnforoedd twym (yn uwch na 27°C)
    • Sy’n rhoi gwres ac anwedd dŵr.
  • Grym Coriolis digonol
    • Nad yw ar gael fel arfer o fewn 500 cilomedr o’r cyhydedd

Ffurfiant

1 Wrth i’r aer uwchben wyneb môr twym gynhesu a chodi

2 Mae aer sy’n codi yn ffurfio pwysedd aer is – gweler erthygl gysylltiedig 2.

3 Mae aer yn symud o leoedd eraill – gwyntoedd.

4 Mae’r grym Coriolis yn gorfodi i’r aer, anwedd dŵr a chymylau droelli.

5 Mae’r cylchdroad yn symud mwy o aer, anwedd dŵr a chymylau tua chanol ac mae’r storm yn cryfhau.

6 Cyhyd â bod y corwynt yn aros dros ddŵr twym bydd yn cryfhau.

7 Mae corwyntoedd yn ffurfio bandiau o gymylau sy’n cylchdroi o gwmpas llygad canolig.

8 O fewn y llygad mae pethau’n llonydd.

9 O fewn wal y llygad cewch y gwyntoedd cryfaf.

 

Peryglon Corwyntoedd

 

  1. Mae gwyntoedd cryf yn gallu difrodi adeiladau ac yn gallu achosi niwed neu farwolaeth.
  2. Gall glaw achosi llifogydd difrifol.
  3. Ymchwyddiadau’r storm:
    - Oherwydd y pwysedd aer isel, mae cynnydd yn lefel y môr (llai o aer yn gwthio i lawr ar wyneb y môr).
    - Mae’r gwyntoedd cryf yn achosi tonnau mawr.
    - Rhwng y ddau yma, gall llifogydd o’r môr fod yn ddinistriol. Mae ymchwyddiadau’r storm, gan amlaf, yw’r peth mwyaf peryglus am gorwynt.

Gweithgaredd

  1. Pa bethau sydd eu hangen er mwyn i gorwynt gael ei ffurfio?
  2. Pam bod corwynt yn colli ei bŵer:
    a. os mae’n symud dros dir?
    b. os mae’n symud dros gefnforoedd oerach?
Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Pwysedd Isel yn y Newyddion - Cyfnod Corwyntoedd

Pwysedd Isel yn y Newyddion - Cyfnod Corwyntoedd

Egluro Pwysedd Aer Isel

Egluro Pwysedd Aer Isel