40

Pa Mor Gyfoethog Ydyn Ni?

Pa mor gyfoethog ydyn ni?

Mewn grŵp bach, penderfynwch eich lleoliad ar yr agweddau isod yn nhermau’r canlynol:

Mewn grŵp bach, penderfynwch eich lleoliad ar yr agweddau isod yn nhermau’r canlynol:

A. Y 10%, sef y bobl fwyaf difreintiedig.

B. Rhwng 20%-10%, sef y grŵp o bobl fwyaf difreintiedig nesaf.

C. Rhwng 30%-20%, sef y grŵp o bobl fwyaf difreintiedig nesaf.

CH. Rhwng 40%-50%, sef y grŵp o bobl fwyaf difreintiedig nesaf.

D. Y 50% o Gymru, sef yr hanner o bobl lleiaf difreintiedig.

  • Incwm
  • Cyflogaeth
  • Iechyd
  • Addysg
  • Mynediad i Wasanaethau
  • Diogelwch Cymunedol
  • Amgylchedd Ffisegol
  • Tai

 Rhowch sgôr i bob un, o A (yr isaf) i D (yr uchaf).

Oherwydd yr holl ymgyrchu dros yr Etholiad Cyffredinol, dywedwyd wrthym pa mor wael yw ein sefyllfaoedd.

Ni yw’r bobl dlawd sy’n gweithio, neu’r JAM’s yn Saesneg (Just About Managing). Os ydyn ni’n byw mewn ardal wledig yng Nghymu, mae rhywun bob tro yn dweud wrthym pa mor wael yw ein sefyllfaoedd; a sut mai’r ardaloedd dinesig yw’r ardaloedd cyfoethocaf â’r bywydau gorau.

Dyma’r hysbysebion ar-lein, ar y teledu ac mewn cylchgronau; p’un ai yn ‘The Rich Kids on Instagram’ neu ‘The Real Housewives of Abercwmbucket’, rydyn ni’n ymwybodol mai ni sy’n cael amser anoddach o’i gymharu â gweddill y byd; cytuno? Neu anghytuno?

Amddifadedd

Dyma’r agweddau blaenorol:

  • Incwm
  • Cyflogaeth
  • Iechyd
  • Addysg
  • Mynediad i Wasanaethau
  • Diogelwch Cymunedol
  • Amgylchedd Ffisegol
  • Tai

 

Dyma’r ‘tirogaethau’ sy’n creu’r Mynegrif Amddifadedd Lluosog ar gyfer Cymru, neu’r M.A.Ll.C.  Edrychon ni yn fras ar y M.A.Ll.C yn y rhifynnau diwethaf o Daearyddiaeth yn y Newyddion, ond yn y rhifyn hwn rydyn ni’n mynd i’w ddefnyddio’n fwy manwl er mwyn edrych ar rai o’r mythau rydyn ni wedi eu dysgu achos ein profiadau, y gymdeithas ac y cyfryngau.

Mae nifer ohonom ni yn byw ein bywydau yn credu ein bod ni’n dlawd achos ein bod ni’n byw mor agos at bobl gyfoethog ac ein bod ni’n cymharu ein hunain â nhw. Mae’r Deyrnas Unedig (yn dibynnu ar sut rydyn ni’n ei mesur) yn naill ai’r bumed neu’r chweched gwlad gyfoethocaf yn y byd. Rydyn ni ymhlith y bobl dlotaf o fewn un o’r gwledydd cyfoethocaf y byd.

Gall Cymru gael ei gweld o’i chymharu â gwledydd eraill y Deyrnas Unedig neu yn erbyn pawb sy’n byw yn y byd. Neu allwn ni ddechrau cymharu lle rydyn ni’n byw â’r ardaloedd o’n cwmpas sy’n creu’r dalgylch o’n hysgolion neu’r ardaloedd sy’n creu ein tref, ardal awdurdod lleol, rhanbarth Llywodraeth Cymru neu ranbarth etholaeth bwrdd iechyd neu etholaeth seneddol AS.

Un peth byddwch yn ei ddysgu wrth wneud hyn yw nad oes atebion syml, a gan amlaf bydd y bobl dlotaf yn byw y drws nesaf i’r bobl gyfoethocaf yng Nghymru.

 

Wrth i chi ddefnyddio’r mapiau gwreiddiol o wefan StatsWales, gallwch chi nesáu at ardaloedd bach ar fap Arolwg Ordnans (AO) a dod o hyd i wybodaeth am bob tirogaeth. Gall hwn eich helpu chi i ddeall pam y caiff ardal ei hystyried yn yr hanner lleiaf difreintiedig (sef y 50% uchaf) yng Nghymru yn ôl y M.A.Ll.C, er y dywedwyd wrthych mai un o’r ardaloedd tlotaf yw.

Gallai hyn fod oherwydd y mae’n sgorio’n uchel mewn rhai tirogaethau, fel Diogelwch Cymunedol, Tai, Amgylchedd Ffisegol, Addysg, ac Iechyd, ond mae’n sgorio’n isel mewn Incwm, er enghraifft.

Gallai hwn egluro pam bod rhai pobl yn meddwl mai’r ardaloedd gwledig yw’r ardaloedd tlotaf sydd angen mwy o sylw oddi wrth y Llywodraeth, ond maen nhw’n anghofio, gan amlaf, mae’r ardaloedd gwledig ymhlith y bobl leiaf difreintiedig ar y cyfan.

Gallwch chi ymchwilio i’ch ardal leol cyn bo hir, ond isod yw esiampl o beth allwch chi ddod o hyd iddo; dyma fap Rhyl Gorllewin.

rhyl

w

p

a

n

t

Ar y mapiau rhyngweithiol gallwch ddod o hyd i grynodeb i bob rhanbarth fel yr un yma, sef Rhyl Gorllewin sy’n rhoi safle gyflym.

rhyl

Cofiwch beth ddywedon ni yn gynharach, fod y bobl fwyaf difreintiedig gan amlaf yn byw y drws nesaf i’r bobl leiaf difreintiedig:

prestatyn

Edrychwch ar y mannau poeth ar y mapiau isod.

Llandudno

llandudno 1

llandudno 2

Ynys Môn

ynys mon 1

ynys mon 2

Aberteifi

aberteifi 1

aberteifi 2

Doc Penfro

doc penfro 1

doc penfro 2

Abertawe

abertawe 1

abertawe 2

Merthyr Tudful

merthyr tudful 1

merthyr tudful 2

Cymoedd De Cymru

cymoedd 1

cymoedd 2

Casnewydd

casnewydd 1

casnewydd 2

Caerdydd

caerdydd 1

caerdydd 2

Gweithgaredd

Rhestrwch bob lleoliad y mannau poeth yma o 1 (y mwyaf difreintiedig) i 9 (y lleiaf difreintiedig).

  • Llandudno
  • Ynys Môn
  • Aberteifi
  • Doc Penfro
  • Abertawe
  • Merthyr Tudful
  • Cymoedd De Cymru
  • Casnewydd
  • Caerdydd

Ar sail beth rydych chi wedi gweld erbyn hyn, rhestrwch ranbarthau Cymru o 1 (y mwyaf difreintiedig) i 4 (y lleiaf difreintiedig)

  • Gogledd Cymru
  • De Cymru
  • Gorllewin Cymru
  • Y Canolbarth

Ar ôl darllen y tair erthygl, a chwblhau’r gweithgareddau, defnyddiwch y daflen A3 atodedig i’ch helpu chi ddechrau ar DME i mewn i ba mor gyfoethog ydyn ni yng Nghymru?

Caiff yr adnodd ei gynllunio’n adnodd dosbarth cyfan o flaen y dosbarth ar daflunydd/bwrdd gwyn rhyngweithiol. Dylai’r gwaith graffig gwahanol gael ei egluro ar y testun, er na fydd yn ddarllenadwy gan y rhan fwyaf o’r disgyblion. Yn dilyn hwn, bydd yn ddelfrydol i’r disgyblion gael mynediad i’r adnoddau ar-lein er mwyn gweithio ar y daflen weithgaredd (i’w hargraffu ar dudalen A3). Yn ddelfrydol, caiff y gweithgareddau hyn eu cefnogi gan ddefnydd o ystafell rwydwaith, llechi/gliniaduron, neu ddyfeisiau/ffonau y disgyblion eu hunain os yw’n ganiataol. Sut bynnag, caiff y gweithgareddau eu cynllunio ar gyfer gwers un awr, gyda’r athro/athrawes yn defnyddio’r adnodd o flaen y dosbarth ynghyd â’r daflen adnodd. Gellir wedyn pennu gwaith cartref er mwyn i’r disgyblion astudio’r erthyglau o flaen llaw cyn y wers nesaf.

Mae’r adnodd a’r daflen wedi eu cynllunio i gefnogi’r FfLlRh tra bo’n rhoi gwybodaeth ddaearyddol bwysig i’r disgyblion am lefydd mewn perthynas â pha mor gyfoethog ydyn ni yng Nghymru.

Naill ai yn y dosbarth neu yn y ty, darllenwch a chwblhewch y gweithgareddau yn yr erthygl adnodd ar-lein, ac yn yr erthyglau atodedig yn y rhifyn hwn o Ddaearyddiaeth yn y Newyddion. Ceisiwch gwblhau pob gweithgaredd sydd ar y daflen adnodd.

Beth fyddwch yn ei ddysgu:

  • Byddwch yn cyfoethogi’ch gwybodaeth am ba mor gyfoethog ydyn nig yng Nghymru?
  • Byddwch yn cyfoethogi’ch dealltwriaeth o sut allai’r ffactorau hyn effeithio ar fod dynol a gweithgaredd dyn.
  • Cewch y cyfle i ddysgu neu ymarfer sgiliau llythrennedd a rhifedd pwysig.

Dysgwch dermau daearyddol newydd wedi’u hamlygu’n borffor. Dylai’r rhain gael eu dysgu, a’u hychwanegu i eirfa. Rhestr o eiriau yw geirfa, a’u hystyron. Gallech gael un ar gefnau eich llyfr ymarferion daearyddiaeth; os oes dyddiadur gennych, efallai bydd yn lle da i’w chadw, neu efallai cadwech eirfa neu lyfr geiriau ar wahân i’ch llyfr ymarferion. Mae geirfa dda yn yn eich helpu wella eich geirfa a’ch llythrennedd. Ymchwiliwch i ystyron gan ddefnyddio cynnwys perthnasol i’r erthyglau, trafodaethau neu eiriadur (naill ai ar y we neu lyfr).

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Pa Mor Gyfoethog Ydw i?

Pa Mor Gyfoethog Ydw i?