40

Dollar Street

Mae Dollar Street yn ffordd newydd o edrych ar deuluoedd ar draws y byd. Mae’n rhoi pob teulu ar hyd stryd, gyda’r teulu tlotaf ar y chwith a’r teulu cyfoethocaf ar y dde.

Mae incwm pob teulu yn cael ei fesur drwy Ddoleri Unol Daleithiau America.

Mae Dollar Street yn wahanol achos dydy e ddim yn defnyddio rhifau neu ysgrifen i ddangos y gwahaniaethau, mae’n defnyddio lluniau.

Mae gan Dollar Street lithrydd i’w ddefnyddio i chi gael cymharu bywyd i’r teuluoedd.

Teulu Butoyi

Incwm y mis: $27

Mae teulu Butoyi yn byw yn Burundi. Mae Imelda yn 41 oed ac yn weithiwr fferm ar ei thir ei hun.

Mae ganddi 4 plentyn ac maen nhw’n byw gyda hi mewn tŷ sydd â 2 ystafell wely yr adeiladwyd trwy ddefnyddio mwd a pholion ganddynt.

Mae’n cymryd 40 munud iddyn nhw gerdded i gasglu dŵr, a threulir 14 awr yr wythnos yn casglu coed tân.

Mae teclyn Pa Mor Gyfoethog Ydw I? yn amcangyfrif fod 99.9% o’r boblogaeth yn fwy cyfoethog na theulu Butoyi. Edrychwch ar fywydau’r teulu anhygoel yma.

linc Gapminder 'Dollar Street' - Cliciwch isod

 

© Gapminder

Teulu

teulu

Ffwrn

ffwrn

To

to

Drws Ffrynt

drws ffrynt

Oergell

oergell

Casglu Dŵr

casglu dwr

Tŷ Bach

ty bach

Bwrdd gyda bwyd

bwrdd gyda bwyd

Teganau

teganau

Gadewch i ni symud ymlaen at deulu sy’n byw gyda $100 y mis.

Teulu Guispe de Tenorio o Beriw

Mae teulu Guispe de Tenorio yn byw ym Mheriw. Mae 8 aelod i’r teulu yn cynnwys 4 plentyn a 4 oedolyn. Mae’r oedolion yn gweithio i fusnes ailgylchu plastig. Mae’r teulu yn byw mewn tŷ sydd ag 1 ystafell wely, ac maen nhw’n talu 60 sol Periwaidd ($18) y mis am y rhent.

Mae gan eu tŷ drydan annibynadwy, dim dŵr rhedegog, ac mae’r tŷ bach tu allan i’r tŷ.

Mae dŵr yfed ar gael 5 munud o’r tŷ ac yn eu costio nhw 10% o’u hincwm.

Yn y gegin, maen nhw’n llosgi pren i goginio ac yn treulio 10 awr yr wythnos yn eu casglu.

Mae teclyn Pa Mor Gyfoethog Ydw I? yn amcangyfrif fod 89.2% o’r boblogaeth yn fwy cyfoethog na’r teulu yma, felly gyda’r holl waith caled mae’r teulu wedi dianc rhag y 10% isaf.

Y Teulu

teulu

Ffwrn

ffwrn

To

To

Drws Ffrynt

Drws ffrynt

Oergell

oergell

Dŵr yfed

dwr yfed

Tŷ Bach

ty bach

Bwrdd gyda bwyd

bwrdd gyda bwyd

Teganau

teganau

Gadewch i ni symud ymlaen at $1000 y mis, a theulu o'r DU. Mae'r teulu yma yn ennill tua £9,377 y flwyddyn.

Teulu Fernandez

Incwm y mis

$1,040

Mae teulu Fernandez yn byw yn Llundain yn y Deyrnas Unedig. Mae Diego yn 28 oed ac yn gogydd. Mae ei wraig yn 25 oed ac yn forwyn fwrdd. Maen nhw’n byw gyda’u mab sy’n 1 flwydd oed.

Mae teulu Fernandez yn byw mewn fflat â 2 ystafell wely.

Mae gan y fflat drydan dibynadwy, dŵr rhedegog, a thŷ bach.

Dydy teulu Fernandez ddim yn gallu arbed arian yn aml oherwydd caiff y rhan fwyaf ohono ei wario ar fwyd a rhent.

Mae teclyn Pa Mor Gyfoethog Ydw I? yn dweud bod y teulu hwn yn rhan o’r 25% uchaf y byd.

Teulu

teulu

Ffwrn

ffwrn

To

to

Drws Ffrynt

drws ffrynt

Oergell

oergell

Casglu Dŵr

casglu dwr

Tŷ Bach

ty bach

Bwrdd gyda bwyd

bwyd

Teganau

teganau

Gweithgaredd

Defnyddiwch Dollar Street i greu sleid PwyntPŵer yn dangos sut mae bywyd i ystod o bobl.

Defnyddiwch Dollar Street gyda theclyn Pa Mor Gyfoethog Ydw I? a cheisiwch ddangos teuluoedd o:

  • Y 10% isaf
  • Rhwng 20% a 20%
  • Rhwng 20% a 30%
  • Rhwng 60% a 70%
  • Rhwng 80% a 90%
  • Y 5% uchaf
  • Yr 1% uchaf 

Ble mae eich safle chi o’i gymharu â gweddill y byd?

A wyddoch chi hyn y bore yma?

Cwblhewch y daflen weithgaredd DME.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Pa Mor Gyfoethog Ydyn Ni?

Pa Mor Gyfoethog Ydyn Ni?

Pa Mor Gyfoethog Ydw i?

Pa Mor Gyfoethog Ydw i?