Pa mor gyfoethog ydyn ni?
Mewn grŵp bach, penderfynwch eich lleoliad ar yr agweddau isod yn nhermau’r canlynol:
A. Y 10%, sef y bobl fwyaf difreintiedig (y gwaethaf).
B. Rhwng 20%-10%, sef y grŵp o bobl fwyaf difreintiedig nesaf.
C. Rhwng 30%-20%, sef y grŵp o bobl fwyaf difreintiedig nesaf.
CH. Rhwng 40%-50%, sef y grŵp o bobl fwyaf difreintiedig nesaf.
D. Y 50% (hanner) o Gymru, sef yr hanner o bobl lleiaf difreintiedig.
Rhowch sgôr i bob un, o A (yr isaf) i D (yr uchaf).
Yn ddiweddar achos yr Etholiad Cyffredinol, mae pobl wedi dweud wrthym ein bod ni’n ddioddef yng Nghymru.
Ni yw’r bobl dlawd sy’n gweithio, neu’r JAM’s yn Saesneg (Just About Managing).
Rydyn ni’n gweld nifer yn fwy cyfoethog na ni; p’un ai yn ‘The Rich Kids on Instagram’ neu ‘The Real Housewives of Abercwmbucket’, rydyn ni’n ymwybodol mai ni sy’n cael amser caletach o’i gymharu â gweddill y byd; cytuno? Neu anghytuno?
Mae amddifadedd yn golygu pobl sydd ddim yn cael unhyw beth.
Dyma’r agweddau blaenorol:
Dyma’r ‘tirogaethau’ sy’n creu’r Mynegrif Amddifadedd Lluosog ar gyfer Cymru, neu’r M.A.Ll.C.
Mae nifer ohonom ni yn byw ein bywydau yn credu ein bod ni’n dlawd achos ein bod ni’n byw mor agos at bobl gyfoethog ac ein bod ni’n cymharu ein hunain â nhw.
Mae’r Deyrnas Unedig (yn dibynnu ar sut rydyn ni’n ei mesur) yn naill ai’r bumed neu’r chweched gwlad gyfoethocaf yn y byd.
Rydyn ni ymhlith y bobl dlotaf o fewn un o’r gwledydd cyfoethocaf y byd.
Weithiau, mae’n anodd gwybod yn union faint sydd gennym, yn enwedig wrth edrych ar bobl eraill yng Nghymru.
Un peth byddwch yn ei ddysgu wrth wneud hyn yw nad oes atebion syml, a gan amlaf bydd y bobl dlotaf yn byw y drws nesaf i’r bobl gyfoethocaf yng Nghymru.
Wrth i chi ddefnyddio gwefan StatsWales, gallwch chi nesáu at ardaloedd bach ar fap Arolwg Ordnans (AO) a dod o hyd i wybodaeth am bob tirogaeth.
Defnyddiwch wefan StatsWales i ddod o hyd i wybodaeth ar y gwahanol leoedd yng Nghymru ac i weld os yw’r pethau rydych chi’n eu credu yn wir, megis:
Gallwch chi ymchwilio i’ch ardal leol cyn bo hir ond isod yw esiampl o beth allwch chi ddod o hyd iddo; dyma fap Rhyl Gorllewin.
Ar y mapiau rhyngweithiol gallwch ddod o hyd i grynodeb i bob rhanbarth fel yr un yma, sef Rhyl Gorllewin sy’n rhoi safle gyflym.
Cofiwch beth ddywedon ni yn gynharach, fod y bobl fwyaf difreintiedig gan amlaf yn byw y drws nesaf i’r bobl leiaf difreintiedig.
Edrychwch ar y mannau poeth ar y map isod.
Rhestrwch bob lleoliad y mannau poeth yma o 1 (y mwyaf difreintiedig) i 9 (y lleiaf difreintiedig).
Ar sail beth rydych chi wedi gweld erbyn hyn, rhestrwch ranbarthau Cymru o 1 (y mwyaf difreintiedig) i 4 (y lleiaf difreintiedig)
Ar ôl darllen y tair erthygl, a chwblhau’r gweithgareddau, defnyddiwch y daflen A3 atodedig i’ch helpu chi ddechrau ar DME i mewn i ba mor gyfoethog ydyn ni yng Nghymru?
Caiff yr adnodd ei gynllunio’n adnodd dosbarth cyfan o flaen y dosbarth ar daflunydd/bwrdd gwyn rhyngweithiol.
Dylai’r gwaith graffig gwahanol gael ei egluro ar y testun, er na fydd yn ddarllenadwy gan y rhan fwyaf o’r disgyblion.
Yn dilyn hwn, bydd yn ddelfrydol i’r disgyblion gael mynediad i’r adnoddau ar-lein er mwyn gweithio ar y daflen weithgaredd (i’w hargraffu ar dudalen A3).
Yn ddelfrydol, caiff y gweithgareddau hyn eu cefnogi gan ddefnydd o ystafell rwydwaith, llechi/gliniaduron, neu ddyfeisiau/ffonau y disgyblion eu hunain os yw’n ganiataol.
Sut bynnag, caiff y gweithgareddau eu cynllunio ar gyfer gwers un awr, gyda’r athro/athrawes yn defnyddio’r adnodd o flaen y dosbarth ynghyd â’r daflen adnodd.
Gellir wedyn pennu gwaith cartref er mwyn i’r disgyblion astudio’r erthyglau o flaen llaw cyn y wers nesaf.
Mae’r adnodd a’r daflen wedi eu cynllunio i gefnogi’r FfLlRh tra bo’n rhoi gwybodaeth ddaearyddol bwysig i’r disgyblion am lefydd mewn perthynas â pha mor gyfoethog ydyn ni yng Nghymru.
Naill ai yn y dosbarth neu yn y ty, darllenwch a chwblhewch y gweithgareddau yn yr erthygl adnodd ar-lein, ac yn yr erthyglau atodedig yn y rhifyn hwn o Ddaearyddiaeth yn y Newyddion. Ceisiwch gwblhau pob gweithgaredd sydd ar y daflen adnodd.
Beth fyddwch yn ei ddysgu:
Dysgwch dermau daearyddol newydd wedi’u hamlygu’n borffor. Dylai’r rhain gael eu dysgu, a’u hychwanegu i eirfa. Rhestr o eiriau yw geirfa, a’u hystyron. Gallech gael un ar gefnau eich llyfr ymarferion daearyddiaeth; os oes dyddiadur gennych, efallai bydd yn lle da i’w chadw, neu efallai cadwech eirfa neu lyfr geiriau ar wahân i’ch llyfr ymarferion. Mae geirfa dda yn yn eich helpu wella eich geirfa a’ch llythrennedd. Ymchwiliwch i ystyron gan ddefnyddio cynnwys perthnasol i’r erthyglau, trafodaethau neu eiriadur (naill ai ar y we neu lyfr).