Mae Dollar Street yn ymgyrch newydd sy’n tyfu’n gyflym, yn edrych ar deuluoedd ar draws y byd. Mae’n rhoi pob teulu ar hyd stryd, gyda’r teulu tlotaf ar y chwith o Burundi yn Affrica (cafwyd yr erthygl yma ei hysgrifennu ym mis Mai 2017, felly mae disgwyl i’r data yma newid) sy’n byw gydag incwm o $27 y mis (rydyn ni bob tro yn defnyddio doleri ($) gan ei fod yn gymhariaeth deg), a’r teulu cyfoethocaf ar y dde sydd o China gydag incwm o $10,098 y mis.
Mae gwerth yr incwm ($) yn cael eu haddasu i rywbeth a gaiff ei alw’n PGP (sef Paredd Gallu Prynu), sy’n addasu’r incwm i faint byddai’n costio i brynu basged nodweddiadol o nwyddau mewn siop leol. Mae hyn yn golygu ein bod ni’n gallu cymharu’n deg o le i le. Pe na byddem yn gwneud hyn, byddai teulu o Lundain yn edrych yn gyfoethog, ond mewn gwirionedd mae eu holl arian i gyd yn mynd ar rent, sydd yn uchel iawn yn Llundain.
Mae gan rai gwledydd fel India nifer o deuluoedd gwahanol wedi’u lledaenu ar draws y stryd, oherwydd mae gan India nifer o bobl sy’n dlawd iawn ond hefyd nifer mawr o’r lefelau canol ac uwch.
Mae dros 1.3 biliwn pobl yn byw yn India felly byddem yn disgwyl hyn. Sut bynnag, mae gan y rhan fwyaf o wledydd un teulu i ddangos y bywyd teulu nodweddiadol.
Mae Dollar Street yn wahanol achos dydy e ddim yn defnyddio rhifau neu ysgrifen i ddangos y gwahaniaethau, mae’n defnyddio lluniau.
Mae gan Dollar Street lithrydd i’w ddefnyddio i chi gael cymharu bywyd i’r teuluoedd.
Incwm y mis: $27
Mae teulu Butoyi yn byw yn Burundi. Mae Imelda yn 41 oed ac yn weithiwr fferm ar ei thir ei hun.
Mae ganddi 4 plentyn ac maen nhw’n byw gyda hi mewn tŷ sydd â 2 ystafell wely yr adeiladwyd trwy ddefnyddio mwd a pholion ganddynt.
Mae’n cymryd 40 munud iddyn nhw gerdded i gasglu dŵr, a threulir 14 awr yr wythnos yn casglu coed tân.
Mae teclyn Pa Mor Gyfoethog Ydw I? yn amcangyfrif fod 99.9% o’r boblogaeth yn fwy cyfoethog na theulu Butoyi. Edrychwch ar fywydau’r teulu anhygoel yma.
linc Gapminder 'Dollar Street' - Cliciwch isod
© Gapminder
Gadewch i ni symud ymlaen at deulu sy’n byw gyda $100 y mis.
Mae teulu Guispe de Tenorio yn byw ym Mheriw. Mae 8 aelod i’r teulu yn cynnwys 4 plentyn a 4 oedolyn. Mae’r oedolion yn gweithio i fusnes ailgylchu plastig. Mae’r teulu yn byw mewn tŷ sydd ag 1 ystafell wely, ac maen nhw’n talu 60 sol Periwaidd ($18) y mis am y rhent.
Mae gan eu tŷ drydan annibynadwy, dim dŵr rhedegog, ac mae’r tŷ bach tu allan i’r tŷ.
Mae dŵr yfed ar gael 5 munud o’r tŷ ac yn eu costio nhw 10% o’u hincwm.
Yn y gegin, maen nhw’n llosgi pren i goginio ac yn treulio 10 awr yr wythnos yn eu casglu.
Mae teclyn Pa Mor Gyfoethog Ydw I? yn amcangyfrif fod 89.2% o’r boblogaeth yn fwy cyfoethog na’r teulu yma, felly gyda’r holl waith caled mae’r teulu wedi dianc rhag y 10% isaf.
Gadewch i ni symud ymlaen at $1000 y mis, a theulu o'r DU. Mae'r teulu yma yn ennill tua £9,377 y flwyddyn.
Incwm y mis
$1,040
Mae teulu Fernandez yn byw yn Llundain yn y Deyrnas Unedig. Mae Diego yn 28 oed ac yn gogydd. Mae ei wraig yn 25 oed ac yn forwyn fwrdd. Maen nhw’n byw gyda’u mab sy’n 1 flwydd oed.
Er mwyn cael cymhariaeth deg mae enillion y teulu wedi’u newid i $UDA – mae hyn yn addasu gwerthoedd ar sail y gwahanol gostau o bethau gwahanol. Yn Llundain er enghraifft mae cost y rhent yn uchel iawn, ac mae’r teulu yn talu $1500 y mis ar ei gyfer.
Mae teulu Fernandez yn byw mewn fflat â 2 ystafell wely.
Mae gan y fflat drydan dibynadwy, dŵr rhedegog, a thŷ bach.
Dydy teulu Fernandez ddim yn gallu arbed arian yn aml oherwydd caiff y rhan fwyaf ohono ei wario ar fwyd a rhent.
Mae teclyn Pa Mor Gyfoethog Ydw I? yn dweud bod y teulu hwn yn rhan o’r 25% uchaf y byd.
Defnyddiwch Dollar Street i greu sleid PwyntPŵer yn dangos sut mae bywyd i ystod o bobl.
Defnyddiwch Dollar Street gyda theclyn Pa Mor Gyfoethog Ydw I? a cheisiwch ddangos teuluoedd o:
Ble mae eich safle chi o’i gymharu â gweddill y byd?
A wyddoch chi hyn y bore yma?
Cwblhewch y daflen weithgaredd DME.