36

Rhagfynegi, cynllunio a pharatoi ar gyfer peryglon tectonig

Rhagfynegi, cynllunio a pharatoi ar gyfer peryglon tectonig

Rhagfynegi

Yr offer pwysicaf ar gyfer rhagfynegi digwyddiad seismig yw seismomedr, sy’n mesur dirgryniadau’r ddaear neu pan fydd y Ddaear yn ysgwyd.

Mae’r diagramau neu’r seismograffs mae’n ei gynhyrchu yn gallu helpu daearegwyr i ragfynegi ffrwydradau folcanig ac efallai i roi rhai eiliadau o rybudd o ddaeargryn (nid oes modd rhagfynegi daeargrynfeydd yn gywir ar hyn o bryd).

Llun: Seismogram at Weston Observatory - Z22 © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported

Ydych chi’n cofio’r diagram hwn o’r rhifyn diwethaf o Daearyddiaeth yn y Newyddion?

Llun: Epicentre Diagram - Ansate / Sam Hocevar © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 1.0 Generic

Mae tonnau diniwed o ynni’n ymestyn drwy gorff y ddaear ac yn teithio’n uniongyrchol i wyneb y ddaear. Mae’r tonnau corff yn cyrraedd man ar seismomedr ar ffurf patrwm sy’n cael ei alw’n donnau C ac E (Cynradd ac Eilaidd).

Tonnau wyneb yw’r tonnau peryglus.

Mae’r rhain yn ymestyn allan o’r uwchganolbwynt ar ôl i egni gyrraedd yr wyneb uwchben yr isganolbwynt (y ffocws).

Llun: Seismogram - Pekachu © English Wikipedia

Mae’r tonnau wyneb hyn yn cyrraedd ddegau o eiliadau ar ôl y tonnau C ac E. Nid yw hyn yn swnio’n llawer o amser ond mae larymau awtomatig yn gallu:

  • Tynnu caeadau awtomatig dros ffenestri
  • Cau falfiau nwy a dŵr yn awtomatig
  • Swnio larwm fel bod pobl yn gallu mynd i leoliad mwy diogel (yn ddigon pell o adeiladau uchel, i mewn i gysgodfa rhag daeargrynfeydd, o dan ffrâm drws neu fwrdd).
  • Troi systemau rhybuddio rhag tswnami ymlaen. Mae’r rhain y bwysig iawn er mwyn achub bywyd pobl.

Gallai cynnydd yn y cryniadau ar hyd ffawt fod yn arwydd bod daeargryn yn fwy tebygol o ddigwydd, ond mae rhagfynegi daeargrynfeydd yn wyddoniaeth nad yw wedi cael ei datblygu’n dda iawn ac mae’n annibynadwy iawn.

Mae patrwm seismograff penodol o’r enw cryndod harmonig yn gallu rhagfynegi’n gywir bod magma’n symud o dan losgfynydd a bod ffrwydrad yn mynd i ddigwydd efallai. Mae’n bwysig wrth helpu gyda daeargrynfeydd hefyd.

Mae nwyon o gwmpas llosgfynyddoedd yn dod allan o fygdyllau ac mae samplu a dadansoddi’r nwyon hyn wrth iddyn nhw newid yn gallu rhagfynegi a fydd ffrwydrad yn debygol o ddigwydd.

Llun: Baker Fumarole - W. Chadwick / USGS © Public Domain

Mae samplu a dadansoddi newidiadau yng nghemeg dŵr mewn ffynhonnau poeth yn gallu bod yn ddangosydd da o gynnydd mewn gweithgaredd folcanig hefyd.

Llun: Fumarola, Vulcano, Sicilia, Italia, 2015 - Benjamín Núñez González © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 4.0 International

Mae cyfrifo’r amser mae’r ffynhonnau’n cymryd i ail-lenwi, ar sail cofnodion hanesyddol a daearegol, yn gallu arwain at ragfynegi bod ffrwydrad ar fin digwydd.

Llun: Churning Caldron - Brocken Inaglory © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported

Hyd yn ddiweddar, roedd daearegwyr yn mesur ongl llethrau a’r pellter rhwng pwyntiau penodol er mwyn gweld a oedd yr wyneb yn symud. Gallai hyn helpu i ragfynegi ffrwydradau llosgfynyddoedd.

Heddiw, mae mwyafrif y mesuriadau hyn yn cael eu gwneud drwy synhwyro o bell o loerennau ac weithiau mae camerâu 3D arbennig yn cael eu rhoi ar awyrennau.

Llun: A-Train w-Time2013 Web - NASA JPL / NASA © Public Domain

Cynllunio

Mae lloerennau, seismograffs a mesuriadau uniongyrchol yn helpu daearegwyr i gynhyrchu map o beryglon ac i ystyried pa mor debygol ydynt o ddigwydd.

Mae deddfau’n cael eu pasio fel bod adeiladau sy’n cael eu codi mewn ardaloedd sydd mewn perygl o gael daeargrynfeydd yn cael eu hadeiladu fel eu bod yn gallu gwrthsefyll daeargrynfeydd cryf.

Llun: ExteiorShearTruss - Leonard G. © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 1.0 License

Llun: ExtReenfDetail - Leonard G. © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 1.0 License

Mae modd gwella hen adeiladau hefyd, drwy atgyfnerthu’r tu allan a gosod byllt daeargrynfeydd fel eu bod nhw’n gallu gwrthsefyll daeargrynfeydd.

Llun: Charlestonbolt - RegBarc © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported

Mae rhai cynllunwyr dinesig wedi cynllunio blociau parhaus o adeiladau er mwyn bod yn fwlch tân. Mae’r rhain, ynghyd ag afonydd a pharciau mawr, yn rhoi mannau diogel i bobl fedru cael lloches rhag tanau sy’n cael eu hachosi’n aml gan ddaeargrynfeydd.

Cysyniad allweddol arall yw peidio ag adeiladu mewn ardaloedd lle mae pergylon penodol nad oes modd eu gwrthesfyll drwy beirianneg. Yr enw ar ardaloedd o’r fath yw ardaloedd y ‘llinell goch’ - yn sgil yr arfer o dynnu llinellau coch ar fapiau/cynlluniau o ardaloedd lle nad oes hawl adeiladu neu lle mae cyfyngu ar yr hawl i wneud.

Paratoi

‘Gorau arf arfer’ ac mae’n bwysig ymarfer beth i’w wneud os bydd argyfwng yn digwydd. Mae ymarfer gwacáu adeilad mewn argyfwng oherwydd peryglon folcanig ac ymarferion rhag daeargrynfeydd yn rhan bwysig iawn o achub bywydau pan fydd trychineb yn digwydd. Yn Japan, mae dydd argyfwng bob blwyddyn ac mae’r cyhoedd a’r gwasanaethau brys yn ymarfer beth i’w wneud os bydd trychineb fel daeargryn, ffrwydrad llosgfynydd neu tswnami yn digwydd.

Gweithgaredd myfyrwyr

Defnyddiwch y daflen gweithgareddau A3 i’ch helpu chi i feddwl beth fyddech chi’n ei wneud pe baech chi â gofal am dref neu ddinas sy’n agos at un o’r llosgfynyddoedd mawr sydd yn erthygl 2.

Mae tair miliwn o bobl yn byw yn ninas Napoli, er enghraifft, a gellid ei dinistrio pe bai Mynydd Vesuvius yn ffrwydro ar yr un raddfa ag y gwnaeth yn 79 OC. Mae ffrwydradau ar y raddfa hon yn digwydd bob rhyw 2,000 o flynyddoedd, felly gallai ffrwydrad mawr arall ddechrau unrhyw ddiwrnod nawr.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Mathau gwahanol o losgfynyddoedd

Mathau gwahanol o losgfynyddoedd

Ymchwilio i fathau gwahanol o ffiniau platiau a pheryglon

Ymchwilio i fathau gwahanol o ffiniau platiau a pheryglon