36

Mathau gwahanol o losgfynyddoedd

Dechreuon ni edrych ar fathau gwahanol o losgfynyddoedd yn y brif erthygl ond mae angen deall rhai termau allweddol eraill:

  • Llosgfynyddoedd byw – nid yw gwyddonwyr yn gallu cytuno ar un diffiniad penodol ond yr un sy’n cael ei dderbyn gan y mwyafrif yw bod llosgfynydd yn fyw os yw wedi ffrwydro neu wedi dangos arwyddion o weithgaredd megis cryndod neu allyriad o nwyon o fewn hanes cofnodedig (tua'r 2,000 o flynyddoedd diwethaf).
  • Llosgfynyddoedd marw – unwaith eto, nid yw gwyddonwyr yn gallu cytuno, ond os nad oes gan losgfynydd gyflenwad o fagma, yna y farn yw na fydd yn ffrwydro eto ac fe’i gelwir yn llosgfynydd marw.
  • Llosgfynyddoedd cwsg – unwaith eto, nid yw gwyddonwyr yn gallu cytuno, ond fel arfer mae llosgfynyddoedd sydd heb ffrwydro o fewn hanes cofnodedig ond sy’n parhau i gynnwys cyflenwad o fagma, ac felly sy’n gallu ffrwydro rywbryd eto, yn cael eu galw’n llosgfynyddoedd cwsg neu’n llosgfynyddoedd mud. Mae’n cymryd amser maith i ambell siambr magma llosgfynydd lenwi, e.e. tua 700,000 o flynyddoedd ar gyfer llosgfynydd Yellowstone yn UDA.

Weithiau, mae gwyddonwyr yn synnu pan fydd llosgfynydd, sy’n ymddangos fel petai’n farw, yn dod yn ôl yn fyw unwaith eto. Mae llosgfynydd Soufrière Hills, yn nhiriogaeth dramor Prydain, Montserrat, yn enghraifft o hyn. Daeth hwn yn ôl yn fyw yn sydyn ym 1995.

Llun: Soufrière 2009 eruption - NASA International Space Station, Expedition 21 crew / NASA © Public Domain

Llun: Plates tect2 en - USGS © Public Domain

Llun: Spreading ridges volcanoes map-en - Eric Gaba (Sting) © Public Domain

Cymharwch y map uchod, sy’n dangos llosgfynyddoedd byw, gyda’r map topograffigol isod.

Llun: Plate tectonics map - Michael Metzger / NASA © Public Domain

Mae llawer o losgfynyddoedd mwyaf gweithredol a mwyaf peryglus y byd yn y cylchfan tansugno sydd ar hyd ymylon plât y Cefnfor Tawel yn bennaf.

Yr enw ar ymylon plât y Cefnfor Tawel weithiau yw’r ‘Cylch Tân’ ac mae mwyafrif yr ardaloedd mwyaf peryglus o safbwynt llosgfynyddoedd wedi’u lleoli ar hyd y Cylch Tân, yn enwedig o gwmpas Indonesia.

Y Cylch Tân

Llun: Pacific Ring of Fire - Gringer © Public Domain

Indonesia

Llun: Map indonesia volcanoes - Lyn Topinka / USGS © Public Domain

Mynydd Rinjani, Lombok, Indonesia, 1994

Llun: Rinjani 1994 - Oliver Spalt © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported

Peryglon folcanig

Ffrwydrad – pan fydd magma’n ludiog, nid yw nwy’n gallu dianc ac mae’n cronni, gan arwain maes o law at ffrwydrad. Os bydd hyn yn digwydd yn fertigol, ni fydd llawer o ddifrod, ond weithiau, mae’r ffrwydrad yn un ochrol (o ochr y llosgfynydd) ac mae hyn yn gallu gwastatáu coedwigoedd neu unrhyw beth arall sydd yn ei lwybr am sawl cilometr. Digwyddodd hyn adeg ffrwydrad mynydd St Helens, UDA, ym 1980.

Cyn

 

Ar ôl

Llun: Mount St Helens Summit Pano II - Gregg M. Erickson © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported

Cwmwl Lludw – pan fydd y ffrwydrad yn un fertigol, mae’n taflu darnau o gerrig lafa sydd wedi’u hoeri’n gyflym i’r awyr. Mae’r lludw hwn yn cael ei daflu sawl cilometr i’r atmosffer. Mae’r gwynt yn gallu cario’r lludw hwn sawl cilometr cyn iddo syrthio i’r ddaear, gan orchuddio adeiladau a chael ei anadlu i mewn.

Bomiau folcanig – mae creigiau mwy yn cael eu chwythu i fyny i’r awyr gan y ffrwydradau. Mae’r rhain yn glanio’n nes at y llosgfynydd.

Llifoedd pyroclastig – mae’r rhain yn digwydd pan na fydd hyrddiad y ffrwydrad tuag i fyny yn gallu cynnal y nwy, y lludw a’r creigiau poeth o fewn y golofn.

Bydd y golofn yn syrthio i lawr ac yna’n llifo i lawr ochrau’r llosgfynydd fel cwmwl poeth iawn (dros 400˚C fel arfer) o nwy a lludw.

Dinas St Pierre, Martinique, a ddinistriwyd gan lif pyroclastig ym 1902. Yn ôl yr hanes, dim ond un person a ddaeth allan yn fyw - dyn a oedd yn garcharor mewn dwnsiwn.

Llun: Pelee 1902 3 - RGM~commonswiki © Public Domain {{PD-US}}

Lahar - cyfuniad o ludw a glaw trwm (mae ffrwydrad folcanig yn achosi stormydd o law yn aml iawn) neu eira a rhew sy’n toddi ac yn creu afonydd o fwd trwchus a chreigiau. Mae’r rhain yn gallu dinistrio coedwigoedd ac adeiladau ac yna maen nhw’n caledu fel concrid.

Lahar cyn ac ar ôl – Mynydd Pinatubo

Llun: River valley filled in by pyroclastic flows, Mt. Pinatubo - Magalhães © Public Domain

Cwymp ochrol – mae ochr llosgfynydd yn hollti ac yn llifo fel tirlithriad anferth. Digwyddodd hyn pan ffrwydrodd Mynydd St Helens ym 1980 a dyna pam roedd y ffrwydrad yn un ochrol yn hytrach nag yn fertigol.

Os bydd cwymp ochrol yn digwydd ar ynys folcanig, gall y tirlithriad achosi ton anferth neu tswnami.

Mae tystiolaeth bod cwymp ochrol yn Ynysoedd Dedwydd yn y gorffennol wedi achosi tswnami dros 100 metr o uchder, sef megatswnami. Gallai’r rhain ddinistrio popeth ar hyd morlin y Môr Iwerydd. Bu farw 36,000 o bobl ar ôl i losgfynydd Krakatau (Krakatoa) yn Indonesia gwympo (mae rhai arbenigwyr yn credu bod y nifer yn nes at 120,000). Bu farw’r rhan fwyaf ohonyn nhw oherwydd y tswnamis anferth a achoswyd ar ôl i’r llosgfynydd gwympo.

Llifoedd lafa – nid yw’r rhain yn rhy beryglus i bobl a dweud y gwir (os nad ydyn nhw’n ffôl iawn neu’n anlwcus iawn) oherwydd mae’r lafa gludiog yn symud yn rhy araf i fod yn beryglus i bobl. Mae lafa hylifol yn ffurfio pistyll lafa ac mae’n gallu teithio mewn afonydd yn gynt nag y mae’r rhan fwyaf o bobl yn gallu rhedeg. Pan fydd hyn yn digwydd, bydd y lafa’n llifo o fewn sianelau cyfarwydd. Perygl i adeiladau yw prif fygythiad lafa hylifol.

Lafa hylifol yn pistyllio, Kiauea

Llun: Pahoeoe fountain original - Jim D. Griggs, HVO (USGS) staff photographer / USGS © Public Domain

Newid yn yr hinsawdd – mae hyn yn gallu digwydd wrth i nwy megis sylffwr deuocsid achosi i’r tywydd oeri a gall lludw a llwch achosi i wres o’r haul gael ei wasgaru a’i adlewyrchu’n ôl i’r atmosffer. Ar ôl ffrwydrad Krakatau ym 1883, cymerodd hi bum mlynedd i dymheredd y byd ddychwelyd i lefel normal ac ym 1884 roedd prinder bwyd difrifol ym mhob man bron.

Gweithgaredd disgyblion

Mewn grŵp, ymchwiliwch i un o’r llosgfynyddoedd/ffrwydradau enwog yn y sioeau sleidiau isod ac ysgrifennwch sgript ar gyfer cyflwyno’r wybodaeth.

Mynydd St Helen

Llun: MSH82 st helens plume from harrys ridge 05-19-82 - Lyn Topinka / USGS © Public Domain

Krakatau

Llun: Map krakatau - USGS © Public Domain

Mynydd Etna, Yr Eidal

Llun: 04Sep2007 Etna from SE Crater - Jason Bott, Christopher Berger, Pete Garza © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported

Mynydd Pinatubo - Ynysoedd y Pilipinas

Llun: DC-10-30 resting on its tail due to Pinatubo ashfall - R.L. Rieger / U.S. Geological Survey © Public Domain

Mynydd Pelee, Martinique

Llun: Pelee 1902 3 - RGM~commonswiki © Public Domain {{PD-US}}

Mynydd Vesuvius, Yr Eidal

Llun: Vesuvius from plane - Pastorius © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported 

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Rhagfynegi, cynllunio a pharatoi ar gyfer peryglon tectonig

Rhagfynegi, cynllunio a pharatoi ar gyfer peryglon tectonig

Ymchwilio i fathau gwahanol o ffiniau platiau a pheryglon

Ymchwilio i fathau gwahanol o ffiniau platiau a pheryglon