36

Rhagfynegi, cynllunio a pharatoi ar gyfer peryglon tectonig

Rhagfynegi, cynllunio a pharatoi ar gyfer peryglon tectonig

Rhagfynegi

Yr offer pwysicaf ar gyfer rhagfynegi digwyddiad seismig yw seismomedr, sy’n mesur y Ddaear pan fydd yn ysgwyd.

Mae’r diagramau mae’n ei gynhyrchu yn cael eu galw’n seismograffs.

Llun: Seismogram at Weston Observatory - Z22 © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported

Ydych chi’n cofio’r diagram hwn o’r rhifyn diwethaf o Daearyddiaeth yn y Newyddion?

Llun: Epicentre Diagram - Ansate / Sam Hocevar © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 1.0 Generic

Mae tonnau bach o ynni’n ymestyn drwy gorff y ddaear ac yn teithio mewn llinell syth o’r ffocws i fan ar wyneb y ddaear.

Yr enw ar y tonnau corff yw tonnau C ac E (Cynradd ac Eilaidd).

Tonnau corff sy’n cyrraedd yn gyntaf ac maen nhw’n ddigon diniwed fel arfer.

Tonnau wyneb yw’r tonnau peryglus.

Mae tonnau wyneb yn gorfod cyrraedd wyneb y ddaear yn gyntaf ac yna maen nhw’n ymestyn allan fel crychau ar wyneb llyn.

Llun: Seismogram - Pekachu © English Wikipedia

Mae’r tonnau wyneb hyn yn cyrraedd ddegau o eiliadau ar ôl y tonnau C ac E. Nid yw hyn yn swnio’n llawer o amser ond mae larymau awtomatig yn gallu:

  • Tynnu caeadau awtomatig dros ffenestri
  • Cau falfiau nwy a dŵr yn awtomatig
  • Swnio larwm fel bod pobl yn gallu mynd i leoliad mwy diogel
  • Troi systemau rhybuddio rhag tswnami ymlaen.

Mae patrwm seismograff penodol o’r enw cryndod harmonig yn gallu rhagfynegi’n gywir bod magma’n symud o dan losgfynydd a bod ffrwydrad yn mynd i ddigwydd o bosib. Mae’n bwysig wrth helpu gyda daeargrynfeydd hefyd.

Mae nwyon o gwmpas llosgfynyddoedd yn dod allan o fygdyllau ac mae gwyddonwyr yn chwilio am unrhyw newidiadau yn y nwyon er mwyn gweld a yw ffrwydrad yn debygol o ddigwydd.

Llun: Baker Fumarole - W. Chadwick / USGS © Public Domain

Mae gwirio dŵr mewn ffynhonnau poeth yn gallu dangos a yw llosgfynydd yn mynd i ffrwydro cyn hir o bosib.

Llun: Fumarola, Vulcano, Sicilia, Italia, 2015 - Benjamín Núñez González © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 4.0 International

Mae cyfrifo’r amser rhwng ffrwydradau yn gallu dangos pa mor aml mae llosgfynydd yn ffrwydro.

Llun: Churning Caldron - Brocken Inaglory © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported

Hyd yn ddiweddar, roedd pobl yn mesur ongl llethrau a’r pellter rhwng pwyntiau penodol er mwyn gweld a oedd yr wyneb yn symud.

Heddiw, mae mwyafrif y mesuriadau hyn yn cael eu gwneud drwy synhwyro o bell o loerennau ac weithiau mae camerâu 3D arbennig yn cael eu rhoi ar awyrennau.

Llun: A-Train w-Time2013 Web - NASA JPL / NASA © Public Domain

Cynllunio

Mae lloerennau, seismograffs a mesuriadau uniongyrchol yn helpu daearegwyr i gynhyrchu map o beryglon.

Mae deddfau’n cael eu pasio fel bod adeiladau sy’n cael eu codi mewn ardaloedd sydd mewn perygl o gael daeargrynfeydd yn cael eu hadeiladu fel eu bod yn gallu gwrthsefyll daeargrynfeydd cryf.

Llun: ExteiorShearTruss - Leonard G. © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 1.0 License

Llun: ExtReenfDetail - Leonard G. © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 1.0 License

Mae modd gwella hen adeiladau hefyd, drwy atgyfnerthu’r tu allan a gosod byllt daeargrynfeydd fel eu bod nhw’n gallu gwrthsefyll daeargrynfeydd.

Llun: Charlestonbolt - RegBarc © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported

Mae rhai cynllunwyr dinesig wedi cynllunio blociau parhaus o adeiladau er mwyn rhwystro tanau sy’n cael eu hachosi’n aml gan ddaeargrynfeydd.

Mae parciau’n cael eu creu ar hyd afonydd fel bod lleoedd diogel i bobl gael lloches rhag tanau.

Mae’n rhy beryglus i godi adeiladau mewn rhai lleoedd. Yr enw ar ardaloedd o’r fath yw ardaloedd y ‘llinell goch’ oherwydd bod cynllunwyr yn tynnu llinellau coch ar fapiau o’r lleoedd hyn.

Paratoi

‘Gorau arf arfer’ ac mae’n bwysig ymarfer beth i’w wneud os bydd argyfwng yn digwydd.

Mae ymarfer gwacáu adeilad mewn argyfwng oherwydd peryglon folcanig ac ymarferion rhag daeargrynfeydd yn rhan bwysig iawn o achub bywydau pan fydd trychineb yn digwydd.

Yn Japan, mae dydd argyfwng bob blwyddyn ac mae’r cyhoedd a’r gwasanaethau brys yn ymarfer beth i’w wneud os bydd trychineb yn digwydd.

Gweithgaredd myfyrwyr

Defnyddiwch y daflen gweithgareddau A3 i’ch helpu chi i feddwl beth fyddech chi’n ei wneud pe baech chi’n gyfrifol am dref neu ddinas sy’n agos at un o’r llosgfynyddoedd mawr sydd yn erthygl 2.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Mathau gwahanol o losgfynyddoedd

Mathau gwahanol o losgfynyddoedd

Ymchwilio i fathau gwahanol o ffiniau platiau a pheryglon

Ymchwilio i fathau gwahanol o ffiniau platiau a pheryglon