© British Broadcasting Corporation (BBC)
© British Broadcasting Corporation (BBC)
Yn y rhifyn diwethaf o Daearyddiaeth yn y Newyddion, edrychon ni’n fanwl ar fathau gwahanol o ffiniau platiau a daeargrynfeydd. Edrychwch eto ar y diagram hwn o’r rhifyn diwethaf neu ewch yn ôl i’w ddarllen e eto.
Llun: Tectonic plate boundaries - Jose F. Vigil. USGS © Public Domain
Yn y rhifyn hwn, rydyn ni’n mynd i edrych ar y prif fath arall o berygl sy’n gysylltiedig â thectoneg platiau, sef llosgfynyddoedd, ac i orffen, byddwn ni’n edrych yn yr erthygl gysylltiol olaf ar yr hyn y gallwn ni ei wneud i gynllunio, paratoi ac, efallai, rwystro, rhai o’r peryglon sy’n cael eu hachosi gan ddaeargrynfeydd a llosgfynyddoedd.
Cofiwch strwythur y ddaear: fod y platiau anhyblyg (y gramen a’r fantell uchaf) yn symud ar geryntau darfudo yng nghreigiau poeth a meddal y fantell islaw iddyn nhw.
Pan fydd dau blât yn symud oddi wrth ei gilydd, bydd daeargrynfeydd ’cymharol’ wan yn digwydd yn yr ardal sydd ar y ffin ond bydd llawer o weithgaredd folcanig. Edrychwch eto ar y diagram hwn o’r rhifyn diwethaf.
Llun: Continental-continental constructive plate boundary - domdomegg © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 4.0 International
Yn y rhifyn diwethaf, edrychon ni ar Gefnen Canol y Môr Iwerydd ac ar Wlad yr Iâ fel enghraifft dda.
Rhaid i’r bobl sy’n byw yng Ngwlad yr Iâ ymdopi â llawer o weithgaredd folcanig yn ogystal â daeargrynfeydd ‘gwan’.
Mae’r math o fagma sy’n cael ei greu ar ffiniau Dargyfeiriol yn dueddol o fod yn hylifol (rhedegog) iawn - ewch yn ôl i’r rhifyn blaenorol er mwyn darllen disgrifiad manwl o sut mae magma’n cael ei ffurfio. Pan fydd yn cyrraedd yr wyneb ac yn troi’n lafa, mae’n gallu llifo’n hawdd dros sawl cilometr. O ganlyniad, mae’n creu llosgfynyddoedd llydan gyda llethrau graddol sy’n edrych fel tarian rhyfelwr o gyfnod yr Eingl-Sacsoniaid neu’r Llychlynwyr. Felly, yr enw ar y llosgfynyddoedd hyn yw llosgfynyddoedd tarian.
Llun: Skjaldbreidur Herbst 2004 - Reykholt © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported
Llun: Hawaiian Eruption-numbers - Sémhur © Wikimedia Commons
Byddwn yn edrych ar bob un o’r rhain yn fanylach yn nes ymlaen.
Pan fydd platiau’n cael eu gwthio at ei gilydd, efallai y bydd gweithgaredd folcanig yn digwydd os bydd un o’r platiau hyn wedi cael ei wneud o gramen gefnforol. Mae modd i’r gramen gefnforol gael ei gwthio i lawr i’r fantell a bydd rhannau ohoni’n toddi.
Llun: Continental-continental destructive plate boundary - domdomegg © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 4.0 International
Yn y rhifyn diwethaf, edrychon ni ar sut mae magma’n cael ei wneud ger ffiniau cydgyfeiriol. Yn y rhifyn hwn, mae’n bwysig deall bod y magma sydd i’w gael yno yn drwchus iawn ac yn ludiog.
Nid yw magma gludiog yn gallu llifo’n hawdd, felly bydd hyn yn arwain at greu llosgfynyddoedd siâp côn gydag ochrau serth pan fydd yn cyrraedd yr wyneb ac yn troi’n lafa.
Llun: Vesuvius from plane - Pastorius © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported
Nodwedd arall o fagma/lafa trwchus gludiog yw nad yw’r nwyon toddedig sydd ynddo yn gallu dianc yn hawdd ac mae hyn yn nodwedd bwysig iawn.
Llun: 04Sep2007 Etna from SE Crater - Jason Bott, Christopher Berger, Pete Garza © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported
Pan fydd magma trwchus, gludiog o ffin gywasgol yn cyrraedd yr wyneb, mae’r gwasgedd yn lleihau ac mae’r nwy’n dod allan o’r toddiant ond nid yw’n gallu dianc. Mae’r nwy hwn yn cynyddu hyd nes bydd y gwasgedd mor fawr, bydd yn achosi ffrwydrad. Mae’r ffrwydrad hwn yn taflu’r creigiau a’r magma uwchben i’r awyr ar ffurf lludw folcanig a bomiau folcanig.
Llun: Sarychev Peak eruption on 12 June 2009, oblique satellite view - ISS Crew Earth Observations experiment and Image Science & Analysis Laboratory, Johnson Space Center / NASA © Public Domain
Dyna pam mae llosgfynyddoedd sydd ger y ffiniau hyn yn cynnwys haenau trwchus o ludw a haenau o lafa. Yn aml iawn, yr enw ar y math hwn o losgfynydd yw llosgfynydd côn cyfansawdd er, yr enw gwyddonol arno yw stratolosgfynydd.
Llun: Plinian Eruption-numbers - Sémhur © Wikimedia Commons
Dyma’r ddau brif fath o echdoriad folcanig mae disgwyl i fyfyrwyr daearyddiaeth wybod amdanyn nhw ond mae sawl math arall ar gael, yn dibynnu ar eu lleoliad ac ar y mathau gwahanol o fagma. Defnyddiwch y sioe sleidiau isod er mwyn dysgu mwy am y mathau gwahanol o losgfynyddoedd.
Fel arfer, nid oes llosgfynyddoedd i’w cael ble mae dau blat o gramen gyfandirol yn taro yn erbyn ei gilydd neu ble mae ffiniau cadwrol. Fodd bynnag, weithiau mae llosgfynyddoedd i’w cael gryn bellter o ymylon y platiau ble mae man poeth yn digwydd ym mantell y ddaear. Nid yw gwyddonwyr yn hollol sicr ynglŷn â beth sy’n achosi’r mannau poeth hyn ond rydyn ni’n gwybod hyn - pan fydd y plât uwchben yn symud dros y man poeth, bydd llosgfynydd yn cael ei ffurfio.
Y man poeth enwocaf yw Ynysoedd Hawäi, a gafodd eu ffurfio wrth i blat y Cefnfor Tawel symud dros fan poeth.
Llun: Hotspot(geology)-1 - Los688 © Public Domain
O edrych o dan wyneb y Cefnfor Tawel, rydyn ni’n gallu gweld rhes hir o hen losgfynyddoedd o’r enw môr-fynyddoedd yn codi o wely’r cefnfor. Hen ynysoedd folcanig a oedd yn arfer bod uwchben y man poeth yw’r rhain. Gydag amser, bydd cyfuniad o erydu ac ymsuddiant a fydd yn digwydd ar wely’r môr wrth iddo oeri gryn bellter o’r man poeth yn achosi i’r ynys suddo o dan wyneb y dŵr. Maes o law, bydd ynys losgfynyddol newydd yn tyfu uwchben y man poeth a bydd yr Ynysoedd Hawäi presennol yn suddo o dan wyneb y cefnfor.
Mae’r magma sy’n ffurfio mewn man poeth yn dueddol o fod yn fasalt hylifol tebyg i’r magma sy’n ffurfio ger ffiniau dargyfeiriol, felly mae llosgfynyddoedd tarian yn cael eu ffurfio yma hefyd.
Llun: Hawaii hotspot - National Geophysical Data Center / USGS © Public Domain
Llun: Hawaiian seamount chain - Interiot~commonswiki © Public Domain
Defnyddiwch y daflen adnoddau er mwyn disgrifio’r tebygrwydd a’r gwahaniaethau rhwng llosgfynyddoedd tarian a llosgfynyddoedd côn cyfansawdd.
Defnyddiwch dabl ar gyfer crynhoi hyn.
Tebygrwydd |
Gwahaniaethau |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Ar ôl darllen y tair erthygl a gwneud y gweithgareddau, defnyddiwch y daflen A3 i’ch helpu chi i wneud ymarfer gwneud penderfyniadau ar beryglon tectonig.
Mae’r adnodd hwn wedi cael ei gynllunio i’w ddefnyddio gyda’r dosbarth cyfan o du blaen y dosbarth ar brojector/bwrdd gwyn rhyngweithiol.
Dylai’r athro roi eglurhad ar y delweddau amrywiol, gan seilio’r sylwadau ar y testun. Ni fydd modd i fwyafrif llethol y disgyblion ddarllen y testun cyfan o fewn yr amser sydd ar gael.
Yn ddelfrydol, dylai’r disgyblion gael mynediad i’r adnodd ar-lein er mwyn gweithio ar y daflen gweithgareddau (dylid argraffu hon ar bapur A3).
Yn ddelfrydol, dylid rhoi cefnogaeth ar gyfer y gweithgareddau hyn, sef ystafell rwydwaith, llechi/gliniaduron neu ffonau/dyfeisiau’r disgyblion eu hunain, os caniateir y rhain.
Fodd bynnag, mae’r gweithgareddau wedi cael eu cynllunio ar gyfer eu defnyddio mewn gwers arferol, sef un awr, gyda’r athro’n defnyddio’r adnodd yn nhu blaen yr ystafell ddosbarth ochr yn ochr â’r daflen adnoddau.
Yna, gellid rhoi gwaith cartref i’r disgyblion, sef astudio’r tair erthygl cyn y wers nesaf.
Mae’r adnodd a’r daflen gysylltiedig wedi cael eu cynllunio fel eu bod yn cefnogi’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd, gan roi i ddisgyblion wybodaeth ddaearyddol allweddol mewn perthynas â’r lleoedd sy’n gysylltiedig â’r argyfwng sy’n ymwneud â dadleoli gorfodol yn y
Peryglon tectonig.
Darllenwch a chwblhewch y gweithgareddau yn yr erthygl ar-lein ac yn yr erthyglau cysylltiedig yn y rhifyn hwn o Daearyddiaeth yn y Newyddion – naill ai yn yr ystafell ddosbarth neu gartref. Ceisiwch orffen yr holl weithgareddau sydd ar y daflen adnoddau.
Beth fyddwch chi’n ei ddysgu:
Byddwch chi’n dysgu ymadroddion daearyddol newydd, wedi’u goleuo mewn porffor. Dylech chi ddysgu’r rhain a’u cynnwys mewn geirfa. Rhestr o eiriau a’u hystyr yw geirfa. Gallech chi gael un yng nghefn eich llyfr ysgrifennu daearyddiaeth. Os oes gyda chi gynlluniadur, mwy na thebyg bod lle da yn hwnnw ar gyfer cadw geirfa neu gallech chi gadw llyfr geirfa ar wahân. Mae geirfa dda yn eich helpu chi i ddatblygu eich geirfa a’ch llythrennedd. Chwiliwch am ystyr geiriau drwy ddefnyddio gweddill cynnwys yr erthygl, drwy drafod neu defnyddiwch eiriadur (naill ai ar-lein neu lyfr).