© British Broadcasting Corporation (BBC)
© British Broadcasting Corporation (BBC)
Yn y rhifyn diwethaf o Daearyddiaeth yn y Newyddion, edrychon ni’n fanwl ar fathau gwahanol o ffiniau platiau a daeargrynfeydd. Edrychwch eto ar y diagram hwn o’r rhifyn diwethaf neu ewch yn ôl i’w ddarllen e eto.
Llun: Tectonic plate boundaries - Jose F. Vigil. USGS © Public Domain
Y tro diwethaf, edrychon ni ar ddaeargrynfeydd. Y tro hwn, rydyn ni’n mynd i edrych ar losgfynyddoedd.
Cofiwch fod haenau uchaf y ddaear yn cynnwys platiau solet sy’n symud o gwmpas. Mae mwyafrif y daeargrynfeydd a’r llosgfynyddoedd i’w cael ble mae’r platiau hyn yn cyfarfod â’i gilydd, neu, a defnyddio’r termau cywir, ymylon y platiau, neu ffiniau’r platiau.
Pan fydd dau blât yn symud oddi wrth ei gilydd, bydd llawer o ddaeargrynfeydd.
Edrychwch eto ar y diagram hwn o’r rhifyn diwethaf.
Llun: Continental-continental constructive plate boundary - domdomegg © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 4.0 International
Mae’r math o fagma (creigiau sydd wedi toddi o dan yr wyneb) sy’n cael ei greu ger ffiniau Dargyfeiriol yn rhedegog iawn fel arfer (mae’n llifo fel hylif).
Pan fydd magma’n cyrraedd yr wyneb, bydd yn troi’n lafa ac mae’n gallu llifo’n hawdd dros gryn bellter.
O ganlyniad, mae’n creu llosgfynyddoedd llydan gyda llethrau graddol sy’n edrych fel tarian rhyfelwr o gyfnod yr Eingl-Sacsoniaid neu’r Llychlynwyr.
Felly, yr enw ar y llosgfynyddoedd hyn yw llosgfynyddoedd tarian.
Llun: Skjaldbreidur Herbst 2004 - Reykholt © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported
Llun: Hawaiian Eruption-numbers - Sémhur © Wikimedia Commons
Byddwn yn edrych ar bob un o’r rhain yn fanylach yn nes ymlaen.
Pan fydd platiau’n cael eu gwthio at ei gilydd, bydd y creigiau’n toddi os bydd un o’r platiau’n cael ei wthio i lawr (islithriad).
Llun: Continental-continental destructive plate boundary - domdomegg © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 4.0 International
Mae’r magma’n drwchus ac yn ludiog iawn ger ffiniau’r platiau.
Nid yw magma gludiog yn gallu llifo’n hawdd, felly bydd llosgfynyddoedd siâp côn gydag ochrau serth yn cael eu creu.
Llun: Vesuvius from plane - Pastorius © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported
Nodwedd arall o fagma/lafa trwchus gludiog yw nad yw’r nwyon toddedig sydd ynddo yn gallu dianc yn hawdd.
Llun: 04Sep2007 Etna from SE Crater - Jason Bott, Christopher Berger, Pete Garza © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported
Llun: Sarychev Peak eruption on 12 June 2009, oblique satellite view - ISS Crew Earth Observations experiment and Image Science & Analysis Laboratory, Johnson Space Center / NASA © Public Domain
Dyna pam mae llosgfynyddoedd sydd ger y ffiniau hyn yn cynnwys haenau trwchus o ludw a haenau o lafa. Yn aml iawn, yr enw ar y math hwn o losgfynydd yw llosgfynydd côn cyfansawdd.
Llun: Plinian Eruption-numbers - Sémhur © Wikimedia Commons
Dyma’r ddau brif fath o ffrwydrad folcanig mae disgwyl i fyfyrwyr daearyddiaeth wybod amdanyn nhw.
Weithiau, mae llosgfynyddoedd i’w cael gryn bellter o ymyl platiau, sef ble mae man poeth yn digwydd ym mantell y ddaear.
Dydyn ni ddim yn gwybod yn iawn beth sy’n achosi’r mannau poeth ond rydyn ni’n gwybod bod llosgfynydd yn cael ei ffurfio pan fydd y plat yn symud dros y man poeth.
Y man poeth enwocaf yw Ynysoedd Hawäi, a gafodd eu ffurfio wrth i blat y Cefnfor Tawel symud dros fan poeth.
Llun: Hotspot(geology)-1 - Los688 © Public Domain
Os ydym yn edrych o dan wyneb y Cefnfor Tawel, rydyn ni’n gallu gweld rhes hir o hen losgfynyddoedd yn codi o wely’r cefnfor. Yr enw arnynt yw môr-fynyddoedd.
Hen ynysoedd folcanig a oedd yn arfer bod uwchben y man poeth yw’r rhain.
Mae’r magma sy’n ffurfio mewn man poeth yn dueddol o fod hylifol fel y magma sy’n ffurfio ger ffiniau dargyfeiriol,. Felly, mae llosgfynyddoedd tarian yn cael eu ffurfio yma hefyd.
Llun: Hawaii hotspot - National Geophysical Data Center / USGS © Public Domain
Llun: Hawaiian seamount chain - Interiot~commonswiki © Public Domain
Defnyddiwch y tabl i’ch helpu chi i ddisgrifio’r tebygrwydd a’r gwahaniaethau rhwng llosgfynyddoedd tarian a llosgfynyddoedd côn cyfansawdd.
Defnyddiwch dabl ar gyfer crynhoi hyn.
Tebygrwydd |
Gwahaniaethau |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Ar ôl darllen y tair erthygl a gwneud y gweithgareddau, defnyddiwch y daflen A3 i’ch helpu chi i wneud ymarfer gwneud penderfyniadau ar beryglon tectonig.
Mae’r adnodd hwn wedi cael ei gynllunio i’w ddefnyddio gyda’r dosbarth cyfan o du blaen y dosbarth ar brojector/bwrdd gwyn rhyngweithiol.
Dylai’r athro roi eglurhad ar y delweddau amrywiol, gan seilio’r sylwadau ar y testun. Ni fydd modd i fwyafrif llethol y disgyblion ddarllen y testun cyfan o fewn yr amser sydd ar gael.
Yn ddelfrydol, dylai’r disgyblion gael mynediad i’r adnodd ar-lein er mwyn gweithio ar y daflen gweithgareddau (dylid argraffu hon ar bapur A3).
Yn ddelfrydol, dylid rhoi cefnogaeth ar gyfer y gweithgareddau hyn, sef ystafell rwydwaith, llechi/gliniaduron neu ffonau/dyfeisiau’r disgyblion eu hunain, os caniateir y rhain.
Fodd bynnag, mae’r gweithgareddau wedi cael eu cynllunio ar gyfer eu defnyddio mewn gwers arferol, sef un awr, gyda’r athro’n defnyddio’r adnodd yn nhu blaen yr ystafell ddosbarth ochr yn ochr â’r daflen adnoddau.
Yna, gellid rhoi gwaith cartref i’r disgyblion, sef astudio’r tair erthygl cyn y wers nesaf.
Mae’r adnodd a’r daflen gysylltiedig wedi cael eu cynllunio fel eu bod yn cefnogi’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd, gan roi i ddisgyblion wybodaeth ddaearyddol allweddol mewn perthynas â’r lleoedd sy’n gysylltiedig â’r argyfwng sy’n ymwneud â dadleoli gorfodol yn y
Peryglon tectonig.
Darllenwch a chwblhewch y gweithgareddau yn yr erthygl ar-lein ac yn yr erthyglau cysylltiedig yn y rhifyn hwn o Daearyddiaeth yn y Newyddion – naill ai yn yr ystafell ddosbarth neu gartref. Ceisiwch orffen yr holl weithgareddau sydd ar y daflen adnoddau.
Beth fyddwch chi’n ei ddysgu:
Byddwch chi’n dysgu ymadroddion daearyddol newydd, wedi’u goleuo mewn porffor. Dylech chi ddysgu’r rhain a’u cynnwys mewn geirfa. Rhestr o eiriau a’u hystyr yw geirfa. Gallech chi gael un yng nghefn eich llyfr ysgrifennu daearyddiaeth. Os oes gyda chi gynlluniadur, mwy na thebyg bod lle da yn hwnnw ar gyfer cadw geirfa neu gallech chi gadw llyfr geirfa ar wahân. Mae geirfa dda yn eich helpu chi i ddatblygu eich geirfa a’ch llythrennedd. Chwiliwch am ystyr geiriau drwy ddefnyddio gweddill cynnwys yr erthygl, drwy drafod neu defnyddiwch eiriadur (naill ai ar-lein neu lyfr).