Mae angen i ni ddeall rhai termau allweddol pan fyddwn ni’n sôn am losgfynyddoedd:
Weithiau, mae llosgfynydd sy’n ymddangos fel petai’n farw yn dod yn ôl yn fyw unwaith eto, er enghraifft llosgfynydd Soufrière Hills, a ddaeth yn ôl yn fyw yn sydyn ym 1995.
Llun: Soufrière 2009 eruption - NASA International Space Station, Expedition 21 crew / NASA © Public Domain
Llun: Plates tect2 en - USGS © Public Domain
Llun: Spreading ridges volcanoes map-en - Eric Gaba (Sting) © Public Domain
Cymharwch y ddau fap o losgfynyddoedd byw.
Llun: Plate tectonics map - Michael Metzger / NASA © Public Domain
Mae llawer o losgfynyddoedd mwyaf gweithredol a mwyaf peryglus y byd yn y cylchfan tansugno sydd ar hyd ymylon plât y Cefnfor Tawel yn bennaf.
Yr enw ar ymylon plât y Cefnfor Tawel weithiau yw’r ‘Cylch Tân’
Mae llawer o’r ardaloedd mwyaf peryglus o safbwynt llosgfynyddoedd wedi’u lleoli ar hyd y Cylch Tân, yn enwedig o gwmpas Indonesia.
Llun: Pacific Ring of Fire - Gringer © Public Domain
Llun: Map indonesia volcanoes - Lyn Topinka / USGS © Public Domain
Llun: Rinjani 1994 - Oliver Spalt © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported
Ffrwydrad - pan fydd ffrwydrad yn digwydd:
Llun: Mount St Helens Summit Pano II - Gregg M. Erickson © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported
Cwmwl Lludw - pan fydd y ffrwydrad yn un fertigol, mae’n taflu darnau o gerrig lafa i’r awyr fel cwmwl. Mae’r gwynt yn gallu cario’r lludw hwn am sawl cilometr cyn iddo syrthio i’r ddaear, gan gladdu adeiladau a chael ei anadlu i mewn.
Bomiau folcanig – mae creigiau mwy yn cael eu chwythu i fyny i’r awyr gan y ffrwydradau ac mae’r rhain yn glanio’n nes at y llosgfynydd.
Llifoedd pyroclastig – mae’r rhain yn digwydd pan na fydd hyrddiad y ffrwydrad tuag i fyny yn gallu cynnal y nwy, y lludw a’r creigiau poeth o fewn y golofn.
Bydd y golofn yn syrthio i lawr ac yna’n llifo i lawr ochrau’r llosgfynydd fel cwmwl poeth iawn (dros 400˚C fel arfer) o nwy a lludw.
Dinas St Pierre, Martinique, a ddinistriwyd gan lif pyroclastig ym 1902. Dim ond un person a ddaeth allan yn fyw – dyn a oedd wedi’i garcharu mewn dwnsiwn.
Llun: Pelee 1902 3 - RGM~commonswiki © Public Domain {{PD-US}}
Lahar - cymysgedd o ludw a dŵr sy’n creu afonydd o fwd trwchus a chreigiau sy’n caledu fel concrid.
Llun: River valley filled in by pyroclastic flows, Mt. Pinatubo - Magalhães © Public Domain
Cwymp ochrol – mae ochr llosgfynydd yn hollti ac yn llifo fel tirlithriad anferth. Digwyddodd hyn pan ffrwydrodd Mynydd St Helens ym 1980 a dyna pam roedd y ffrwydrad yn un ochrol yn hytrach nag yn un fertigol.
Os bydd cwymp ochrol yn digwydd ar ynys folcanig, gall y tirlithriad achosi ton anferth neu tswnami.
Bu farw 36,000 o bobl ar ôl i losgfynydd Krakatau (Krakatoa) yn Indonesia gwympo (mae rhai arbenigwyr yn credu bod y nifer yn nes at 120,000). Bu farw’r rhan fwyaf ohonyn nhw oherwydd y tswnamis anferth a gafodd eu hachosi ar ôl i’r llosgfynydd gwympo.
Llifoedd lafa – nid yw’r rhain yn rhy beryglus i bobl a dweud y gwir oherwydd mae’r lafa gludiog yn symud yn araf. Mae lafa hylifol yn ffurfio pistyll lafa ac mae’n gallu teithio’n gynt ond pan fydd hyn yn digwydd, bydd y lafa’n llifo o fewn sianelau cyfarwydd. Mae lafa yn fwy o berygl i adeiladau nag i bobl.
Llun: Pahoeoe fountain original - Jim D. Griggs, HVO (USGS) staff photographer / USGS © Public Domain
Newid yn yr hinsawdd – mae hyn yn gallu digwydd wrth i nwy megis nwy o’r llosgfynydd a lludw rwystro gwres yr haul rhag cyrraedd y ddaear. Ar ôl ffrwydrad Krakatau ym 1883, cymerodd hi bum mlynedd i dymheredd y byd ddychwelyd i lefel normal ac ym 1884 roedd prinder bwyd difrifol ym mhob man bron.
Mewn grŵp, ymchwiliwch i un o’r llosgfynyddoedd/ffrwydradau enwog yn y sioeau sleidiau isod ac ysgrifennwch sgript ar gyfer cyflwyno’r wybodaeth.
Llun: Map krakatau - USGS © Public Domain
Llun: Vesuvius from plane - Pastorius © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported