© British Broadcasting Corporation (BBC)
Gweithiwch mewn grwpiau bach er mwyn cytuno ar yr atebion i’r cwestiynau canlynol:
1. Beth yw’r cynnydd yn y targed ar gyfer tymheredd y byd?
2. Beth yw ystyr Colled a Difrod (Loss & Damage)?
3. Beth yw Tryloywder (Transparency)?
Yn y rhifyn hwn o Daearyddiaeth yn y Newyddion, rydyn ni’n mynd i ymchwilio i Gytundeb Paris ar y Newid yn yr Hinsawdd a gwneud Ymarfer Gwneud Penderfyniadau yn seiliedig ar beth gallwn ni ei wneud ar lefel leol er mwyn cyrraedd targedau.
Ym mis Rhagfyr 2015, aeth arweinwyr bron 200 o wledydd i gyfarfod mawr ym Mharis. Dyma’r nifer fwyaf o Benaethiaid Gwladwriaethau i ddod at ei gilydd yn hanes y ddynoliaeth.
Ateb = Newid Hinsawdd
Mae mwyafrif gwyddonwyr y byd yn cytuno bod pobl a gweithgareddau pobl yn cael effaith fesuradwy ar hinsawdd fyd-eang. Ar lefel fyd-eang, gwelir hyn fel cynnydd yn nhymheredd y byd.
Ar lefel ranbarthol a lleol, fodd bynnag, gwelir hyn fel nifer o newidiadau:
Os ydych chi’n dymuno atgoffa eich hun am newid yn yr hinsawdd, darllenwch y ddwy erthygl gysylltiol yn y rhifyn hwn o Daearyddiaeth yn y Newyddion.
Beth sy’n achosi newid yn yr hinsawdd? - Cliciwch isod
Beth yw’r canlyniadau a beth allwn ni ei wneud i leihau’r newid yn yr hinsawdd? - Cliciwch isod
Y datblygiadau mawr yng nghytundeb Paris yn 2015 oedd:
Llun: JCH 6442 (22802505643) - Presidencia de la República Mexicana © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution 2.0 Generic
Mae rhai gwledydd sy’n llai datblygedig a/neu sydd ar dir isel/arfordirol, megis llawer o wledydd y Môr Tawel, yn poeni y byddai cynnydd o 2°C yn ormod i rwystro llifogydd eang gan y byddai lefelau’r môr yn codi.
Roedd llawer o wledydd, yn enwedig nifer o wledydd datblygedig pwysig, eisiau i bob cyfeiriad at y tymheredd gael ei gyfyngu i 2°C.
Byddai nifer o’r gwledydd hyn wedi gwrthod cytuno os nad oedd y targed o 1.5°C yn cael ei gynnwys yn y cytundeb.
Roedd y cysyniad hwn yn bwysig iawn ar gyfer gwledydd llai datblygedig yn ogystal â rhai datblygedig. Roedd gwledydd llai datblygedig eisiau i’r cytundeb ddangos mai nhw sy’n wynebu effeithiau gwaethaf y newid yn yr hinsawdd.
Llun: Large Landslide in Uganda - Jesse Allen, NASA Earth Observatory © Wikimedia Commons - Public Domain
Cofiwch, mae gwyddonwyr yn credu bod y newid yn yr hinsawdd oherwydd gweithgaredd pobl yn uwch na’r 1°C o gynnydd yn barod. Mae hyn wedi cael ei achosi’n llwyr, bron, gan allyriadau’r gwledydd cyfoethog.
Llun: Global Temperature Anomaly - NASA © Wikimedia Commons - Public Domain
Nid oedd y gwledydd cyfoethog eisiau’r cysyniad hwn yn y cytundeb oherwydd byddai’n rhoi’r bai arnyn nhw a byddai’n rhoi’r cyfrifoldeb neu’r atebolrwydd arnyn nhw i geisio helpu i ddatrys y broblem.
Bu cyfaddawd a chafodd y cysyniad ei gynnwys yn y cytundeb yn nhermau parhau i ymchwilio iddo fel cysyniad ond mae’r cytundeb yn dweud hefyd, “Nid yw’r cytundeb yn cynnwys neu’n rhoi unrhyw atebolrwydd neu iawndal”.
Mae hyn yn ymwneud â’r ffordd mae popeth yn cael ei fesur ymhob gwlad a sut mae’r wybodaeth yn cael ei rhannu a’i defnyddio.
Image: WQ sampling station USGS 2004 - Hall, David W., U.S. Geological Survey © Wikimedia Commons - Public Domain
Rhaid i Wledydd Datblygedig gyflwyno cynllun i ddangos beth maen nhw’n bwriadu’i wneud er mwyn lleihau allyriadau o nwyon sy’n achosi newid yn yr hinsawdd a rhaid i Wledydd sy’n Datblygu ddangos sut y byddan nhw’n lleihau uchafbwynt yr allyriadau o nwyon ac yna sut y byddan nhw’n lleihau’r allyriadau hyn.
Dyma un o’r rhannau mwyaf anodd i gytuno arni oherwydd nid oedd Gwledydd sy’n Datblygu eisiau cael eu cynnwys yn y gwaith o osod targedau a monitro gan fod angen iddyn nhw barhau i ddatblygu.
Mae 70% o allyriadau o nwyon sy’n achosi newid yn yr hinsawdd yn dod o ddim ond 10 gwlad.
|
% yr allyriadau byd-eang |
Poblogaeth ym mis Rhagfyr 2015 (Poblth y Byd = 7,387,943,081) |
China |
24% |
1,367,485,388 |
UDA |
12% |
321,368,864 |
Yr EU |
9% |
507,000,000 |
Brasil |
6% |
204,259,812 |
India |
6% |
1,251,695,584 |
Rwsia |
5% |
142,423,773 |
Japan |
3% |
126,919,659 |
Canada |
2% |
35,099,836 |
G.Dd. Congo |
1.5% |
79,375,136 |
Indonesia |
1.5% |
255,993,674 |
Os edrychwch chi ar y tabl uchod, dylech chi fedru gwneud ambell amcangyfrif drwy ddefnyddio eich sgiliau rhifedd er mwyn gweld a yw gwlad yn creu allyriadau yn unol â’i phoblogaeth:
Ond y peth pwysig yw bod allyriadau byd-eang yn rhy uchel a bod rhaid lleihau’r cyfanswm byd-eang. Mae hyn yn bwysicach na ffigurau ynglŷn â chynhyrchu allyriadau ar sail poblogaeth.
Llun: Co2-1990-2012 - Chris55 © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 4.0 International
Dyma' r broblem o safbwynt gwledydd sydd angen datblygu; bydd rhaid iddyn nhw naill ai gynyddu eu hallyriadau neu ddatblygu drwy ddilyn llwybr carbon isel gwahanol, a fydd yn golygu llawer o arian a chael mynediad i’r dechnoleg ddiweddaraf.
Mae’r dechnoleg ddiweddaraf wedi cael ei dyfeisio a’i chynllunio gan unigolion a busnesau ac mae hawl ganddyn nhw i wneud arian drwy werthu eu dyfeisiadau.
Llun: Twice Cropped Zonnecollectoren - Mrshaba © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported
Mae hyn yn creu problem fawr i leoedd tlotaf y byd oherwydd dydyn nhw ddim yn gallu fforddio i brynu’r dechnoleg er mwyn dilyn llwybr datblygu sy’n defnyddio lefel isel o garbon.
Os nad yw gwledydd tlawd sy’n datblygu yn gallu fforddio datblygu drwy ddefnyddio lefel isel o garbon, byddan nhw’n dilyn yr un llwybr o ddatblygu ar lefel uchel o garbon â gwledydd gweddill y byd, sef drwy losgi tanwydd ffosil.
Mae gwneud technoleg fodern sy’n cynhyrchu lefel isel o garbon ac sy’n effeithlon o ran ynni, a hynny am bris sy’n digolledu’r bobl sydd wedi dyfeisio a gwneud y dechnoleg, ond am bris sy’n fforddiadwy, yn her fyd-eang.
Llun: Wind power plants in Xinjiang, China - Chris Lim © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 2.0 Generic
Dyma ddau gysyniad allweddol mae’r cytundeb yn eu defnyddio wrth drafod sut bydd y byd yn ymdrin â materion sy’n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd. Rydyn ni bob amser yn meddwl am y materion hyn fel rhai negyddol neu fel problem oherwydd mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw yn broblem. Fodd bynnag, bydd rhai canlyniadau i newid yn yr hinsawdd yn rhai cadarnhaol a byddan nhw’n dod â chyfleoedd i rai mannau.
Mae’r ffordd mae lleoliad yn delio gyda’r materion neu'r canlyniadau yn gallu cael ei ystyried fel naill ai addasu neu liniaru:
Llun: Oosterscheldekering-pohled - Vladimír Šiman © GNU Free Documentation License dan Creative Commons Attribution 3.0 Unported
Llun: USCurrency Federal Reserve - BrokenSegue © Wikimedia Commons - Public Domain
Mewn gwirionedd, mae brwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd yn gyfle gwirioneddol gyffrous i nifer o fusnesau oherwydd mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw yn y gwledydd datblygedig a gallai newid yn yr hinsawdd wneud llawer iawn mwy o arian i’r gwledydd hyn na’r 100 biliwn o ddoleri UDA mae'r llywodraethau wedi addo eu rhoi.
Llun: Ikata Nuclear Powerplant - ja:User:Newsliner - Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 2.5 Generic
Mathau o wledydd:
‘Eglurwch safbwyntiau’r wlad rydych chi’n ei chynrychioli.’
Mae’r adnodd hwn wedi cael ei gynllunio i’w ddefnyddio gyda’r dosbarth cyfan o du blaen y dosbarth ar brojector/bwrdd gwyn rhyngweithiol.
Dylai’r athro roi eglurhad ar y delweddau amrywiol, gan seilio’r sylwadau ar y testun. Ni fydd modd i fwyafrif llethol y disgyblion ddarllen y testun cyfan o fewn yr amser sydd ar gael.
Yn ddelfrydol, dylai’r disgyblion gael mynediad i’r adnodd ar-lein er mwyn gweithio ar y daflen gweithgareddau (dylid argraffu hon ar bapur A3).
Yn ddelfrydol, dylid rhoi cefnogaeth ar gyfer y gweithgareddau hyn, sef ystafell rwydwaith, llechi/gliniaduron neu ffonau/dyfeisiau’r disgyblion eu hunain, os caniateir y rhain.
Fodd bynnag, mae’r gweithgareddau wedi cael eu cynllunio ar gyfer eu defnyddio mewn gwers arferol, sef un awr, gyda’r athro’n defnyddio’r adnodd yn nhu blaen yr ystafell ddosbarth ochr yn ochr â’r daflen adnoddau.
Yna, gellid rhoi gwaith cartref i’r disgyblion, sef astudio’r tair erthygl cyn y wers nesaf.
Mae’r adnodd a’r daflen gysylltiedig wedi cael eu cynllunio fel eu bod yn cefnogi’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd, gan roi i ddisgyblion wybodaeth ddaearyddol allweddol mewn perthynas â’r lleoedd sy’n gysylltiedig â’r argyfwng sy’n ymwneud â dadleoli gorfodol yn y Newid Hinsawdd.
Darllenwch a chwblhewch y gweithgareddau yn yr erthygl ar-lein ac yn yr erthyglau cysylltiedig yn y rhifyn hwn o Daearyddiaeth yn y Newyddion – naill ai yn yr ystafell ddosbarth neu gartref. Ceisiwch orffen yr holl weithgareddau sydd ar y daflen adnoddau.
Beth fyddwch chi’n ei ddysgu:
Byddwch chi’n dysgu ymadroddion daearyddol newydd, wedi’u goleuo mewn porffor. Dylech chi ddysgu’r rhain a’u cynnwys mewn geirfa. Rhestr o eiriau a’u hystyr yw geirfa. Gallech chi gael un yng nghefn eich llyfr ysgrifennu daearyddiaeth. Os oes gyda chi gynlluniadur, mwy na thebyg bod lle da yn hwnnw ar gyfer cadw geirfa neu gallech chi gadw llyfr geirfa ar wahân. Mae geirfa dda yn eich helpu chi i ddatblygu eich geirfa a’ch llythrennedd. Chwiliwch am ystyr geiriau drwy ddefnyddio gweddill cynnwys yr erthygl, drwy drafod neu defnyddiwch eiriadur (naill ai ar-lein neu lyfr).
Erthyglau eraill efallai y byddwch a diddordeb mewn, Cynhadledd Hinsawdd Copenhagen.