Canlyniadau newid yn yr hinsawdd yw’r pethau a allai ddigwydd, neu sy’n digwydd yn barod, oherwydd newid yn yr hinsawdd.
Mwy na thebyg mai gwledydd tlawd, llai datblygedig, fydd yn dioddef fwyaf oherwydd newid yn yr hinsawdd.
Mae gan rai gwledydd nodweddion ffisegol sy’n gallu eu gwneud nhw’n fwy agored i effeithiau newid yn yr hinsawdd. Un enghraifft dda yw gwledydd bach sy’n ynysoedd.
Cynnydd yn y tymheredd
Mae tymheredd y byd wedi codi 1°C yn barod, ond nid yw’r cynnydd yr un faint ym mhob man. Mae’r Arctig a’r Antarctig, yn enwedig yr Arctig, yn cynhesu llawer mwy na rhannau eraill o’r byd.
Lefel y môr yn codi
Os bydd y rhew hwn yn parhau i doddi, bydd lefel y môr yn codi. Byddai’r rhew sydd ar yr Ynys Las yn gallu cynyddu lefel y môr tua 6 metr.
Map yn dangos (mewn coch) cynnydd o 6 metr yn lefel y môr
Stormydd
Poethdonnau a sychder
Mae’r rhain yn taro rhai ardaloedd eisoes, e.e. De Ewrop ac Affrica islaw Sahara.
Beth sy’n achosi newid yn yr hinsawdd? - Cliciwch isod
Yn hytrach na meddwl am y pethau mawr mae llywodraethau yn gallu eu gwneud, rydyn ni’n mynd i feddwl mwy am beth gallwn NI ei wneud.
Addasu
Mae meddwl ymlaen llaw yn gwneud synnwyr.
Ydych CHI yn gallu awgrymu pa gamau y gallen ni eu cymryd er mwyn addasu i’r newid yn yr hinsawdd?
Syniadau
Defnyddiwch weithgaredd grŵp bach rydych chi’n gyfarwydd â fe er mwyn chwilio am syniadau, e.e.:
Ydy parhau i godi adeiladau newydd ar dir gwastad ger yr arfordir neu ar hyd llawr dyffrynnoedd afonydd yn beth doeth?
Ydy ffermwyr yn gallu newid y cnydau maen nhw’n eu tyfu?
Ydyn ni’n gallu lleihau ein defnydd ni o ddŵr fel bod mwy ar gael os bydd sychder?
Lliniaru
Beth gallwn ni ei wneud i leihau effaith y canlyniadau, er enghraifft drwy adeiladu argaeau newydd er mwyn ymdopi â sychder?
Beth gallwn ni wneud os bydd cnydau’n methu a bod prinder bwyd?
Allwn ni adeiladu amddiffynfeydd rhag llifogydd er mwyn amddiffyn rhag newid yn lefel y môr a stormydd amlach a mwy difrifol?
Allyriadau
Sut gallwn ni leihau faint o danwydd ffosil rydyn ni’n ei losgi yn ein cartrefi neu wrth deithio o le i le?
Beth gallwn ni ei wneud gyda’n gwastraff ni?
Dalfeydd
Allwn ni roi’r gorau i brynu nwyddau sy’n dod o fforestydd sydd heb gael eu hail-blannu?
Allwn ni blannu rhagor o goed yn ein cymunedau, ysgolion a gerddi?
Ar ôl darllen y tair erthygl a gwneud y gweithgareddau, defnyddiwch y daflen A3 i’ch helpu chi i wneud Ymarfer Gwneud Penderfyniadau ar wahanol agweddau ar newid yn yr hinsawdd mewn gwahanol fathau o wledydd.