31

Beth yw Cytundeb Paris ar y Newid yn yr Hinsawdd?

Gwyliwch y clip fideo hwn gan y BBC er mwyn cael yr atebion

 

© British Broadcasting Corporation (BBC)

Gweithiwch mewn grwpiau bach er mwyn cytuno ar yr atebion i’r cwestiynau canlynol:

Cwestiynau

1. Beth yw’r cynnydd yn y targed ar gyfer tymheredd y byd?

2. Beth yw ystyr Colled a Difrod (Loss & Damage)?

3. Beth yw Tryloywder (Transparency)?

Ymchwilio i Gytundeb Paris ar y Newid yn yr Hinsawdd

Yn y rhifyn hwn o Daearyddiaeth yn y Newyddion, rydyn ni’n mynd i ymchwilio i Gytundeb Paris ar y Newid yn yr Hinsawdd ac rydyn ni’n mynd i wneud Ymarfer Gwneud Penderfyniadau ar beth gallwn ni ei wneud i helpu.

Ym mis Rhagfyr 2015, aeth arweinwyr bron 200 o wledydd i gyfarfod mawr ym Mharis. Dyma’r nifer fwyaf o Benaethiaid Gwladwriaethau i ddod at ei gilydd yn hanes y ddynoliaeth.

Mae mwyafrif gwyddonwyr y byd yn cytuno bod pobl a gweithgareddau pobl yn cael effaith mesuradwy ar hinsawdd fyd-eang. Ar lefel fyd-eang, rydyn ni’n gweld hyn fel cynnydd yn nhymheredd y byd. 

Ar lefel ranbarthol a lleol, fodd bynnag, rydyn ni’n gweld hyn fel nifer o newidiadau:

  • Cynnydd yn y tymheredd
  • Gostyngiad yn y tymheredd
    • Mae tymheredd y dydd yn ystod rhai o hafau’r DU yn is gan fod cynnydd yn y cymylau a’r glaw.
    • Mae sawl gaeaf yn y DU yn ddiweddar wedi cael cyfnodau oerach o lawer nag arfer.
  • Mwy o stormydd
    • Stormydd cryfach
    • Stormydd amlach
  • Sychder
  • Llifogydd
    • Ar yr arfordir
    • Ger afonydd

Os ydych chi’n dymuno atgoffa eich hun am newid yn yr hinsawdd, darllenwch y ddwy erthygl gysylltiol yn y rhifyn hwn o Daearyddiaeth yn y Newyddion.

Beth sy’n achosi newid yn yr hinsawdd? - Cliciwch isod

undefined

Beth yw’r canlyniadau a beth allwn ni ei wneud i leihau’r newid yn yr hinsawdd? Cliciwch isod

undefined 

Cip ar y cytundeb

  • Rhaid i bob gwlad osod targed ar gyfer lleihau allyriadau a rhaid adolygu’r targed.
  • Sicrhau bod allyriadau o nwyon tŷ gwydr yn cyrraedd eu huchafbwynt cyn gynted ag y bo modd ac yna eu lleihau.
  • Cadw’r cynnydd yn nhymheredd y byd "yn dipyn is na" 2°C a gwneud ymdrech i’w gyfyngu i 1.5°C.
  • Adolygu’r cynnydd bob pum mlynedd.
  • Y gwledydd cyfoethog i roi $100bn i wledydd tlawd bob blwyddyn hyd at 2020 er mwyn helpu i ymladd newid yn yr hinsawdd.

 

Y pethau pwysig yng nghytundeb Paris yn 2015 yw:

  • Uchelgais i gael targed o gynnydd o 1.5°C
  • Colled a Difrod
  • Tryloywder

Targed uchelgeisiol

undefined

Llun: JCH 6442 (22802505643) - Presidencia de la República Mexicana © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution 2.0 Generic

  • Mae rhai gwledydd sy’n llai datblygedig a/neu sydd ar dir isel/arfordirol, yn poeni y byddai cynnydd o 2°C yn ormod iddyn nhw ymdopi â fe. 
  • Roedd llawer o wledydd, yn enwedig nifer o wledydd cyfoethog pwysig, eisiau i bob cyfeiriad at y tymheredd gael ei gyfyngu i 2°C.
  • Byddai nifer o’r gwledydd tlawd wedi gwrthod cytuno os nad oedd y targed o 1.5°C yn cael ei gynnwys yn y cytundeb.

Colled a Difrod

Roedd y cysyniad hwn yn bwysig iawn ar gyfer gwledydd llai datblygedig yn ogystal â rhai nwy datblygedig.

undefined

Llun: Large Landslide in Uganda - Jesse Allen, NASA Earth Observatory © Wikimedia Commons - Public Domain

  • Roedd gwledydd llai datblygedig/tlawd eisiau i’r cytundeb ddangos mai nhw sy’n wynebu effeithiau gwaethaf y newid yn yr hinsawdd.
  • Fod bynnag, y gwledydd mwy datblygedig/cyfoethog sydd wedi bod yn cynhyrchu’r nwyon tŷ gwydr ers y 150 mlynedd diwethaf. 

Cofiwch, mae gwyddonwyr yn credu bod y newid yn yr hinsawdd oherwydd gweithgaredd pobl yn uwch na’r 1°C o gynnydd yn barod. Mae hyn wedi cael ei achosi’n llwyr, bron, gan y gwledydd cyfoethog.

undefined

Llun: Global Temperature Anomaly - NASA © Wikimedia Commons - Public Domain

Roedd y gwledydd cyfoethog yn ofni y bydden nhw’n cael y bai ac mai eu cyfrifoldeb nhw fyddai ceisio helpu i ddatrys y broblem.

Bu cyfaddawd a chafodd ei gynnwys yn y cytundeb fel rhywbeth i ymchwilio iddo.

Tryloywder

Mae hyn yn ymwneud â’r ffordd mae popeth yn cael ei fesur ymhob gwlad a sut mae’r wybodaeth yn cael ei rhannu a’i defnyddio. 

  • Mae gwledydd y byd wedi cytuno i ddefnyddio’r un dull o fesur (fel y system awtomatig hon) ac o fonitro. Mae’n rhwymol, sy’n golygu bod rhaid gwneud hyn.

undefined

Image: WQ sampling station USGS 2004 - Hall, David W., U.S. Geological Survey © Wikimedia Commons - Public Domain

  • Rhaid i bob gwlad gyflwyno cynllun i ddangos beth maen nhw’n bwriadu’i wneud er mwyn brwydro yn erbyn y newid yn yr hinsawdd.  
  • Dyma un o’r rhannau mwyaf anodd i gytuno arni oherwydd nid oedd Gwledydd sy’n Datblygu eisiau cael eu cynnwys yn y gwaith o osod targedau a monitro gan fod angen iddyn nhw barhau i ddatblygu.

 

Mae 70% o allyriadau o nwyon sy’n achosi newid yn yr hinsawdd yn dod o 10 gwlad yn unig.

 

% yr allyriadau byd-eang

Poblogaeth ym mis Rhagfyr 2015 (Poblth y Byd = 7,387,943,081)

China

24%

1,367,485,388

UDA

12%

321,368,864

Yr EU

9%

507,000,000

Brasil

6%

204,259,812

India

6%

1,251,695,584

Rwsia

5%

142,423,773

Japan

3%

126,919,659

Canada

2%

35,099,836

G.Dd. Congo

1.5%

79,375,136

Indonesia

1.5%

255,993,674

Os edrychwch chi ar y tabl uchod, dylech chi allu gwneud amcangyfrifon drwy ddefnyddio eich sgiliau rhifedd er mwyn gweld a yw gwlad yn creu allyriadau yn unol â’i phoblogaeth:

  • Mae gan China ychydig dros 20% o boblogaeth y byd ac mae’n cynhyrchu 24% o allyriadau nwy tŷ gwydr.
  • Mae gan India bron yr un nifer o bobl â China ond dim ond 6% o allyriadau nwyon tŷ gwydr y byd mae’n creu.
  • Mae UDA yn cynhyrchu 3% yn fwy o’r allyriadau nau’r UE er bod ei phoblogaeth yn is o lawer (tua 60%).

Ond y peth pwysig yw hyn: os yw gwlad yn cynhyrchu allyriadau yn unol â’i phoblogaeth ai peidio, mae allyriadau ar draws y blaned yn rhy uchel a rhaid eu lleihau. 

undefined

Llun: Co2-1990-2012 - Chris55 © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 4.0 International

Dyma' r broblem o safbwynt gwledydd sydd angen datblygu; bydd angen iddyn nhw naill ai gynyddu eu hallyriadau neu ddatblygu drwy ddilyn llwybr gwahanol, a fydd yn golygu llawer o arian a chael mynediad i’r dechnoleg ddiweddaraf.

Trosglwyddo Technoleg

Mae’r dechnoleg ddiweddaraf wedi cael ei dyfeisio a’i chynllunio gan unigolion a busnesau ac mae hawl ganddyn nhw i wneud arian drwy werthu eu dyfeisiadau.

undefined

Llun: Twice Cropped Zonnecollectoren - Mrshaba © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported

Mae hyn yn creu problem fawr i leoedd tlotaf y byd oherwydd dydyn nhw ddim yn gallu fforddio prynu’r dechnoleg. 

Os nad yw gwledydd tlawd sy’n datblygu yn gallu fforddio “datblygiad gwyrdd”, byddan nhw’n dilyn yr un llwybr â gwledydd gweddill y byd, sef llosgi tanwydd ffosil.

undefined

Llun: Wind power plants in Xinjiang, China - Chris Lim © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 2.0 Generic

Addasu a lliniaru

  • Dyma ddau gysyniad allweddol mae’r cytundeb yn eu defnyddio wrth drafod sut bydd y byd yn ymdrin â materion sy’n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd.
  • Mae sut mae lle yn delio gyda’r materion neu'r canlyniadau yn gallu cael ei ystyried fel naill ai addasu neu liniaru:
  • Addasu - mae hyn yn ymwneud â’r ffordd rydyn ni’n newid sut rydyn ni’n gwneud pethau ar hyn o bryd fel na fyddan nhw’n broblem yn y dyfodol pan fydd pethau’n newid.
  • Mae ffermwyr yn gallu newid eu cnydau a defnyddio mathau newydd sy’n gwrthsefyll gwres a sychder.
  • Peidio adeiladu ar dir isel, e.e. dyffrynnoedd afonydd ac ar hyd yr arfordir, sy’n debygol o gael eu heffeithio gan lifogydd yn y dyfodol.
  • Lliniaru - mae hyn yn ymwneud â lleihau effaith canlyniadau newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol.
  • Gellid adeiladu cronfeydd dŵr newydd fel bod ffermwyr yn gallu dyfrhau mwy ar eu cnydau er mwyn ymdopi â gwres a sychder yn y dyfodol.  

undefined

Llun: Oosterscheldekering-pohled - Vladimír Šiman © GNU Free Documentation License dan Creative Commons Attribution 3.0 Unported

  • Gellid codi amddiffynfeydd rhag llifogydd ar hyd afonydd a’r arfordir er mwyn gwarchod adeiladau sydd ar dir isel.

Pwy sy’n talu?

  • Bydd rhaid i’r gwledydd cyfoethog, mwy datblygedig, dalu drostynt eu hunain.
  • Mae cytundeb Paris wedi penderfynu y bydd rhaid i’r gwledydd datblygedig roi isafswm o 100 biliwn o ddoleri UDA bob blwyddyn er mwyn brwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd yn y gwledydd sy’n datblygu ac yn y gwledydd sy’n ynysoedd ac sy’n cael eu heffeithio waethaf.

undefined

Llun: USCurrency Federal Reserve - BrokenSegue © Wikimedia Commons - Public Domain

  • Mae brwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd yn gyfle gwirioneddol gyffrous i nifer o fusnesau.
  • Mae’r rhan fwyaf o’r busnesau hyn yn y gwledydd datblygedig.

undefined

Llun: Ikata Nuclear Powerplant - ja:User:Newsliner - Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 2.5 Generic

  • Gallai newid yn yr hinsawdd olygu bod y gwledydd hyn (e.e. Cymru) yn gwneud llawer iawn mwy o arian na’r 100 biliwn o ddoleri UDA mae'r llywodraethau wedi addo eu rhoi.

 

Gweithgaredd Disgyblion 

  • Dychmygwch eich bod yn gynrychiolydd o fath gwahanol o wlad. Rydych chi’n cael eich cyfweld gan y BBC am eich barn am y newid yn yr hinsawdd a beth dylai unrhyw gytundeb ei gynnwys.

Mathau o wledydd:

  • Gwlad Fwy Datblygedig yn Economaidd megis UDA neu’r DU
  • Gwlad Lai Datblygedig yn Economaidd megis China neu India
  • Gwlad Leiaf Datblygedig yn Economaidd megis Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo neu Niger
  • Gwlad sy’n ynys megis Tuvalu neu Kiribati neu Ynysoedd Marshall
  • Ysgrifennwch drawsgrif o’ch cyfweliad neu defnyddiwch gyfleusterau awdio er mwyn recordio’ch cyfweliad:
    • Gwnewch ddrafft o’ch rhesymau yn gyntaf.

‘Eglurwch safbwyntiau’r wlad rydych chi’n ei chynrychioli.’

Mae’r adnodd hwn wedi cael ei gynllunio i’w ddefnyddio gyda’r dosbarth cyfan o du blaen y dosbarth ar brojector/bwrdd gwyn rhyngweithiol.

Dylai’r athro roi eglurhad ar y delweddau amrywiol, gan seilio’r sylwadau ar y testun. Ni fydd modd i fwyafrif llethol y disgyblion ddarllen y testun cyfan o fewn yr amser sydd ar gael.

Yn ddelfrydol, dylai’r disgyblion gael mynediad i’r adnodd ar-lein er mwyn gweithio ar y daflen gweithgareddau (dylid argraffu hon ar bapur A3).

Yn ddelfrydol, dylid rhoi cefnogaeth ar gyfer y gweithgareddau hyn, sef ystafell rwydwaith, llechi/gliniaduron neu ffonau/dyfeisiau’r disgyblion eu hunain, os caniateir y rhain.

Fodd bynnag, mae’r gweithgareddau wedi cael eu cynllunio ar gyfer eu defnyddio mewn gwers arferol, sef un awr, gyda’r athro’n defnyddio’r adnodd yn nhu blaen yr ystafell ddosbarth ochr yn ochr â’r daflen adnoddau.

Yna, gellid rhoi gwaith cartref i’r disgyblion, sef astudio’r tair erthygl cyn y wers nesaf.

Mae’r adnodd a’r daflen gysylltiedig wedi cael eu cynllunio fel eu bod yn cefnogi’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd, gan roi i ddisgyblion wybodaeth ddaearyddol allweddol mewn perthynas â’r lleoedd sy’n gysylltiedig â’r argyfwng sy’n ymwneud â dadleoli gorfodol yn y Newid Hinsawdd.

Darllenwch a chwblhewch y gweithgareddau yn yr erthygl ar-lein ac yn yr erthyglau cysylltiedig yn y rhifyn hwn o Daearyddiaeth yn y Newyddion – naill ai yn yr ystafell ddosbarth neu gartref. Ceisiwch orffen yr holl weithgareddau sydd ar y daflen adnoddau.

Beth fyddwch chi’n ei ddysgu:

  • Byddwch chi’n cynyddu eich gwybodaeth am broblemau yn y Newid Hinsawdd.
  • Byddwch chi’n cynyddu eich dealltwriaeth o’r ffordd mae’r ffactorau hyn yn gallu  effeithio ar bobl ac ar weithgareddau pobl.
  • Byddwch chi’n cael cyfle i ddysgu neu ymarfer sgiliau llythrennedd a rhifedd pwysig. 

Byddwch chi’n dysgu ymadroddion daearyddol newydd, wedi’u goleuo mewn porffor. Dylech chi ddysgu’r rhain a’u cynnwys mewn geirfa. Rhestr o eiriau a’u hystyr yw geirfa. Gallech chi gael un yng nghefn eich llyfr ysgrifennu daearyddiaeth. Os oes gyda chi gynlluniadur, mwy na thebyg bod lle da yn hwnnw ar gyfer cadw geirfa neu gallech chi gadw llyfr geirfa ar wahân. Mae geirfa dda yn eich helpu chi i ddatblygu eich geirfa a’ch llythrennedd. Chwiliwch am ystyr geiriau drwy ddefnyddio gweddill cynnwys yr erthygl, drwy drafod neu defnyddiwch eiriadur (naill ai ar-lein neu lyfr).

Erthyglau eraill efallai y byddwch a diddordeb mewn, Cynhadledd Hinsawdd Copenhagen.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Ymchwilio i’r hyn sy’n achosi’r newid yn yr hinsawdd

Ymchwilio i’r hyn sy’n achosi’r newid yn yr hinsawdd

Beth yw’r canlyniadau a beth gallwn ni ei wneud i leihau’r newid yn yr hinsawdd?

Beth yw’r canlyniadau a beth gallwn ni ei wneud i leihau’r newid yn yr hinsawdd?