Yn yr erthygl gysylltiol hon, rydyn ni’n mynd i edrych ar beth sy’n achosi’r newid yn yr hinsawdd.
Gallwch chi weld y tywydd wrth edrych allan drwy’r ffenestr. Ydy’r aer yn symud ar hyd wyneb y ddaear? Os ydy e, dyma’r gwynt.
Ystyr hinsawdd yw’r amgylchiadau cyfartalog dros gyfnod o amser (cyfnod o 30 mlynedd fel arfer).
Gan ein bod ni’n gwybod beth yw hinsawdd erbyn hyn, gallwn ni drafod beth yw ystyr newid yn yr hinsawdd.
Mae newid yn yr hinsawdd yn digwydd drwy’r amser ac mae’n naturiol. Nid yw’r tywydd a’r hinsawdd yr un peth byth, bron, felly mae newidiadau bach yn yr hinsawdd drwy’r amser.
Fodd bynnag, roedd y cyfarfod mawr ym Mharis a’r cytundeb hanesyddol yn ymwneud â newid yn yr hinsawdd sy’n cael ei achosi gan weithgaredd pobl.
‘Newid yn yr hinsawdd’ yw’r ymadrodd sy’n cael ei ddefnyddio nawr ond yn y gorffennol mae pobl wedi bod yn defnyddio’r termau ‘cynhesu byd-eang’ ac ‘effaith tŷ gwydr’.
Newid Hinsawdd Anthropogenig
Rydyn ni’n gallu ystyried gweithgaredd pobl sy’n effeithio ar y newid yn yr hinsawdd mewn dwy brif ffordd:
Rydyn ni wedi trafod yr ‘effaith tŷ gwydr’ naturiol yn fyr. Mae rhai nwyon sy’n bodoli’n naturiol, megis carbon deuocsid (CO2), methan (CH4) ac anwedd dŵr (H2O), yn gallu amsugno gwres a fyddai, fel arall, yn dianc i’r gofod.
Oherwydd hyn, mae’r nwyon tŷ gwydr hyn yn achosi effaith tŷ gwydr, sy’n ein cadw ni tua 32°C yn gynhesach yn naturiol – nag y bydden ni fel arall.
Dyma’r nwyon rydyn ni’n ychwanegu i’r atmosffer.
Carbon Deuocsid (CO2)
Mae CO2 yn cael ei ychwanegu i’r awyr pan fyddwn ni’n llosgi tanwydd ffosil fel glo, nwy ac olew. Cafodd carbon o gyfnod cynhanesyddol (gannoedd o filiynau o flynyddoedd yn ôl) ei gloi yn y ddaear pan gafodd y rhan fwyaf o bethau byw eu claddu.
Mae glo, olew a nwy yn danwyddau ffosil. Pan fyddwn ni’n eu llosgi nhw yn ein cartrefi, mewn gorsafoedd pŵer ac mewn injans petrol/disel (mae petrol a disel yn cael eu gwneud o olew) mae’r carbon o’r tanwydd yn uno gyda’r ocsigen o’r awyr ac yn gwneud CO2.
Galwch chi weld y berthynas rhwng tymheredd a CO2 yn y graffiau hyn, sy’n dangos y ddau dros gyfnod o 450,000 o flynyddoedd. Mae’r wybodaeth wedi dod ar ôl drilio colofnau rhew dwfn.
Methan (CH4)
Mae methan neu CH4 yn dod o amrywiaeth o weithgareddau dynol:
Math o drapiau ar gyfer dal nwyon tŷ gwydr yw dalfeydd. Mae coed yn amsugno CO2 ac yn ei gloi yn eu boncyffion, eu gwreiddiau a’u canghennau ac felly mae fforestydd y byd yn fath amlwg o drap.
Mae tanwyddau ffosil fel glo, nwy ac olew yn ddalfeydd hynafol rydyn ni’n eu cloddio ac yn eu rhyddhau yn ôl i’r atmosffer.
Mae priddoedd rhewllyd yr Arctig yn ddalfa fawr ar gyfer methan. Yr enw ar y priddoedd hyn yw rhew parhaol ac mae’n drist gweld y rhew parhaol yn toddi mwy a mwy bob blwyddyn wrth i’r tymheredd godi yn yr Arctig.
Rhew parhaol ar Fôr Beaufort yn toddi
Gwnewch dabl o dan y ddau bennawd, Allyriadau a Dalfeydd. Codnodwch yn fyr o dan y ddau bennawd sut mae eich diwrnod CHI hyd yma wedi cael effaith ar y DDAU.