© British Broadcasting Corporation (BBC)
Gweithiwch mewn grwpiau bach er mwyn cytuno ar yr atebion i’r cwestiynau canlynol:
1. Beth yw’r cynnydd yn y targed ar gyfer tymheredd y byd?
2. Beth yw ystyr Colled a Difrod (Loss & Damage)?
3. Beth yw Tryloywder (Transparency)?
Yn y rhifyn hwn o Daearyddiaeth yn y Newyddion, rydyn ni’n mynd i ymchwilio i Gytundeb Paris ar y Newid yn yr Hinsawdd ac rydyn ni’n mynd i wneud Ymarfer Gwneud Penderfyniadau ar beth gallwn ni ei wneud i helpu.
Ym mis Rhagfyr 2015, aeth arweinwyr bron 200 o wledydd i gyfarfod mawr ym Mharis. Dyma’r nifer fwyaf o Benaethiaid Gwladwriaethau i ddod at ei gilydd yn hanes y ddynoliaeth.
Ateb = Newid Hinsawdd
Mae mwyafrif gwyddonwyr y byd yn cytuno bod pobl a gweithgareddau pobl yn cael effaith mesuradwy ar hinsawdd fyd-eang. Ar lefel fyd-eang, rydyn ni’n gweld hyn fel cynnydd yn nhymheredd y byd.
Ar lefel ranbarthol a lleol, fodd bynnag, rydyn ni’n gweld hyn fel nifer o newidiadau:
Os ydych chi’n dymuno atgoffa eich hun am newid yn yr hinsawdd, darllenwch y ddwy erthygl gysylltiol yn y rhifyn hwn o Daearyddiaeth yn y Newyddion.
Beth sy’n achosi newid yn yr hinsawdd? - Cliciwch isod
Beth yw’r canlyniadau a beth allwn ni ei wneud i leihau’r newid yn yr hinsawdd? - Cliciwch isod
Y pethau pwysig yng nghytundeb Paris yn 2015 yw:
Llun: JCH 6442 (22802505643) - Presidencia de la República Mexicana © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution 2.0 Generic
Roedd y cysyniad hwn yn bwysig iawn ar gyfer gwledydd llai datblygedig yn ogystal â rhai nwy datblygedig.
Llun: Large Landslide in Uganda - Jesse Allen, NASA Earth Observatory © Wikimedia Commons - Public Domain
Cofiwch, mae gwyddonwyr yn credu bod y newid yn yr hinsawdd oherwydd gweithgaredd pobl yn uwch na’r 1°C o gynnydd yn barod. Mae hyn wedi cael ei achosi’n llwyr, bron, gan y gwledydd cyfoethog.
Llun: Global Temperature Anomaly - NASA © Wikimedia Commons - Public Domain
Roedd y gwledydd cyfoethog yn ofni y bydden nhw’n cael y bai ac mai eu cyfrifoldeb nhw fyddai ceisio helpu i ddatrys y broblem.
Bu cyfaddawd a chafodd ei gynnwys yn y cytundeb fel rhywbeth i ymchwilio iddo.
Mae hyn yn ymwneud â’r ffordd mae popeth yn cael ei fesur ymhob gwlad a sut mae’r wybodaeth yn cael ei rhannu a’i defnyddio.
Image: WQ sampling station USGS 2004 - Hall, David W., U.S. Geological Survey © Wikimedia Commons - Public Domain
Dyma un o’r rhannau mwyaf anodd i gytuno arni oherwydd nid oedd Gwledydd sy’n Datblygu eisiau cael eu cynnwys yn y gwaith o osod targedau a monitro gan fod angen iddyn nhw barhau i ddatblygu.
Mae 70% o allyriadau o nwyon sy’n achosi newid yn yr hinsawdd yn dod o 10 gwlad yn unig.
|
% yr allyriadau byd-eang |
Poblogaeth ym mis Rhagfyr 2015 (Poblth y Byd = 7,387,943,081) |
China |
24% |
1,367,485,388 |
UDA |
12% |
321,368,864 |
Yr EU |
9% |
507,000,000 |
Brasil |
6% |
204,259,812 |
India |
6% |
1,251,695,584 |
Rwsia |
5% |
142,423,773 |
Japan |
3% |
126,919,659 |
Canada |
2% |
35,099,836 |
G.Dd. Congo |
1.5% |
79,375,136 |
Indonesia |
1.5% |
255,993,674 |
Os edrychwch chi ar y tabl uchod, dylech chi allu gwneud amcangyfrifon drwy ddefnyddio eich sgiliau rhifedd er mwyn gweld a yw gwlad yn creu allyriadau yn unol â’i phoblogaeth:
Ond y peth pwysig yw hyn: os yw gwlad yn cynhyrchu allyriadau yn unol â’i phoblogaeth ai peidio, mae allyriadau ar draws y blaned yn rhy uchel a rhaid eu lleihau.
Llun: Co2-1990-2012 - Chris55 © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 4.0 International
Dyma' r broblem o safbwynt gwledydd sydd angen datblygu; bydd angen iddyn nhw naill ai gynyddu eu hallyriadau neu ddatblygu drwy ddilyn llwybr gwahanol, a fydd yn golygu llawer o arian a chael mynediad i’r dechnoleg ddiweddaraf.
Mae’r dechnoleg ddiweddaraf wedi cael ei dyfeisio a’i chynllunio gan unigolion a busnesau ac mae hawl ganddyn nhw i wneud arian drwy werthu eu dyfeisiadau.
Llun: Twice Cropped Zonnecollectoren - Mrshaba © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported
Mae hyn yn creu problem fawr i leoedd tlotaf y byd oherwydd dydyn nhw ddim yn gallu fforddio prynu’r dechnoleg.
Os nad yw gwledydd tlawd sy’n datblygu yn gallu fforddio “datblygiad gwyrdd”, byddan nhw’n dilyn yr un llwybr â gwledydd gweddill y byd, sef llosgi tanwydd ffosil.
Llun: Wind power plants in Xinjiang, China - Chris Lim © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 2.0 Generic
Llun: Oosterscheldekering-pohled - Vladimír Šiman © GNU Free Documentation License dan Creative Commons Attribution 3.0 Unported
Llun: USCurrency Federal Reserve - BrokenSegue © Wikimedia Commons - Public Domain
Llun: Ikata Nuclear Powerplant - ja:User:Newsliner - Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 2.5 Generic
Mathau o wledydd:
‘Eglurwch safbwyntiau’r wlad rydych chi’n ei chynrychioli.’
Mae’r adnodd hwn wedi cael ei gynllunio i’w ddefnyddio gyda’r dosbarth cyfan o du blaen y dosbarth ar brojector/bwrdd gwyn rhyngweithiol.
Dylai’r athro roi eglurhad ar y delweddau amrywiol, gan seilio’r sylwadau ar y testun. Ni fydd modd i fwyafrif llethol y disgyblion ddarllen y testun cyfan o fewn yr amser sydd ar gael.
Yn ddelfrydol, dylai’r disgyblion gael mynediad i’r adnodd ar-lein er mwyn gweithio ar y daflen gweithgareddau (dylid argraffu hon ar bapur A3).
Yn ddelfrydol, dylid rhoi cefnogaeth ar gyfer y gweithgareddau hyn, sef ystafell rwydwaith, llechi/gliniaduron neu ffonau/dyfeisiau’r disgyblion eu hunain, os caniateir y rhain.
Fodd bynnag, mae’r gweithgareddau wedi cael eu cynllunio ar gyfer eu defnyddio mewn gwers arferol, sef un awr, gyda’r athro’n defnyddio’r adnodd yn nhu blaen yr ystafell ddosbarth ochr yn ochr â’r daflen adnoddau.
Yna, gellid rhoi gwaith cartref i’r disgyblion, sef astudio’r tair erthygl cyn y wers nesaf.
Mae’r adnodd a’r daflen gysylltiedig wedi cael eu cynllunio fel eu bod yn cefnogi’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd, gan roi i ddisgyblion wybodaeth ddaearyddol allweddol mewn perthynas â’r lleoedd sy’n gysylltiedig â’r argyfwng sy’n ymwneud â dadleoli gorfodol yn y Newid Hinsawdd.
Darllenwch a chwblhewch y gweithgareddau yn yr erthygl ar-lein ac yn yr erthyglau cysylltiedig yn y rhifyn hwn o Daearyddiaeth yn y Newyddion – naill ai yn yr ystafell ddosbarth neu gartref. Ceisiwch orffen yr holl weithgareddau sydd ar y daflen adnoddau.
Beth fyddwch chi’n ei ddysgu:
Byddwch chi’n dysgu ymadroddion daearyddol newydd, wedi’u goleuo mewn porffor. Dylech chi ddysgu’r rhain a’u cynnwys mewn geirfa. Rhestr o eiriau a’u hystyr yw geirfa. Gallech chi gael un yng nghefn eich llyfr ysgrifennu daearyddiaeth. Os oes gyda chi gynlluniadur, mwy na thebyg bod lle da yn hwnnw ar gyfer cadw geirfa neu gallech chi gadw llyfr geirfa ar wahân. Mae geirfa dda yn eich helpu chi i ddatblygu eich geirfa a’ch llythrennedd. Chwiliwch am ystyr geiriau drwy ddefnyddio gweddill cynnwys yr erthygl, drwy drafod neu defnyddiwch eiriadur (naill ai ar-lein neu lyfr).
Erthyglau eraill efallai y byddwch a diddordeb mewn, Cynhadledd Hinsawdd Copenhagen.