Canlyniadau newid yn yr hinsawdd yw’r pethau a allai ddigwydd neu sy’n digwydd yn barod o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd. Bydd y rhan fwyaf o’r canlyniadau yn rhai negyddol ond, mewn rhai mannau, bydd rhai cyfleoedd yn codi.
Mwy na thebyg mai gwledydd tlawd, llai datblygedig, fydd yn dioddef fwyaf oherwydd newid yn yr hinsawdd gan fod eu poblogaeth yn llawer nes at lefel argyfwng yn barod ac mae gan eu llywodraethau lai o arian ar gyfer delio gyda’r canlyniadau.
Llun: Darfur refugee camp in Chad - Mark Knobil © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution 2.0 Generic
Cynnydd yn y tymheredd
Mae tymheredd byd-eang wedi codi 1°C yn barod, ond nid yw’r cynnydd yr un faint ym mhob man. Mae’r Arctig a’r Antarctig, yn enwedig yr Arctig, yn cynhesu llawer mwy na rhannau eraill o’r byd.
Llun: Thermohaline circulation - Brisbane © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported / GNU Free Documentation License
Er y cynnydd byd-eang, gallai rhai mannau fynd yn oerach. Gallai Gorllewin Ewrop, e.e. Cymru a’r DU fynd yn oerach oherwydd y newidiadau yng ngherrynt cynnes y môr, sef Drifft Gogledd Iwerydd, sy’n llifo o’r de i’r gogledd oddi ar ein harfordir gorllewinol.
Lefel y môr yn codi
Rhagwelir y bydd lefel y môr yn parhau i godi a bydd hyn yn cynyddu’r risg o lifogydd ar hyd yr arfordiroedd. Mae’r prif resymau dros hyn yn gysylltiedig ag ehangiad thermol y dŵr. Mae llawer o bethau sy’n cynhesu yn ehangu neu’n mynd yn fwy. Bydd hyn yn cynyddu cyfaint y cefnforoedd ac felly bydd hynny’n codi lefel y môr.
Mae llawer o rew yn eistedd ar wyneb y tir mewn mannau fel yr Ynys Las, Alasga, Sgandinafia ac yn y mynyddoedd uchel ar hyn o bryd. Os bydd y rhew hwn yn parhau i doddi, bydd lefel y môr yn codi. Byddai’r rhew sydd ar yr Ynys Las yn gallu cynyddu lefel y môr tua 6 metr.
Map yn dangos (mewn coch) cynnydd o 6 metr yn lefel y môr
Llun: 6m Sea Level Rise - NASA © Wikimedia Commons - Public Domain
Stormydd
Llun: Hurricane Isabel from ISS - Mike Trenchard, Earth Sciences & Image Analysis Laboratory, Johnson Space Center / NASA © Wikimedia Commons - Public Domain
Mae stormydd trofannol, e.e. corwyntoedd, yn cael eu ffurfio gan dymheredd cefnforoedd sy’n uwch na 26.5°C. Gan y byddai mwy o arwynebedd y môr yn uwch na’r tymheredd hwn, byddai’r stormydd trofannol hyn yn gallu taro ardaloedd newydd.
Gallai tymheredd uwch ar wyneb y tir achosi cynnydd yng nghynhesu darfudol yr awyr. Byddai hyn yn arwain at gynnydd yn amlder a difrifoldeb stormydd o fellt a tharanau darfudol mewn rhannau poeth o’r byd, e.e. Affrica Gyhydeddol ac mewn mannau fel y DU yn ystod yr haf.
Mae mwy a mwy o dystiolaeth fod cynnydd yn amlder a difrifoldeb gwasgedd isel neu stormydd mewn mannau fel y DU.
Poethdonnau a sychder
Mae’r rhain yn taro rhai ardaloedd eisoes, e.e. De Ewrop ac Affrica islaw Sahara. Ar sail rhagolygon y modelau, mae ardaloedd eraill, e.e. rhannau eang o Awstralia, mewndiroedd Gogledd America a Dwyrain Ewrop, mewn perygl hefyd.
Llun: Drought - Tomas Castelazo © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported / GNU Free Documentation License
Mae llawer o bobl yn Affrica islaw Sahara ar fin newynu a bydd sychder yn gwneud hyn yn waeth. Yr ardaloedd yng Ngogledd America a Dwyrain Ewrop sy’n debygol o gael eu heffeithio yw’r ardaloedd mwyaf yn y byd sy’n cynhyrchu grawn. Gallai hyn achosi prinder bwyd ar draws y byd yn ogystal â chynnydd sylweddol ym mhris bwyd.
Mae gan rai gwledydd nodweddion ffisegol sy’n gallu cynyddu’r perygl y byddan nhw’n dioddef oherwydd newid yn yr hinsawdd.
Ydych chi’n gallu meddwl am unrhyw enghreifftiau?
Ymhlith y gwledydd sy’n dod o fewn y categori hwn y mae gwledydd sy’n ynysoedd yn y Môr Tawel, gwledydd yn Affrica islaw Sahara sy’n ffinio â Diffeithdir Sahara a Bangladesh, lle mae 70% o’r wlad yn 1 metr neu lai uwchlaw’r môr.
Cafodd cysyniadau fel addasu, lliniaru, trosglwyddo technoleg, allyriadau a dalfeydd eu cyflwyno yn yr erthygl gysylltiol arall.
Beth sy’n achosi newid yn yr hinsawdd? - Cliciwch isod
Yn hytrach na meddwl am y pethau mawr y mae’r llywodraethau yn gallu eu gwneud am y pethau hyn, rydyn ni’n mynd i feddwl mwy am beth gallwn ni ei wneud ar lefel bersonol, ar lefel teulu, ar lefel ysgol, ar lefel gymunedol ac ar lefel ein hawdurdodau lleol yng Nghymru.
Addasu
Mae meddwl ymlaen llaw yn gwneud synnwyr.
Llun: Irrigation1 - Paulkondratuk3194 © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported / GNU Free Documentation License
Ydych CHI yn gallu awgrymu pa gamau y gallem eu cymryd er mwyn addasu i’r newid yn yr hinsawdd?
Syniadau
Defnyddiwch weithgaredd cyfarwydd mewn grŵp bach er mwyn chwilio am syniadau:
Ydy parhau i godi adeiladau newydd ar dir gwastad ger yr arfordir neu ar hyd llawr dyffrynnoedd afonydd yn beth doeth?
Ydy ffermwyr yn gallu newid y cnydau maen nhw’n eu tyfu?
Ydyn ni’n gallu lleihau ein defnydd o ddŵr fel bod mwy ar gael os bydd sychder?
Ydyn ni’n gallu cyflwyno rhywogaethau newydd yn lle’r rhai a fydd yn ei chael hi’n anodd yn ein hinsawdd newydd?
Sut gallwn ni wella’r ffordd rydyn ni’n ymateb i’r cynnydd yn amlder stormydd difrifol?
Lliniaru
Beth gallwn ni ei wneud i leihau effaith canlyniadau, er enghraifft drwy gael mynediad i fwy o ddŵr o dan y ddaear neu godi argaeau newydd er mwyn ymdopi â sychder?
Beth gallwn ni ei wneud os bydd cnydau’n methu a bod prinder bwyd?
Allwn ni adeiladu amddiffynfeydd rhag llifogydd er mwyn amddiffyn rhag newid yn lefel y môr a chynnydd yn amlder a difrifoldeb stormydd?
Llun: Thames Barrier 03 - Andy Roberts © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution 2.0 Generic
Allyriadau
Sut gallwn ni leihau faint o danwydd ffosil rydyn ni’n ei losgi yn ein cartrefi neu wrth deithio o le i le?
Beth gallwn ni ei wneud gyda’n gwastraff ni?
Mae mwy a mwy ohonon ni’n ailgylchu ein gwastraff bwyd ond faint ohonon ni’n sy’n gwybod ble mae’n mynd?
Mae’r rhan fwyaf ohono’n mynd i danciau mawr o’r enw treulwyr anerobig er mwyn gwneud bio-nwy.
Llun: Biogasholder and flare - Vortexrealm © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported / GNU Free Documentation License
Gellir defnyddio hwn yn lle tanwyddau ffosil yn yr un ffordd ag rydyn ni’n defnyddio nwy ar hyn o bryd e.e. er mwyn cynhyrchu trydan a hyd yn oed ar gyfer gyrru ceir. Gall unrhyw gar sy’n defnyddio LPG (Liquid Petroleum Gas) ar hyn o bryd ddefnyddio methan yn lle LPG.
Gellir defnyddio treulio anerobig ar ein holl garthion ac ar garthion anifeiliaid ein ffermydd!
Allwn ni leihau faint o gig rydyn ni’n ei fwyta?
Llun: NCI Visuals Food Hamburger - Len Rizzi © Wikimedia Commons - Public Domain
Dalfeydd
Allwn ni roi’r gorau i brynu nwyddau sy’n dod o fforestydd nad ydynt wedi cael eu hail-blannu?
Allwn ni blannu rhagor o goed yn ein cymunedau, ysgolion a gerddi?
Ar ôl darllen y tair erthygl a gwneud y gweithgareddau, defnyddiwch y daflen A3 i’ch helpu chi i wneud Ymarfer Gwneud Penderfyniadau ar wahanol agweddau ar newid yn yr hinsawdd mewn gwahanol fathau o wledydd.