Yn yr erthygl gysylltiol hon, rydyn ni’n mynd i edrych ar yr hyn sy’n achosi’r newid yn yr hinsawdd.
Mae gwneud yn siŵr ein bod yn deall geiriau allweddol fel hinsawdd ynsyniad da bob amser. Yn aml iawn, mae pobl yn drysu rhwng y gair tywydd a’r gair hinsawdd ac weithiau, maen nhw’n meddwl eu bod yn golygu’r un peth hyd yn oed. Ystyr tywydd yw’r amgylchiadau atmosfferig ar ryw adeg neu’i gilydd (mae hyn yn ymwneud â’r atmosffer; yr atmosffer yw’r haen o nwy sydd rhwng wyneb y Ddaear a’r Gofod).
Llun: Rain-on-Thassos - Edal Anton Lefterov © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported / GNU Free Documentation License
Gallwch chi weld y tywydd wrth edrych allan drwy’r ffenestr. Ydy’r aer yn symud ar hyd wyneb y ddaear? Os ydy e, dyma’r gwynt.
Oes cymylau (dŵr wedi cyddwyso ) yn yr awyr? Oes dŵr yn symud o’r aer i wyneb y ddaear? Y gair am hwn yw dyddodiad ac mae’n cynnwys glaw, eira, eirlaw, niwl, niwlen, gwlith a llwydrew.
Llun: High Desert Fog - Jessie Eastland © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported
Os nad oes cymylau yn yr awyr, bydd yr haul yn tywynnu - yn dibynnu ar yr adeg o’r dydd.
Gallech chi gymryd thermomedr y tu allan er mwyn gweld beth yw’r tymheredd.
Ystyr tywydd, felly, yw’r amgylchiadau atmosfferig ar ryw adeg benodol. Ystyr hinsawdd yw’r amgylchiadau cyfartalog dros gyfnod o amser (cyfnod o 30 mlynedd fel arfer).
Llun: Sunset 2007-1 - Alvesgaspar © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported / GNU Free Documentation License
Fel arfer, mae’r hinsawdd yn cael ei nodi fel cyfartaledd bob mis. Mae’n ddigon hawdd cyfrifo’r dyddodiad cyfartalog ac fel arfer mae’r tymheredd yn cael ei nodi fel:
Mae’n bwysig eich bod yn gwybod pa un sy’n cael ei ddefnyddio, yn enwedig os ydych chi’n pacio’ch dillad i fynd ar daith neu ar eich gwyliau.
Mae amgylchiadau atmosfferig eraill ychydig bach yn fwy anodd. Mae heulwen yn cael ei nodi fel nifer cyfartalog o oriau o heulwen bob dydd.
Mae gwynt yn cael ei nodi mewn dwy ffordd fel arfer:
Llun: Anemometer 2745 - Walter Siegmund © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported / GNU Free Documentation License
Gan ein bod ni’n gwybod beth yw hinsawdd erbyn hyn, gallwn ni drafod beth yw ystyr newid yn yr hinsawdd.
Mae newid yn yr hinsawdd yn digwydd drwy’r amser ac mae’n naturiol. Nid yw’r tywydd a’r hinsawdd yr un peth byth bron, felly mae newidiadau bach yn yr hinsawdd drwy’r amser.
Fodd bynnag, roedd y cyfarfod mawr ym Mharis a’r cytundeb hanesyddol yn ymwneud â newid yn yr hinsawdd sy’n cael ei achosi gan weithgaredd pobl. Y disgrifiad weithiau yw newid sy’n cael ei achosi gan bobl, ond byddai hyn yn ddisgrifiad gwael.
Pam y byddai defnyddio’r ymadrodd ‘sy’n cael ei achosi gan bobl’ yn ddisgrifiad gwael?
Mae’r gair ‘anthropogenig’ yn ymadrodd neu ansoddair gwell i’w ddefnyddio. Dyma’r gair sy’n cael ei ddefnyddio gan wyddonwyr a’r Cenhedloedd Unedig.
“Newid yn yr hinsawdd” yw’r ymadrodd sy’n cael ei ddefnyddio nawr ond yn y gorffennol mae pobl wedi bod yn defnyddio “cynhesu byd-eang” yn ogystal â’r ymadrodd “effaith tŷ gwydr”.
Llun: Eden project - A1personage © Wikimedia Commons - Public Domain
Newid Hinsawdd Anthropogenig
Mae modd ystyried gweithgaredd pobl sy’n effeithio ar y newid yn yr hinsawdd mewn dwy brif ffordd:
Rydyn ni wedi trafod yr “effaith tŷ gwydr” naturiol yn fyr. Mae rhai nwyon sy’n bodoli’n naturiol, megis carbon deuocsid (CO2), methan (CH4) ac anwedd dŵr (H2O) yn gallu amsugno gwres a fyddai, fel arall, yn dianc i’r gofod. O ganlyniad, mae’r nwyon tŷ gwydr hyn yn achosi effaith tŷ gwydr, sy’n ein cadw ni tua 32°C yn gynhesach yn naturiol – nag y bydden ni fel arall, ar sail ein pellter o’r haul.
Dyma’r nwyon rydyn ni’n ychwanegu i’r atmosffer.
Carbon Deuocsid (CO2)
Mae CO2 yn cael ei ychwanegu i’r awyr pan fyddwn yn llosgi tanwydd ffosil megis glo, nwy ac olew. Cafodd carbon o gyfnod cynhanesyddol (gannoedd o filiynau o flynyddoedd yn ôl) ei gloi yn y ddaear pan gafodd y rhan fwyaf o bethau byw eu claddu. Fe drodd fforestydd a oedd wedi’u claddu yn lo yn bennaf a daeth gweddillion anifeiliaid bach a oedd yn byw yn y môr yn olew a nwy.
Llun: Men of the Mine- Life at the Coal Face, Britain, 1942 D8263 - Ministry of Information Photo Division Photographer © Wikimedia Commons - Public Domain
Mae glo, olew a nwy yn danwyddau ffosil. Pan fyddwn yn eu llosgi nhw yn ein cartrefi, mewn gorsafoedd pŵer ac mewn injans petrol/disel (mae petrol a disel yn cael eu gwneud o olew) mae’r carbon o’r tanwydd yn uno gyda’r ocsigen o’r awyr ac yn gwneud CO2.
Mae modd gweld y berthynas rhwng tymheredd a CO2 yn y graffiau hyn, sy’n dangos y ddau dros gyfnod o 450,000 o flynyddoedd. Mae’r wybodaeth wedi dod ar ôl drilio colofnau rhew dwfn.
Llun: Vostok Petit data - NOAA © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported / GNU Free Documentation License
Methan (CH4)
Mae methan neu CH4 yn dod o amrywiaeth o weithgareddau dynol sy’n gysylltiedig â phethau marw, a oedd yn arfer bod yn fyw, yn pydru. Mae methan, sy’n nwy tŷ gwydr, tua 20 gwaith yn fwy pwerus na charbon deuocsid, felly mae'n bwysig iawn meddwl am y pethau sy’n cynhyrchu’r nwy hwn:
Llun: Biodegradable waste - Muu-karhu © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported / GNU Free Documentation License
Math o drapiau ar gyfer dal nwyon tŷ gwydr yw dalfeydd. Mae fforestydd y byd yn fath amlwg o drap gan fod coed yn amsugno CO2 ac yn ei gloi yn eu boncyffion, eu gwreiddiau a’u canghennau.
Llun: Lacanja burn - Jami Dwyer © Wikimedia Commons - Public Domain
Mae tanwyddau ffosil megis glo, nwy ac olew yn ddalfeydd hynafol rydym yn eu cloddio ac yn eu rhyddhau yn ôl i’r atmosffer.
Mae dau brif fath o ddalfeydd methan. Yn gyntaf, mae llawer iawn o’r nwy hwn wedi cael ei rewi ym mhriddoedd yr Arctig. Yr enw ar y priddoedd hyn yw rhew parhaol ac mae’n drist gweld y rhew parhaol yn toddi mwy a mwy bob blwyddyn wrth i’r tymheredd godi yn yr Arctig.
Rhew parhaol ar Fôr Beaufort yn toddi
Y brif ddalfa arall ar gyfer methan yw gwely moroedd y byd ac rydyn ni’n gwybod bod cynhesu byd-eang - tua 8°C - wedi digwydd gannoedd o filiynau o flynyddoedd yn ôl pan oedd dyddodion wedi cynhesu digon i’w rhyddhau.
Llun: Beaufort Permafrost1 - Awing88 © Wikimedia Commons dan Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported
Gwnewch dabl o dan y ddau bennawd, Allyriadau a Dalfeydd. Cofnodwch yn fyr o dan y ddau bennawd sut mae eich diwrnod CHI hyd yma wedi cael effaith ar y DDAU.