Mae llawer o fodelau wedi cael eu defnyddio i geisio egluro pam mae pobl yn ymfudo. Mae’r modelau mwyaf cyffredin heddiw yn edrych yn bennaf ar beth sy’n ysgogi pobl i ymfudo. Yn aml iawn, mae’r model hwn yn cael ei alw’n fodel gwthio-denu.
Mae’r llun uchod yn ceisio dangos beth sy’n digwydd ym meddwl rhywun sy’n ystyried ymfudo. Mewn un cylch, mae’r person yn gweld rhai agweddau cadarnhaol (+) i’r man ble mae’n byw ar hyn o bryd – ei fro/lleoliad. Fodd bynnag, mae llawer iawn mwy o agweddau negyddol (-). Yr enw ar y rhain yw’r ffactorau gwthio.
Weithiau, dim ond un elfen negyddol (-) anferth yw’r rheswm, er enghraifft MARWOLAETH neu DRAIS neu BOENYDIO – neu, weithiau, y TRI.
Mae’r ardal neu’r lleoliad sy’n gyrchfan yn dangos agweddau cadarnhaol (+) yn bennaf ym marn yr ymfudwr (gallai’r ymfudwr fod yn anghywir) ac mae llawer llai o agweddau negyddol. Yr enw ar yr agweddau cadarnhaol yw ffactorau denu.
Dylai gwir ffoaduriaid a cheiswyr lloches fynd i le diogel ac yna fynd drwy’r broses gyfreithiol o gofrestru gydag awdurdodau megis swyddogion UNHCR - The United Nations High Commissioner for Refugees. Yna, bydd gwledydd datblygedig fel y rhai sydd yn yr UE yn derbyn gwir geiswyr lloches ond mae’n ymddangos bod y system hon wedi methu.
Fel rydyn ni wedi gweld, mae gwledydd yr UE yn ymdrin â channoedd o filoedd o geiswyr lloches/ffoaduriaid sydd wedi cyrraedd mewn dull anghyfreithlon. Pe baen ni’n cynnwys y rhai sydd heb eu prosesu eto, rydyn ni’n siarad am dros filiwn o bobl!
Nac ydyn, wrth gwrs, ond mae’n anodd gwylio rhieni’n dal eu plant uwch eu pennau yn ceisio’u hachub nhw rhag boddi heb i ni deimlo cryn dipyn o dosturi.
Mae llawer ohonyn nhw’n dianc o wledydd peryglus a rhyfelgar fel Syria neu Somalia ond nid yw pob un ohonyn nhw’n hollol ddiymgeledd neu’n fwyaf haeddiannol. Mae troseddwyr sydd wedi troi at smyglo pobl – yr ymadrodd arno weithiau yw masnachu pobl – yn un broblem fawr.
Mae gangiau o droseddwr yn codi $10,000 (UDA) ar gyfartaledd am gymryd pobl i’r UE. Yn aml iawn, bydd teuluoedd cefnog yn gwerthu darnau o dir er mwyn codi’r arian ac yna’n anfon yr aelodau mwyaf addysgedig o’u teuluoedd. Mae llawer o’r gangiau hyn o droseddwyr yn aelodau o fyddinoedd terfysgol sy’n dinistrio rhannau o’r gwledydd drwy weithredu’n farbaraidd ac mae hynny’n creu ffoaduriaid dilys.
Llysgennad UNICEF, Lucy Liu, yn codi ymwybyddiaeth o berygl masnachu pobl.
Llun gan Bethany fe’u defnyddir o dan CC BY
Ar y gorau, mae gangiau sy’n smyglo pobl yn droseddwyr, ond ar eu gwaethaf (fel arfer) maen nhw’n ariannu terfysgaeth ryngwladol.
Mae’n drist bod nifer fawr o ymfudwyr yn bobl addysgedig sy’n dod o deuluoedd cymharol gyfoethog a’u bod yn talu am gael bod yn ymfudwyr economaidd neu’n defnyddio dulliau eraill i gyrraedd gwledydd mwy datblygedig.
Y ffordd hawsaf mae pobl gefnog o wledydd gwahanol yn gallu dod yn geiswyr lloches yw drwy gael fisas dilys, neu rai ffug, er mwyn ymweld â gwlad yn yr UE, er enghraifft y DU.
Os oes gan rywun fisa dilys, mae’n aros yn hirach na chyfnod y fisa.
Does ond angen twyllo staff ym maes awyr y wlad wreiddiol gyda fisa ffug ac mae’n ddigon hawdd llwgrwobrwyo swyddogion y maes awyr mewn llawer o leoedd. Pan fydd yr ymfudwr ar yr awyren, bydd yn dinistrio’r pasbort/dogfennau teithio a phan fydd yn cyrraedd y wlad arall, bydd yn gofyn am loches.
Unwaith eto, mae’r math hwn o ymfudo’n cael eu hwyluso’n bennaf gan gangiau troseddol ac, wrth gwrs, dim ond teuluoedd cyfoethog yng ngwledydd Affrica ac ar draws y Dwyrain Canol sy’n gallu fforddio’r dull hwn o ymfudo.
Bydd hyn ond yn helpu troseddwr a therfysgwyr a bydd yn cymryd cyfleoedd oddi ar geiswyr lloches dilys sydd mewn gwersylloedd ar gyfer ffoaduriaid mewn gwledydd tlawd ac sy’n ceisio gwneud pethau yn y ffordd gyfreithlon.
Nid dim ond yn yr UE mae hyn yn digwydd
Mae ymfudo ar raddfa fawr o wledydd tlawd i wledydd cyfoethog yn digwydd ar draws y byd. Yng Ngogledd America, mae gangiau troseddol ac unigolion yn ceisio symud pobl o America Ganol a De America drwy Fecsico i mewn i’r Unol Daleithiau. Mae nifer fawr o bobl yn gwneud y daith beryglus ar draws y môr o rannau o Asia i Awstralia.
Eleni, gwnaeth Awstralia benderfyniad beiddgar er mwyn ceisio dileu’r ffactor denu o safbwynt ‘ymfudwyr y cychod’ a oedd yn wynebu risg ddifrifol o foddi yn y môr ac o safbwynt yr holl ymfudwyr anghyfreithlon eraill.
Yn gyntaf, sefydlwyd polisi lle mae pawb yn gorfod cael eu rhoi mewn canolfannau cadw – mae pawb yn mynd i gael eu cadw yn y ddalfa. Nid oes unrhyw ymfudwyr anghyfreithlon yn cael ymuno â’r gymuned ac os oes unrhyw ymfudwr anghyfreithlon yn y gymuned yn barod, bydd yn cael ei arestio a’i roi yn y ddalfa.
Llun by DIAC Images fe’u defnyddir o dan CC BY
Roedd gan Awstralia nifer o ganolfannau cadw ar y tir mawr ond er mwyn dileu’r ffactor denu o safbwynt ymfudwyr anghyfreithlon, penderfynodd y llywodraeth roi contract i lywodraethau ‘gwledydd diogel’ eraillar ynysoedd yn y Môr Tawel. Codwyd gwersylloedd fel yr un yma ar ynysoedd fel Ynys Manus, sy’n rhan o ynysoedd Papua Gini Newydd yn ogystal ag ar ynys Nauru ac Ynys y Nadolig. Mae’r llywodraethau a nifer o bobl leol yn ystyried bod polisi fel hwn yn weithgarwch diwydiannol rhagorol.
Mae llywodraeth Awstralia wedi annog ardaloedd fel yr UE i feddwl am bolisïau tebyg. Efallai y gallen ni ddefnyddio nifer o’r ynysoedd oddi ar arfordir yr Alban lle mae nifer fach o bobl neu ddim pobl o gwbl neu wneud yr un peth ag Awstralia a sefydlu partneriaeth gyda llywodraethau ‘gwledydd diogel’ yn Affrica. Fel rydych chi wedi darllen yn barod, mae gan Sbaen ganolfannau mewnfudo yng Ngogledd Affrica.
Ardal Sbaenaidd Ffens Melilla yng Ngogledd Affrica.
Llun by Ongayo fe’u defnyddir o dan CC BY
Hyd yma yn Daearyddiaeth yn y Newyddion, rydyn ni wedi gwneud i’r DU edrych braidd yn wael o safbwynt derbyn ceiswyr lloches a hyd yn oed o safbwynt derbyn y gyfran fwyaf o’r gronfa Ewropeaidd sydd i fod i ddelio gydag ymfudo a lloches, ond mae hynny yng nghyd-destun delio â’r ffactorau denu.
Mewn gwirionedd, mae’r DU yn wlad dda iawn o safbwynt delio gyda’r ffactorau gwthio:
Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am Nodau Datblygu’r Mileniwm mewn rhifau blaenorol o Daearyddiaeth yn y Newyddion. Yn ystod y pymtheng mlynedd diwethaf, maen nhw wedi bod yn canolbwyntio ar wella bywydau yn rhannau tlotaf y byd – gan gynnwys lleihau’r ffactorau gwthio o safbwynt ffoaduriaid. Ym mis Medi, mae Nodau Datblygu Cynaliadwy yn cael eu lansio yn eu lle a bydd Daearyddiaeth yn y Newyddion yn aros gyda’r thema honno. Rydyn ni wedi dechrau ar y thema yn y rhifyn hwn ar ymfudo ond byddwn yn canolbwyntio ar ddulliau o leihau’r ffactorau gwthio.
Ar ôl i chi ddarllen y tair erthygl a gwneud y gweithgareddau, defnyddiwch y daflen A3 i’ch helpu chi i wneud yr ymarfer gwneud penderfyniad.
Erthyglau eraill efallai y byddwch a diddordeb mewn Ymfudo o Fecsico i UDA a Ymfudo yn y DU.