Mae daearyddwyr yn defnyddio’r model gwthio-denu er mwyn ein helpu ni i ddeall pam mae pobl yn ymfudo.
Weithiau, dim ond un elfen negyddol (-) anferth yw’r rheswm, er enghraifft MARWOLAETH neu DRAIS neu BOENYDIO – neu, weithiau, y TRI.
Nac ydyn, wrth gwrs, ond mae’n anodd gwylio rhieni’n dal eu plant uwch eu pennau yn ceisio’u hachub nhw rhag boddi heb i ni deimlo drostyn nhw.
Mae llawer ohonyn nhw’n dianc o wledydd peryglus a rhyfelgar fel Syria neu Somalia ond nid dyma’r bobl dlotaf na’r rhai mwyaf haeddiannol.
Mae troseddwyr sydd wedi troi at smyglo pobl – yr ymadrodd arno weithiau yw masnachu pobl – yn broblem fawr.
Mae gangiau o droseddwyr yn codi $10,000 (UDA) ar gyfartaledd am gymryd pobl i’r UE. Yn aml iawn, mae teuluoedd cefnog yn gwerthu darnau o dir er mwyn codi’r arian ac yna’n anfon yr aelodau mwyaf addysgedig o’u teuluoedd.
Mae llawer o’r gangiau hyn o droseddwyr yn derfysgwyr sy’n achosi rhyfeloedd mewn gwledydd fel Syria.
Llysgennad UNICEF, Lucy Liu, yn dangos pa mor beryglus yw masnachu pobl.
Llun gan Bethany fe’u defnyddir o dan CC BY
Mae’n drist bod nifer fawr o ymfudwyr yn dod o deuluoedd sydd wedi cael addysg, sy’n gymharol gyfoethog a’u bod yn talu am gael bod yn ymfudwyr economaidd neu’n defnyddio dulliau eraill i gyrraedd gwledydd mwy datblygedig.
Y ffordd hawsaf mae pobl gefnog o wledydd gwahanol yn gallu dod yn geiswyr lloches yw drwy gael fisas dilys,neu rai ffug, er mwyn ymweld â gwlad yn yr UE, er enghraifft y DU.
Does ond angen twyllo staff ym maes awyr y wlad wreiddiol gyda fisa ffug ac mae’n ddigon hawdd llwgrwobrwyo swyddogion y maes awyr mewn llawer o leoedd. Pan fydd yr ymfudwr ar yr awyren, bydd yn dinistrio’r pasbort/dogfennau teithio a phan fydd yn cyrraedd y wlad arall, bydd yn gofyn am loches.
Bydd hyn ond yn helpu troseddwr a therfysgwyr a bydd yn cymryd cyfleoedd oddi ar geiswyr lloches go iawn sydd mewn gwersylloedd gorlawn ar gyfer ffoaduriaid mewn gwledydd tlawd ac sy’n ceisio gwneud pethau yn y ffordd gyfreithlon.
Nid dim ond yn yr UE mae hyn yn digwydd
Yng Ngogledd America, mae gangiau troseddol ac unigolion yn ceisio symud pobl o America Ganol a De America drwy Fecsico i mewn i’r Unol Daleithiau. Mae nifer fawr o bobl yn gwneud y daith beryglus ar draws y môr o rannau o Asia i Awstralia.
Eleni, gwnaeth Awstralia benderfyniad beiddgar er mwyn ceisio dileu’r ffactor denu o safbwynt ‘ymfudwyr y cychod’ a oedd yn wynebu risg ddifrifol o foddi yn y môr ac o safbwynt yr holl ymfudwyr anghyfreithlon eraill.
Dechreuodd Awstralia bolisi lle mae pawb yn gorfod cael eu rhoi mewn canolfannau cadw - mae pawb yn mynd i gael eu cadw mewn canolfannau neu wersylloedd ar Ynysoedd y Môr Tawel.
Llun by DIAC Images fe’u defnyddir o dan CC BY
Rhoddodd llywodraeth Awstralia arian i lywodraethau ‘gwledydd diogel’ eraillar ynysoedd yn y Môr Tawel er mwyn codi gwersylloedd fel yr un yma ar ynysoedd fel Ynys Manus, sy’n rhan o ynysoedd Papua Gini Newydd.
Mae llywodraethau’r ynysoedd a nifer o bobl leol yn gweld hyn yn ffordd dda o ennill arian.
Ardal Sbaenaidd Ffens Melilla yng Ngogledd Affrica.
Llun by Ongayo fe’u defnyddir o dan CC BY
Hyd yma yn Daearyddiaeth yn y Newyddion, rydyn ni wedi gwneud i’r DU edrych braidd yn wael o safbwynt derbyn ceiswyr lloches a hyd yn oed o safbwynt derbyn y gyfran fwyaf o’r gronfa Ewropeaidd.
Mewn gwirionedd, mae’r DU yn wlad dda iawn o safbwynt delio gyda’r ffactorau gwthio:
Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am Nodau Datblygu’r Mileniwm mewn rhifau blaenorol o Daearyddiaeth yn y Newyddion. Yn ystod y pymtheng mlynedd diwethaf, maen nhw wedi bod yn canolbwyntio ar leihau’r ffactorau gwthio o safbwynt ffoaduriaid.
Ym mis Medi, mae Nodau Datblygu Cynaliadwy yn cael eu lansio yn eu lle a bydd Daearyddiaeth yn y Newyddion yn dweud wrthych chi amdanyn nhw.
Ar ôl i chi ddarllen y tair erthygl a gwneud y gweithgareddau, defnyddiwch y daflen A3 i’ch helpu chi i wneud yr ymarfer gwneud penderfyniad.
Erthyglau eraill efallai y byddwch a diddordeb mewn Ymfudo o Fecsico i UDA a Ymfudo yn y DU.