29

Gwneud penderfyniadau – Argyfwng yr Ymfudwyr

Beth allwn ni wneud am argyfwng yr ymfudwyr?

Ymfudwyr chwe mis cyntaf 2015

undefined

Ffynhonell: UN High Commissioner for Refugees (UNHCR), The sea route to Europe: The Mediterranean passage in the age of refugees , 1 Gorffennaf 2015

Edrychwch ar y ffotograff am 30 eiliad. Trïwch ddod o hyd i 10 peth sydd, yn eich barn chi, yn sefyll allan.

Beth, yn eich barn chi, mae’r ffotograff yn ei ddangos?

Beth ydy cysylltiad hyn ag Argyfwng yr Ymfudwyr?

Beth sy’n digwydd?

Pan fyddwn ni’n gwylio’r teledu neu’n darllen gwybodaeth ar y rhyngrwyd, mae’n hawdd cael yr argraff fod byddin o bobl yn ceisio dod i mewn i’r Deyrnas Unedig.

Mae golygfeydd ofnadwy wedi bod yn Ffrainc wrth i ymfudwyr geisio rhuthro i fynedfa Twnel y Sianel, cuddio mewn lorïau heb i neb eu gweld neu hyd yn oed mewn carafanau wrth i bobl fynd adref ar ddiwedd eu gwyliau.

undefined

Llun gan Gémes Sándor/SzomSzed fe’u defnyddir o dan CC BY

Mae’n ymddangos fel pe bai pob gwleidydd yn gwneud môr a mynydd am hyn ac yn awgrymu mai pobl yn y Deyrnas Unedig yw’r bobl sy’n teimlo’r effaith fwyaf – wel, mae hyn yn rhannol gywir ond mae’r rhan fwyaf yn anghywir.

Mae’n rhannol gywir oherwydd mae’n effeithio’n negyddol ar rai pobl. Er enhgraifft, pan achosodd yr ymfudwyr broblemau wrth Dwnel y Sianel,  roedd tagfeydd traffig mawr yng Nghaint. Sefydlodd yr heddlu lleol gynllun o’r enw ‘ymgyrch pentyrru’ gan greu degau o gilometrau o linellau o lorïau yn bennaf ar hyd y traffyrdd a ffyrdd eraill sy’n arwain at y porthladdoedd. Gyrwyr lorïau a chwmnïau cludiant sy’n dioddef fwyaf – maen nhw’n gallu cael eu dal mewn tagfeydd traffig anferth, ac mae hyn yn defnyddio amser a thanwydd; maen nhw’n gallu cael dirwy o ddegau o filoedd o bunnau os bydd ymfudwyr yn torri i mewn i’w lorïau ac yn cael eu dal gan swyddogion ffiniau y DU a gellir eu gorfodi i dalu am gostau llwythi sydd wedi cael eu difa pan fydd ymfudwyr yn torri i mewn i lorïau ac yn difetha’r cynnwys.

Ymgyrch Pentyrru

undefined

Llun gan Barry Davis fe’u defnyddir o dan CC BY

Trigolion a busnesau lleol mewn trefi ardal porthladdoedd De-ddwyrain Lloegr gafodd eu heffiethio fwyaf.

Ym mis Awst 2015, uwchraddiodd yr Almaen ei hasesiad o 450,000 o geisiadau am loches i dros650,000 (800,000 efallai) ar gyfer 2015 yn unig. Sweden yw’r wlad sy’n derbyn y nifer fwyaf o ffoaduriaid ar ôl yr Almaen, gyda disgwyl y bydd y nifer yn 80,000 yn 2015. Hyd at fis Awst, roedd mwy na 240,000 o ymfudwyr wedi croesi Môr y Canoldir i Wlad Groeg a’r Eidal.

undefined

Llun gan Official U.S. Navy Page fe’u defnyddir o dan CC BY

Mewn un wythnos yn unig yn ystod mis Awst, cyrhaeddodd 21,000 o ymfudwyr Wlad Groeg yn ôl y Cenhedloedd Unedig.

Faint o ymfudwyr sy’n dod i’r DU?

Cafodd 59.5 miliwn o bobl ledled y byd eu dadleoli trwy orfodaeth ar ddiwedd 2014 o ganlyniad i erledigaeth, gwrthdaro ac ymyriadau â hawliau dynol; dyna’r lefel uchaf sydd wedi cael ei chofnodi. Roedd hynny’n 8.3 miliwn o bobl yn fwy nag ar ddiwedd 2013: y cynnydd blynyddol mwyaf erioed. Roedd 19.5 miliwn o’r bobl hynny’n ffoaduriaid. Croesawodd gwledydd yr EU gyfran gymharol fach o’r ffigur hwnnw. Ar ddiwedd 2014, Twrci oedd y wlad a dderbyniodd y nifer fwyaf yn y byd, yna Pacistan, Libanus, Iran, Ethiopia ac Iorddonen. Libanus yw’r wlad a dderbyniodd y nifer fwyaf o ffoaduriaid o bell ffordd ar sail poblogaeth, sef 232 am bob 1,000 o drigolion. Ar draws y byd, mae 86 y cant o’r ffoaduriaid sydd o dan fandad Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid yn byw mewn gwledydd datblygol.

Ffynhonnell: UNHCR Global Trends 2014, World at War

CEISIADAU AM LOCHES Y LLYNEDD, 2014, (yr UE a gwledydd eraill Gorllewin Ewrop)

undefined

Wow! 6ed safle – rydyn ni’n gwneud yn eitha da!

Neu a ydyn ni?

Sut mae hyn yn edrych os ydyn ni’n cymharu hyn gyda phoblogaeth bresennol y gwledydd?

Mae’r graff hwn yn dangos y ceisiadau am bob miliwn o boblogaeth y gwledydd:

undefined

Wps! Safle 19, a dim ond o fewn Ewrop mae hynny!

Ond:

Cofiwch: ceisiadau am loches yn 2014 yw’r rhain. Beth am y penderfyniadau? A gawson nhw i gyd eu cymeradwyo?

Dyma’r penderfyniadau gwreiddiol (efallai y bydd rhai penderfyniadau’n cael eu newid yn sgil apêl).

undefined

Ffynhonell: Eurostat, Asylum in the EU: Facts and Figures, Mawrth 2015

undefined

 Felly, mae’r DU yn gwrthod 61% o’r bobl sy’n gwneud cais am loches.

Rydyn ni ar ganol argyfwng byd-eang; defnyddiwch y ffigurau o’r erthygl hon mewn tabl syml er mwyn dadansoddi perfformiad y DU fel gwlad bwysig ddatblygedig o safbwynt ei chyfraniad i helpu’r argyfwng byd-eang.

Da Gwael
   
   
   
   
   
   

Ydyn ni, fel gwladwriaeth, yn gwneud gwaith da?

Ar ôl darllen y tair erthygl a gwneud y gweithgareddau, defnyddiwch y daflen A3 i’ch helpu chi i wneud Ymarfer Gwneud Penderfyniad.

Eurostat Asylum PDF

Eurostat Migration PDF

UN Report PDF

 

 

Ymarfer Gwneud Penderfyniad

Darllenwch a chwblhewch y gweithgareddau yn yr erthygl ar-lein ac yn yr erthyglau cysylltiedig yn y rhifyn hwn o Daearyddiaeth yn y Newyddion – naill ai yn yr ystafell ddosbarth neu gartref. Ceisiwch orffen yr holl weithgareddau sydd ar y daflen adnoddau.

Beth fyddwch chi’n ei ddysgu:

  • Byddwch chi’n cynyddu eich gwybodaeth am ymfudo a lloches yn yr UE/ DU.
  • Byddwch chi’n cynyddu eich dealltwriaeth o’r ffordd mae’r ffactorau hyn yn  gallu  effeithio ar bobl ac ar weithgareddau pobl.
  • Byddwch chi’n cael cyfle i ddysgu neu ymarfer sgiliau llythrennedd a rhifedd pwysig.

Byddwch chi’n dysgu ymadroddion daearyddol newydd, wedi’u goleuo mewn porffor. Dylech chi ddysgu’r rhain a’u cynnwys mewn geirfa. Rhestr o eiriau a’u hystyr yw geirfa. Gallech chi gael un yng nghefn eich llyfr ysgrifennu daearyddiaeth. Os oes gyda chi gynlluniadur, mwy na thebyg bod lle da yn hwnnw ar gyfer cadw geirfa neu gallech chi gadw llyfr geirfa ar wahân. Mae geirfa dda yn eich helpu chi i ddatblygu eich geirfa a’ch llythrennedd. Chwiliwch am ystyr geiriau drwy ddefnyddio gweddill cynnwys yr erthygl, drwy drafod neu defnyddiwch eiriadur (naill ai ar-lein neu lyfr).

Erthyglau eraill efallai y byddwch a diddordeb mewn Ymfudo o Fecsico i UDA a Ymfudo yn y DU.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid

Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid

Pam mae pobl yn ymfudo?

Pam mae pobl yn ymfudo?