Rydyn ni’n clywed llawer am ‘Geiswyr Lloches’, ‘Ffoaduriaid’ a ‘Mudwyr Economaidd’ yn y DU.
Un broblem yw bod ymadroddion fel hyn yn cael eu defnyddio’n anghywir yn aml iawn gan nad yw pobl yn gwybod yr ystyr, neu oherwydd eu bod nhw’n gallu golygu pethau gwahanol.
Mae’r rheolau a’r diffiniadau’n dod o ddogfen o’r enw Confensiwn Genefa 1951 (Confensiwn y Ffoaduriaid), sy’n diffinio ffoadur fel person sydd …
…oherwydd ofn credadwy o gael ei erlid oherwydd ei hil, crefydd, cenedligrwydd, aelodaeth o grŵp cymdeithasol penodol neu farn wleidyddol, y tu allan i wlad ei ddinasyddiaeth ac sydd yn methu, neu, oherwydd y fath ofn, yn anfodlon manteisio ar amddiffyniad y wlad honno; neu sydd, o beidio â bod yn ddinesydd a’i fod y tu allan i’r wlad roedd yn arfer byw ynddi, yn methu dychwelyd iddi neu’n anfodlon gwneud oherwydd y fath ofn.
Ffynhonell: UN High Commissioner for Refugees (UNHCR), The sea route to Europe: The Mediterranean passage in the age of refugees , 1 Gorffennaf 2015
Mae pob un o’r gwledydd yn dioddef yn sgil rhyfel.
Llun gan Mstyslav Chernov fe’u defnyddir o dan CC BY
Llun gan Délmagyarország/Schmidt Andrea fe’u defnyddir o dan CC BY
Pan fydd ymfudwr yn cyrraedd gwlad, mae ganddo amser ‘rhesymol’ i ofyn am loches. Tri diwrnod yw’r amser yn y DU os nad oes rheswm da dros beidio gwneud.
Mae hyn yn helpu gwlad i benderfynu a yw rhywun yn ‘ddiffuant’ yn ei gred bod angen lloches arno/arni.
Enghraifft o reswm da yw os bydd rhywun wedi cael ei gadw’n gaeth gan smyglwyr pobl -
enw arall arnyn nhw yw masnachwyr mewn pobl.
Efallai bod ymfudwyr yn gaeth yng nghefn lori ac mae hyn yn rheswm da dros beidio’u cyflwyno’u hunain yn y wlad gyntaf maen nhw’n cyrraedd.
Byddwn yn trafod masnachwyr mewn pobl ymhellach yn yr erthygl gysylltiedig yn ogystal â’u pwysigrwydd yng nghyd-destun deall y cynnydd yn nifer yr ymfudwyr.
Ceiswyr lloches o Dde Swdan yn cofrestru mewn gwersyll UNHCR yn y Swdan.
Llun gan Robert Stansfield/Department for International Development fe’u defnyddir o dan CC BY
Mae’r gwersyll hwn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU yn bennaf.
Mae angen deall dau beth pwysig o safbwynt y gyfraith ryngwladol a cheiswyr lloches/ffoaduriaid:
Pan fydd ceisydd lloches yn cyrraedd gwlad ddiogel, dylai ofyn am loches. Yna, dylai dderbyn Dogfen Deithio’r Confensiwn. Enw arall arni yw ‘y ddogfen las’ ac mae’n cael ei rhoi i bobl sydd â statws ffoadur.
Ni fydd llawer o geiswyr lloches go iawn yn cofrestru yn y ‘wlad ddiogel’ gyntaf. Maen nhw’n ceisio cyrraedd gwledydd datblygedig drwy ddulliau ‘anghyfreithiol’.
Canlyniad hyn yw na fydd llawer o bobl yn gwneud cais am loches oherwydd eu bwriad yw teithio i wledydd gwahanol megis yr Almaen. Dyma’r prif lwybrau anghyfreithiol i mewn i’r UE:
Ffynhonnell: European Parliamentary Research Service, Irregular Immigration In The EU: Facts And Figures
Nid oes unrhyw ffiniau mewnol mewn nifer o rannau’r o’r UE. Dim ond gan y DU a Gweriniaeth Iwerddon y mae ffiniau.
Yr enw ar wledydd lle nad oes ffiniau yw Gwledydd Schengen. Mae Schengen yn enw ar y dref lle cafodd cytundeb ei wneud i gael gwared ar ffiniau.
Pan fydd ymfudwr yn cyrraedd un o wledydd Schengen, gall symud yn rhydd a rhwydd o wlad i wlad. Problem fawr!
Marw ar y môr
Ffynhonnell: UN High Commissioner for Refugees (UNHCR), The sea route to Europe: The Mediterranean passage in the age of refugees , 1 Gorffennaf 2015
Ffynhonell: UN High Commissioner for Refugees (UNHCR), The sea route to Europe: The Mediterranean passage in the age of refugees , 1 Gorffennaf 2015
Beth gall yr UE ei wneud i rwystro ymfudwyr?
Cronfa Lloches, Ymfudo ac Integreiddio
Mae'r Gronfa Lloches, Ymfudo ac Integreiddio yn gronfa sy’n werth 3.14 biliwn ewro ar gyfer ariannu rheoli’r llif ymfudo o fewn yr UE yn effeithiol.
Hyd yn hyn, mae 2.392 biliwn ewro wedi cael ei roi i wledydd gwahanol.
Cymharwch ffigurau’r gronfa hon gyda nifer y ceiswyr lloches sydd yn y brif erthygl – edrychwch yn ofalus ar y DU.
Does bosib bod angen i ni roi stop ar ymfudo!
Nac oes, mwy na thebyg!
Edrychwch ar hyn o Eurostat, sef y sefydliad yn yr UE sy’n gyfrifol am ystadegau a data:
Dyma’r UE erbyn 2060, heb ymfudwyr.
Ffynhonell: Eurostat, IMMIGRATION IN THE EU, 10/6/2015
Mae poblogaeth bresennol yr UE yn heneiddio ac nid oes digon o blant yn cael eu geni. Edrychwch ar hyn:
Poblogaeth yr UE mewn miliynau
Ffynhonell: Eurostat, IMMIGRATION IN THE EU, 10/6/2015
Heb ymfudwyr, faint o weithwyr fydd ar gael am bob person fydd angen pensiwn (CHI) yn 2060?
Meddyliwch am ardal Schengen a gwledydd Schengen.
Trafodwch y ddau gwestiwn hyn mewn grŵp bach a pharatowch gyflwyniad byr o 40 eiliad mewn geiriau’n unig.
Welcome asylum seekers and refugees - Refugee Action protest 27 July 2013 Melbourne gan Takver; fe’u defnyddir o dan CC BY
Erthyglau eraill efallai y byddwch a diddordeb mewn Ymfudo o Fecsico i UDA a Ymfudo yn y DU.