28

Pam mae’r risg o lifogydd arfordirol yn cynyddu?

Mae rhan gyntaf yr adroddiad ar gyfer Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at nifer o resymau pam mae’r risg o lifogydd arfordirol yn cynyddu. Rydyn ni’n mynd i edrych ar yr hyn mae’n ei ddweud ac yna gweithio allan beth mae hyn yn ei olygu.

Dyfyniad 1

“Mae'r rhagfynegiadau ar gyfer dyfodol ein hardaloedd arfordirol yn dangos y bydd y perygl yn cynyddu, oherwydd newid yn yr hinsawdd ac, yn benodol, oherwydd bod lefel y môr yn codi.”  

  • Mae’r gair rhagfynegiadau yn y dyfyniad hwn yn cyfeirio at ragfynegiadau o’r hyn a allai ddigwydd yn y dyfodol. Mae’r rhagfynegiadau hyn yn seiliedig ar fodel cyfrifiadurol mawr sy’n gwneud miliynau o gyfrifiadau drwy ddefnyddio’r holl ddata sydd ar gael ynghyd â natur amrywiol ein hinsawdd fyd-eang. Mae’r model yn cyrraedd canlyniad ychydig yn wahanol bob tro ond rydyn ni’n gallu gweld beth sy’n fwyaf tebygol o ddigwydd.
  • Mae’n haws deall yr ymadrodd dyfodol ein hardaloedd arfordirol yn dangos y bydd y perygl yn cynyddu oherwydd mae mwy o risg neu fwy o siawns y bydd ein hardaloedd arfordirol yn cael llifogydd.
  • Ystyr oherwydd newid yn yr hinsawdd ac, yn benodol, oherwydd bod lefel y môr yn codi yw bod y cynnydd yn y risg o lifogydd a nodwyd eisoes yn dod yn sgil newidiadau yn ein hinsawdd ar draws y byd (sy’n cynhesu). Y rhan bwysicaf o hyn mewn perthynas â llifogydd yw cynnydd yn lefel y môr; fodd bynnag, nid hwn yw’r unig ffactor gan fod nifer cynyddol y stormydd yn bwysig hefyd yn ogystal â’r ffaith fod cynnydd yn y risg o stormydd gwaeth neu fwy garw.

Dyfyniad 2

undefined

“Mae Pumed Adroddiad Asesu'r Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd, yn amcangyfrif bod tymereddau byd-eang wedi codi 0.85°C rhwng 1880 a 2012. Mae lefel y môr wedi codi hefyd ac mae'r cynnydd hwnnw bellach yn 3.2 mm y flwyddyn. Mae'r Panel yn dweud ei bod yn debygol y bydd lefel y môr yn yr 21ain Ganrif yn codi ar gyfradd fwy na'r gyfradd yn 1971-2000, ac mae hynny'n wir am yr holl senarios a fodelwyd ar gyfer allyriadau.”

  • Mae Pumed Adroddiad o Asesiad y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd yn ymwneud â grŵp ymchwil gwyddonol a sefydlwyd gan y Cenhedloedd Unedig i edrych ar yr holl dystiolaeth am newid yn yr hinsawdd. Yr enw byr arno yw IPCC.
  • Mae’r Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd yn ysgrifennu adroddiadau rheolaidd ac mae’r wybodaeth yn dod o’r adroddiad diweddaraf, sef y pumed un i gael ei ysgrifennu.
  • Mae’r Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd yn dweud bod cyfartaledd y tymheredd o gwmpas y byd wedi cynyddu 0.85°C rhwng 1880 a 2012.
  • Mae'r cynnydd hwn yn y tymheredd yn achosi i lefelau’r môr godi 3.2mm bob blwyddyn.
  • Mae pob model yn rhagweld y bydd cyfraddau’r cynnydd yn fwy yn y dyfodol; felly, bydd yn fwy na 3.2mm bob blwyddyn.

Dyfyniad 3

“Yn ôl yr amcangyfrif canolog, amcangyfrifir cynnydd o 0.47m erbyn 2081 -2100, o'i gymharu â llinell sylfaen 1986-2005. Amcangyfrifir y bydd cynnydd o 0.5m yn arwain at gynnydd rhwng 10-gwaith a 100-gwaith yn amlder eithafion lefel y môr (o'u cymharu â heddiw) yng ngogledd Ewrop erbyn diwedd y ganrif. Byddai hyn yn golygu bod llifogydd arfordirol sydd ar hyn o bryd yn debygol o ddigwydd eto ymhen 100 mlynedd yn digwydd ar gyfartaledd rhwng bob blwyddyn a bob deng mlynedd erbyn 2100.”

  • Yr amcangyfrif canolog yw’r un sy’n fwyaf tebygol o ddigwydd. Mae hyn yn y canol rhwng  amcangyfrif uchaf y modelau a’r un isaf.
  • Erbyn diwedd y ganrif hon, yr amcangyfrif canolog yw y bydd lefelau’r môr wedi codi 0.47 metr (bron hanner (0.5) metr) o’r lefelau a gafodd eu mesur (cyfartaledd yr holl fesuriadau) rhwng 1986 a 2005.
  • Mae hyn yn golygu y bydd digwyddiadau eithafol sy’n effeithio ar lefel y môr, sy’n digwydd ar hyn o bryd unwaith bob 100 mlynedd ar gyfartaledd, yn digwydd unwaith bob 1-10 mlynedd ar gyfartaledd yn y dyfodol.

undefined

Llun gan Oosoom - CC BY

Mae’r ffotograff yn dangos y rheilffordd yn Llanaber ger Abermo, a gafodd ei difrodi yn y storm yn 2014 - bu bron iddi gael ei golchi i ffwrdd. A allai hyn ddigwydd bob blwyddyn?

Dyfyniad 4

“Mae stormusrwydd a gwlybaniaeth eithafol hefyd yn ffactorau pwysig a fydd yn gwaethygu oherwydd newid yn yr hinsawdd ac yn cyfrannu at ragor o berygl llifogydd ac erydu. Eisoes, mae'r Swyddfa Dywydd wedi cofnodi cynnydd yn nifer y diwrnodau glaw trwm yn y Deyrnas Unedig, i'r graddau bod digwyddiad glawog a oedd ar gyfartaledd yn digwydd eto ymhen 125 o ddiwrnodau yn yr 1970au bellach yn digwydd eto ymhen 85 diwrnod.”

undefined

© NASA

  • Mae stormydd a dyodiad (pob lleithder sy’n dod o’r atmosffer i gael ei ddyddodi ar wyneb y blaned) eithafol (sef y digwyddiadau mwyaf) yn gwaethygu sef y bydd newid yn yr hinsawdd yn eu gwneud nhw’n waeth.
  • Bydd hyn yn gwneud y siawns o lifogydd neu erydiad arfordirol yn uwch.
  • Y Swyddfa Dywydd yw asiantaeth y llywodraeth sy’n ymchwilio i’r tywydd a’r hinsawdd ac mae’n cynhyrchu rhagolygon y tywydd hefyd.
  • Rydyn ni wedi cael mwy o ddyddiau o law trwm bob blwyddyn.
  • Mae digwyddiadau mawr a oedd yn arfer digwydd ar gyfartaledd bob 125 diwrnod yn ystod y 1970au yn digwydd bob 85 diwrnod erbyn hyn. Mae hyn yn gynnydd o tua thraean.

Dyfyniad 5

“O ran stormusrwydd, mae'r Swyddfa Dywydd yn awgrymu, er nad oes newidiadau sylweddol wedi bod yn amlder stormydd yn lledredau canolig gogledd yr Iwerydd, bod stormydd unigol yn ddwysach.”

undefined

Llun oddi wrth Geograph Project gan Noel Jenkins - CC BY

  • Nid yw’r Swyddfa Dywydd wedi dod o hyd i brawf fod mwy o stormydd bob blwyddyn.
  • Fodd bynnag, mae wedi darganfod fod y stormydd yn gryfach.

Dyfyniad 6

“Mae'n bwysig sylweddoli bod ffiseg sylfaenol cynhesu byd-eang yn cynnig sicrwydd y bydd allyriadau parhaus (a hanesyddol) yn golygu y bydd yr amgylchedd yn cynhesu eto. Yn sgil hynny, bydd y cefnforoedd yn cynhesu hefyd a bydd hynny'n anochel yn golygu y bydd lefel y môr yn codi’n sylweddol eto oherwydd ehangiad thermol. At hynny, canlyniad anochel ymsuddiant tir isostatig yn ne a chanolbarth Cymru hefyd fydd bod lefel y môr yn codi eto.”undefined

Llun wrth NOAA published data gan Robert A. Rohde - CC-NC-SA

  • Mae’r byd yn cael ei reoli gan ffiseg.
  • Mae ffiseg yn dweud wrthon ni y bydd y bydd allyriadau o nwyon fel CO2 (sef nwyon sy’n cael eu rhyddhau i’r awyr) yn y gorffennol a heddiw yn arwain at fwy o gynhesu’r awyr (atmosffer) a’r cefnforoedd.
  • Mae ehangu thermol yn digwydd pan fydd pethau’n cynhesu – maen nhw’n mynd yn fwy. Wrth i’r moroedd hyn gynhesu, byddan nhw’n cynyddu yn eu cyfaint a bydd lefel y môr yn codi. Yr ymadrodd sy’n disgrifio pan fydd lefelau’r môr yn newid o ganlyniad i newidiadau yng nghyfaint y dŵr yw newid ewstatig.
  • Ystyr ymsuddiant tir isostatig yw bod wyneb y tir yn mynd i fyny ac i lawr hefyd - yr enw am hyn yw newid isostatig. Yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig, yr hyn sy’n gyfrifol bron yn gyfan gwbl am hyn yw pwysau’r iâ a oedd ar ran ogleddol y wlad yn ystod cyfnod o’r enw yr Oes Iâ ddiwethaf. Roedd yr iâ hwn, a oedd tua 1000 metr o drwch yn y man mwyaf trwchus, yn pwyso ar y Gogledd, lle’r oedd hi’n oerach ac yn fwy mynyddig. Roedd y Deyrnas Unedig fel si-so anferth, gyda’r Gogledd yn pwyso i lawr a’r De yn codi. Yn ystod y 10,000-20,000 o flynyddoedd diwethaf ers i’r iâ doddi, mae’r si-so yn arafu’n raddol fel ei fod yn ‘lefel’. Ystyr hyn yw bod y De yn suddo’n raddol a bod y Gogledd yn adlamu yn araf.
  • Yn Ne Cymru, a hyd yn oed yng Nghanolbarth Cymru, mae’r arfordir yn suddo ychydig, a bydd hyn yn gwneud i ddŵr y môr godi’n waeth

Sylwadau i gloi

Pe bai hyn i gyd ddim yn ddigon – mae lefel y môr yn codi, mae’r tir yn suddo, mae stormydd yn cryfhau, sy’n dod â mwy o law a gwyntoedd cryf, sy’n achosi tonnau uchel – mae rhywbeth arall dydyn ni ddim wedi’i egluro eto: ymchwydd storm. Ardal lle mae gwasgedd aer isel yw storm. Mae hyn yn golygu bod aer yn codi ac felly nid yw’n pwyso i lawr ar y ddaear neu ar wyneb y cefnfor gyda’r un grym ag arfer. Os yw’r storm yn gryf, yna mae’r gwasgedd aer yn isel. Mae gwasgedd aer uchel yn pwyso i lawr ar yr wyneb ac ar draws y cefnforoedd ac mae hyn yn gwneud lefel y môr yn is. Pan fydd gwasgedd aer isel, mae lefel y môr yn codi a phan fydd gwasgedd aer isel iawn pan fydd storm fawr, mae hyn yn gallu achosi i lefel y môr godi’n sylweddol.

Cawson ni stormydd gwael yn 2013 a 2014 ond chawson ni ddim storm fawr, gydag ymchwydd storm yn taro yn union yr un pryd â llanw uchel fel llanw anferth gwanwyn 2015. Pe bai hyn yn digwydd, bydden ni mewn tipyn o helynt. Y broblem yw bod hyn yn dod yn fwy tebygol bob blwyddyn.

Cwestiwn Trafod

Sut mae tir y Deyrnas Unedig yn gweithredu fel si-so anferth?

Mae iâ yr Arctig yn arnofio; mae ei gyfaint yn cyfateb i’r dŵr y mae’n dadleoli o’i gwmpas. Dadleoliad yw’r hyn rydych chi’n ei weld pan fyddwch chi’n mynd i mewn i’r bath ac mae lefel y dŵr yn codi.

Mae cap iâ yr Antarctic ar dir/cyfandir ond mewn gwirionedd mae’n edrych fel pe bai’n casglu mwy o iâ ac eira. Mae hyn yn digwydd oherwydd hyd yn oed yn ystod y tymhorau cynhesaf, yn anaml iawn y bydd y tymheredd yn codi’n uwch na minws 10 gradd Celsius, felly hyd yn oed pe bai cynnydd o un neu ddwy radd Celsius, mae siawns sylweddol y bydd yr iâ’n toddi. Bydd mwy o anweddiad yn digwydd yn y cefnfor cynhesach o gwmpas yr Antarctig a bydd peth o’r lleithder ychwanegol hwn yn teithio ar draws cap iâ’r Antarctig ac yn cael ei ddyodi fel eira ychwanegol.

Pan fydd llawer o iâ sydd ar dir ar hyn o bryd yn toddi, fel ar yr Ynys Las, bydd hyn yn achosi newid ewstatig yn lefel y môr. Gan ddefnyddio map, allwch chi ddod o hyd i diroedd eraill ger neu yn yr Arctig neu fynyddoedd uchel lle y byddai hyn yn gallu digwydd?

Gweithgaredd Myfyrwyr

Ceisiwch ysgrifennu rhestr o 10 rheswm pam, yn eich barn chi, mae posibilrwydd y bydd llifogydd arfordirol yn gwaethygu.

Gweithgaredd Ymestyn

Ceisiwch egluro pam y gall pob un o’ch 10 rheswm wneud llifogydd arfordirol yn waeth.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Adroddiad Cam 2 i’r Llifogydd Arfordirol

Adroddiad Cam 2 i’r Llifogydd Arfordirol

Beth wnawn ni ynglŷn â llifogydd arfordirol?

Beth wnawn ni ynglŷn â llifogydd arfordirol?