28

Adroddiad Cam 2 i’r Llifogydd Arfordirol

Dyma sylwadau i’n hatgoffa ni pam mae ein hamddiffynfeydd môr yn bwysig a beth gallai fod wedi digwydd hebddynt: 

Mae’r adroddiad cyntaf yn dweud: heb amddiffynfeydd morol, 

  • Gallai mwy na 24,000 eiddo fod wedi wynebu llifogydd ar draws arfordir Gogledd Cymru yn ystod llifogydd Rhagfyr 2013;
  • Gallai mwy na 50,000 eiddo drwy Gymru fod wedi wynebu llifogydd yn ystod stormydd mis Ionawr. 

Os byddwn ni’n defnyddio cyfartaledd yr yswiriant llifogydd a gafodd ei hawlio, sef £40,000, mae hynny'n awgrymu mai swm yr 'iawndaliadau a osgowyd’ ym mis Rhagfyr 2013 a mis Ionawr 2014 oedd rhwng £960 miliwn a £2 biliwn. 

Roedd y ddwy storm yn dangos pa mor llwyddiannus yw ein hamddiffynfeydd presennol ond  roedden nhw’n rhybudd o’r peryglon cynyddol rydyn ni’n eu hwynebu yng Nghymru. 

Mae datblygiadau pwysig wedi digwydd yn ddiweddar, yn eu plith: 

  • Creu Canolfan Darogan Llifogydd ym mis Ebrill 2009. Mae’n gweithredu 24 awr bob dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
  • Gwella ansawdd y wybodaeth yn y rhagolygon tywydd yn y D.U. 
  • Gwella ansawdd darogan llifogydd a’r gwasanaeth rhybudd am lifogydd.
  • 'Ymwybyddiaeth Llifogydd Cymru’ yn ehangu dealltwriaeth leol o lifogydd ynghyd â cheisio sicrhau bod cymunedau’n barod.
  • Gwario arian ar adeiladu amddiffynfeydd arfordirol newydd, megis Borth, Riverside yng Nghasnewydd a Fairbourne.
  • Gwario arian ar atgyweirio’r amddiffynfeydd presennol megis Argloddiau Llanw afon Clwyd.

Mae darogan risgiau yn un swydd ar gyfer daearyddwyr: yn 2009, agorwyd y Ganolfan Darogan Llifogydd er mwyn darparu asesiadau risg mewn perthynas â llifogydd yng Nghymru a Lloegr.

Mae daearyddwyr yn defnyddio tabl i edrych ar ‘Debygolrwydd’ digwyddiad o’r fath  a’i “Effeithiau Posibl” er mwyn cyhoeddi rhybuddion cod lliw sydd wedyn yn cael eu rhannu â’r cyhoedd.

undefined

Mapiau yn dangos y risg o lifogydd ar gyfer y ddwy storm ym mis Rhagfyr 2013 a mis Ionawr 2014

undefined

Mae’r wybodaeth yma’n cael ei rhoi i Gyfoeth Naturiol Cymru, sef y sefydliad sy’n gyfrifol am ddelio â llifogydd ac agweddau eraill ar yr amgylchedd yng Nghymru.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n gweithio’n agos gyda’r canlynol:

  • Partneriaid cenedlaethol fel y Swyddfa Dywydd, yr Asiantaeth Briffyrdd a Llywodraeth Cymru.
  • Partneriaid yn y cyfryngau fel BBC Cymru.
  • Partneriaid rhanbarthol fel heddluoedd.
  • Partneriaid lleol fel cynghorau a chymunedau lleol a hyd yn oed unigolion.

 

In Welsh Version please highlight the listen feature of the website; it could be useful to some schools.

Mae’r union effeithiau ar eiddo i’w gweld yn y tabl hwn, ond byddai cynnydd bach yn lefel y môr mewn nifer o leoliadau wedi arwain at effeithiau mwy sylweddol.

undefined

Yn ogystal â llifogydd mewn eiddo, roedd mwy o broblemau:

  • ar reilffyrdd a ffyrdd
  • cafodd pobl o ardaloedd oedd bron â chael llifogydd eu symud
  • cafodd llawer iawn o dir amaethyddol ei effeithio

O ran penderfynu ar y ffordd orau o reoli’r arfordir, mae’r adroddiad yn disgrifio’r Cynlluniau Rheoli Traethlin sydd mewn grym yng Nghymru ac yn Lloegr.

Yng Nghymru, mae pob elfen sy’n ymwneud â gwneud penderfyniad ynglŷn â’r arfordir yn cael ei rhannu i bedwar Cynllun Rheoli Traethlin, sef: 

  • Anchor Head (yn Lloegr) hyd at Drwyn Larnog; sef Cynllun Rheoli Traethlin ‘Aber Afon Hafren’.
  • Trwyn Larnog hyd at Bentir St Ann; sef Cynllun Rheoli Traethlin ‘De Cymru’.
  • Pentir St Ann hyd at y Gogarth; sef Cynllun Rheoli Traethlin ‘Gorllewin Cymru’.
  • Y Gogarth hyd at Ororau’r Alban, sef Cynllun Rheoli Traethlin ‘Gogledd Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr’.

Mae pob Cynllun Rheoli Traethlin yn canolbwyntio ar y 100 mlynedd nesaf, wedi’u rhannu’n 3 chyfnod.

Dyma'r cyfnodau:

  • Cyfnod 1 (tymor byr) = 0 i 20 mlynedd
  • Cyfnod 2 (tymor canol) = 20 i 50 mlynedd
  • Cyfnod 3 (tymor hir) = 50 i 100 mlynedd

Mae modd gweithredu un o bedwar polisi ym mhob cyfnod ar gyfer pob uned rheoli arfordir a’r polisïau hyn yw:

  • Dim Ymyrraeth Weithredol: lle nad oes unrhyw fuddsoddi wedi ei gynllunio ar gyfer amddiffynfeydd arfordirol, hyd yn oed os oes amddiffynfeydd artiffisial yno eisoes.
  • Dal y Lein: yn dymuno adeiladu neu gynnal a chadw amddiffynfeydd artiffisial er mwyn i safle’r draethlin aros fel y mae.
  • Adliniad Wedi’i Reoli: caniatáu i’r draethlin symud yn ôl neu ymlaen yn naturiol.
  • Symud y Lein Ymlaen: adeiladu amddiffynfeydd newydd ar ochr atfor yr amddiffynfeydd gwreiddiol.

Mae’r rhain yn cael eu dangos ar y mapiau canlynol:

undefined

undefined

undefined

Un canfyddiad hanfodol bwysig yn adroddiad Cam 2 oedd bod rhaid i’r Cynlluniau Rheoli Traethlin gael eu cymeradwyo’n ffurfiol gan Lywodraeth Cymru fel bod pawb yn gwybod beth sydd wedi cael ei gynllunio ar gyfer y dyfodol pan fydd penderfyniadau’n cael eu gwneud.

Gwnaeth yr Adroddiad 47 o argymhellion o dan y penawdau canlynol. Cytunwyd arnyn nhw mewn egwyddor gan Lywodraeth Cymru.

1-2: Bwrw Ymlaen â’r Argymhellion; drwy ysgrifennu cynllun.

3-5: Difrifoldeb Stormydd; gwella’n gwybodaeth ynglŷn â stormydd.

6-9: Darogan Llifogydd; gwella ein systemau o ddarogan llifogydd.

10-17: Rhybudd Llifogydd ac Ymateb y Gymuned; gwella rhybuddion a’r ffyrdd y mae cymunedau’n eu defnyddio.

18-26: Ymateb Gweithredol; adolygu a gwella cynllunio ar gyfer risg a’r ffordd mae grwpiau fel yr heddlu a chynghorau’n ymateb iddi.

27-42: Amddiffynfeydd Arfordirol; adolygu ymateb ein hamddiffynfeydd morol i’r ddwy storm a derbyn y Cynlluniau Rheoli Traethlin er mwyn gallu dechrau cynllunio ar unwaith .

43-47: Cydnerthedd Seilwaith; sicrhau bod pethau pwysig fel trafnidiaeth a’r gwasanaethau (trydan, nwy, dŵr, y ffôn a’r we) ar lefel ‘dderbyniol’ o risg, yn seiliedig ar y stormydd hyn ac ar y ffordd y mae gwyddonwyr yn meddwl y bydd y stormydd yn gwaethygu yn y dyfodol oherwydd newidiadau yn yr hinsawdd.

Roedd adran fwyaf yr argymhellion hyn yn ymwneud â beth rydyn ni’n ei wneud gyda’n hamddiffynfeydd arfordirol ond mae’n bwysig cofio bod pethau eraill yn bwysig iawn hefyd, er enghraifft:

  • Rhagolygon y tywydd
  • Rhybuddion
  • Astudio er mwyn dod i wybod mwy am stormydd
  • Sefydliadau a chymunedau’n ymarfer beth i’w wneud os daw llifogydd neu storm

Yn yr erthygl gysylltiedig nesaf, bydd angen i chi edrych ar leoliadau o gwmpas ein harfordir a chwblhau Ymarfer Gwneud Penderfyniadau ar yr amddiffynfeydd arfordirol mewn lleoliad penodol o arfordir Cymru.

Gweithgaredd i'r Disgyblion

Defnyddiwch yr un categorïau â’r adroddiad i wneud map meddwl o’r ffyrdd y mae angen i Gymru ymateb i’r risg gynyddol o lifogydd arfordirol yng Nghymru.

  • Bwrw Ymlaen â’r Argymhellion
  • Difrifoldeb Stormydd
  • Darogan Llifogydd
  • Rhybudd Llifogydd ac Ymateb y Gymuned
  • Ymateb Gweithredol
  • Amddiffynfeydd Arfordirol
  • Cydnerthedd Seilwaith
Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Pam mae’r risg o lifogydd arfordirol yn cynyddu?

Pam mae’r risg o lifogydd arfordirol yn cynyddu?

Beth wnawn ni ynglŷn â llifogydd arfordirol?

Beth wnawn ni ynglŷn â llifogydd arfordirol?