Dyma ddyfyniad o’r adroddiad cyntaf i’ch atgoffa pam mae ein hamddiffynfeydd môr mor bwysig a beth gallai fod wedi digwydd hebddynt:
“Roedd canfyddiadau Adroddiad Cam 1 yn dangos yn glir y budd cenedlaethol y mae'r rhwydwaith hwn o asedau'n ei gynnig.
Os byddwn yn defnyddio cyfartaledd yr yswiriant llifogydd a hawlir ar gyfer y niferoedd hyn, sef £40.000, mae hynny'n awgrymu mai swm yr 'iawndaliadau a osgowyd ym mis Rhagfyr 2013 a mis Ionawr 2014 oedd oddeutu £960 miliwn a £2 biliwn, yn y drefn honno.”
Roedd y ddwy storm yn dangos pa mor llwyddiannus yw ein seilwaith presennol ar gyfer amddiffyn y glannau ond, yn ogystal, roedden nhw’n rhybudd o’r peryglon cynyddol rydyn ni’n eu hwynebu yng Nghymru.
Mae datblygiadau pwysig wedi digwydd i’r seilwaith yma’n ddiweddar, yn eu plith:
Mae darogan risgiau yn un llwybr gyrfa ar gyfer daearyddwyr: yn 2009, agorwyd y Ganolfan Darogan Llifogydd er mwyn darparu asesiadau risg mewn perthynas â llifogydd yng Nghymru a Lloegr.
Mae daearyddwyr fel y rhai sy’n gweithio yn y Ganolfan Darogan Llifogydd yn defnyddio matrics risg i edrych ar ‘Debygolrwydd’ digwyddiad o’r fath a’i “Effeithiau Posibl” er mwyn cyhoeddi rhybuddion cod lliw sydd wedyn yn cael eu rhannu â’r cyhoedd.
Mae’r wybodaeth yma’n cael ei rhoi i Gyfoeth Naturiol Cymru, sef y sefydliad sy’n gyfrifol am ddelio â llifogydd a phob agwedd arall ar yr amgylchedd yng Nghymru. Yna, mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n gweithio’n agos gyda phartneriaid cenedlaethol fel y Swyddfa Dywydd, yr Asiantaeth Briffyrdd a Llywodraeth Cymru; partneriaid yn y cyfryngau fel BBC Cymru; partneriaid rhanbarthol fel heddluoedd; partneriaid lleol fel cynghorau a chymunedau lleol a hyd yn oed unigolion.
In Welsh Version please highlight the listen feature of the website; it could be useful to some schools.
Mae’r union effeithiau ar eiddo i’w gweld yn y tabl hwn. Fodd bynnag, byddai cynnydd bach yn lefel y môr mewn nifer o leoliadau wedi arwain at effeithiau mwy sylweddol.
Yn ogystal ag effeithiau llifogydd ar eiddo, effeithiwyd hefyd ar seilwaith fel rheilffyrdd a ffyrdd, symudwyd pobl o ardaloedd oedd bron â chael llifogydd ac effeithiwyd ar lawer iawn o dir amaethyddol.
O ran penderfynu ar y ffordd orau o reoli’r arfordir, mae adroddiad cam 2 yn disgrifio’r Cynlluniau Rheoli Traethlin sydd mewn grym o fewn y pum Grŵp Arfordirol yng Nghymru ac mewn grwpiau partneriaethol ar draethlinau cyfagos yn Lloegr. A bod yn fanwl gywir, dylem alw pob cynllun yn Gynllun Rheoli Traethlin 2 gan mai’r ail fersiwn yw’r rhain.
Yng Nghymru, mae pob elfen sy’n ymwneud â gwneud penderfyniad ynglŷn â’r arfordir yn cael ei rhannu i bedwar Cynllun Rheoli Traethlin, sef:
Mae pob Cynllun Rheoli Traethlin yn canolbwyntio ar ffrâm amser o 100 mlynedd dros 3 chyfnod ar gyfer rheolaeth arfaethedig o’r arfordir.
Dyma’r cyfnodau:
Mae modd gweithredu un o bedwar polisi ym mhob cyfnod ar gyfer pob uned rheoli arfordir (h.y. rhannau diffiniedig o’r arfordir) a’r polisïau hyn yw:
Mae’r rhain yn cael eu dangos ar y mapiau canlynol:
Un canfyddiad hanfodol bwysig yn adroddiad Cam 2 oedd bod rhaid i’r Cynlluniau Rheoli Traethlin gael eu cymeradwyo’n ffurfiol gan Lywodraeth Cymru fel bod yr holl gynllunio mewn ardaloedd arfordirol yn y dyfodol yn dod o fewn cyd-destun y Llywodraeth.
Gwnaeth Adroddiad Cam 2 47 o argymhellion o dan y penawdau canlynol. Cytunwyd arnyn nhw, neu cytunwyd arnyn nhw mewn egwyddor gyda Llywodraeth Cymru.
1-2: Bwrw ymlaen â’r argymhellion; llunio cynllun cyflenwi.
3-5: Difrifoldeb stormydd; gwella’n gwybodaeth mewn perthynas â thebygolrwydd stormydd difrifol.
6-9: Darogan llifogydd; gwella ein systemau o ddarogan llifogydd.
10-17: Rhybudd llifogydd ac ymateb y gymuned; gwella rhybuddion a’r ffyrdd y mae cymunedau’n eu defnyddio.
18-26: Ymateb gweithredol; adolygu a gwella cynllunio ar gyfer risg ac ymateb iddi.
27-42: Amddiffynfeydd arfordirol; adolygu ymateb ein hamddiffynfeydd morol i’r ddwy storm a chymeradwyo’r Cynlluniau Rheoli Traethlin er mwyn gallu dechrau cynllunio ar unwaith.
43-47: Cydnerthedd seilwaith; sicrhau bod seilwaith pwysig fel trafnidiaeth a’r gwasanaethau (trydan, nwy, dŵr, y ffôn a’r we) ar lefel dderbyniol o risg, yn seiliedig ar y stormydd hyn ac ar ragolygon y bydd digwyddiadau difrifol yn digwydd yn amlach (sef tebygolrwydd), sy’n gysylltiedig â newidiadau yn yr hinsawdd.
Wrth i ni barhau i edrych ar yr adran fwyaf o blith y rhain, sef beth rydym yn ei wneud gyda’n hamddiffynfeydd arfordirol, mae’n bwysig cofio y bydd gwella ein gwybodaeth a modelu stormydd difrifol yn ein helpu i ddatblygu darogan llifogydd, rhybuddion ac, yn sgil hynny, sut y bydd ein cymunedau ac asiantaethau ehangach llywodraeth genedlaethol a lleol yn ymateb i’r digwyddiadau difrifol hyn.
Yn yr erthygl gysylltiedig nesaf, bydd angen i chi edrych ar leoliadau o gwmpas ein harfordir a chwblhau Ymarfer Gwneud Penderfyniadau ar yr amddiffynfeydd arfordirol mewn lleoliadau penodol o gwmpas arfordir Cymru.
Defnyddiwch yr un categorïau ag Adroddiad Cam 2 i wneud map meddwl sy’n ymwneud â’r ffyrdd y mae angen i Gymru ymateb i’r risg gynyddol o lifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru.