28

Pam mae’r risg o lifogydd arfordirol yn cynyddu?

Mae’r adroddiad ar gyfer Llywodraeth Cymru yn rhoi nifer o resymau pam mae’r risg o lifogydd arfordirol yn cynyddu. Rydyn ni’n mynd i edrych ar beth mae’n ei ddweud ac yna gweithio allan beth mae hyn yn ei olygu.

Dyfyniad 1

“Mae'r rhagfynegiadau ar gyfer dyfodol ein hardaloedd arfordirol yn dangos y bydd y perygl yn cynyddu, oherwydd newid yn yr hinsawdd ac, yn benodol, oherwydd bod lefel y môr yn codi.”  

  • Dyma beth allai ddigwydd yn y dyfodol. Mae hyn yn seiliedig ar fodelau cyfrifiadurol mawr – rhywbeth tebyg i gêm.
  • Mae’n haws deall yr ymadrodd dyfodol ein hardaloedd arfordirol yn dangos y bydd y perygl yn cynyddu oherwydd mae mwy o risg neu fwy o siawns y bydd ein hardaloedd arfordirol yn cael llifogydd.
  • Ystyr oherwydd newid yn yr hinsawdd ac, yn benodol, oherwydd bod lefel y môr yn codi yw bod hyn yn digwydd oherwydd newidiadau yn ein hinsawdd ar draws y byd (sy’n cynhesu). Y rhan bwysicaf o hyn yw bod lefel y môr yn codi.

Dyfyniad 2

undefined

“Mae Pumed Adroddiad Asesu'r Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd, yn amcangyfrif bod tymereddau byd-eang wedi codi 0.85°C rhwng 1880 a 2012. Mae lefel y môr wedi codi hefyd ac mae'r cynnydd hwnnw bellach yn 3.2 mm y flwyddyn. Mae'r Panel yn dweud ei bod yn debygol y bydd lefel y môr yn yr 21ain Ganrif yn codi ar gyfradd fwy na'r gyfradd yn 1971-2000, ac mae hynny'n wir am yr holl senarios a fodelwyd ar gyfer allyriadau.”

  • Mae’r Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd yn grŵp ymchwil a sefydlwyd gan y Cenhedloedd Unedig i edrych ar newid yn yr hinsawdd.
  • Mae’r Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd yn ysgrifennu adroddiadau rheolaidd ac mae’r wybodaeth yn dod o’r adroddiad a gafodd ei ysgrifennu yn 2014.
  • Mae’r Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd yn dweud bod y tymheredd wedi cynyddu 0.85°C rhwng 1880 a 2012. 
  • Mae hyn yn achosi i lefelau’r môr godi 3.2mm bob blwyddyn.
  • Mae pob model yn dweud y bydd yn fwy na 3.2mm bob blwyddyn yn y dyfodol.

Dyfyniad 3

“Yn ôl yr amcangyfrif canolog, amcangyfrifir cynnydd o 0.47m erbyn 2081 -2100, o'i gymharu â llinell sylfaen 1986-2005. Amcangyfrifir y bydd cynnydd o 0.5m yn arwain at gynnydd rhwng 10-gwaith a 100-gwaith yn amlder eithafion lefel y môr (o'u cymharu â heddiw) yng ngogledd Ewrop erbyn diwedd y ganrif. Byddai hyn yn golygu bod llifogydd arfordirol sydd ar hyn o bryd yn debygol o ddigwydd eto ymhen 100 mlynedd yn digwydd ar gyfartaledd rhwng bob blwyddyn a bob deng mlynedd erbyn 2100.

  • Yr amcangyfrif canolog yw’r un sy’n fwyaf tebygol o ddigwydd.
  • Erbyn diwedd y ganrif hon, yr amcangyfrif yw y bydd lefelau’r môr wedi codi 0.47 metr (bron hanner (0.5) metr).
  • Mae hyn yn golygu y bydd digwyddiadau eithafol sy’n effeithio ar lefel y môr yn digwydd unwaith bob 1-10 mlynedd ar gyfartaledd yn y dyfodol. Ar hyn o bryd, maen nhw’n digwydd unwaith bob 100 mlynedd ar gyfartaledd.

undefined

Llun gan Oosoom - CC BY

Mae’r ffotograff hwn yn dangos y rheilffordd yn Llanaber ger Abermo, a gafodd ei difrodi yn ystod storm 2014 - bron iddi gael ei golchi i ffwrdd. A allai hyn ddigwydd bob blwyddyn?

Dyfyniad 4

“Mae stormusrwydd a gwlybaniaeth eithafol hefyd yn ffactorau pwysig a fydd yn gwaethygu oherwydd newid yn yr hinsawdd ac yn cyfrannu at ragor o berygl llifogydd ac erydu. Eisoes, mae'r Swyddfa Dywydd wedi cofnodi cynnydd yn nifer y diwrnodau glaw trwm yn y Deyrnas Unedig, i'r graddau bod digwyddiad glawog a oedd ar gyfartaledd yn digwydd eto ymhen 125 o ddiwrnodau yn yr 1970au bellach yn digwydd eto ymhen 85 diwrnod.”

undefined

© NASA

  • Mae stormydd a dyodiad (pob dŵr sy’n dod o’r aer i wyneb y blaned) yn gwaethygu oherwydd newid yn yr hinsawdd.
  • Bydd hyn yn gwneud y siawns o lifogydd neu erydiad arfordirol yn uwch.
  • Y Swyddfa Dywydd yw asiantaeth y llywodraeth sy’n astudio’r tywydd a’r hinsawdd ac mae’n cynhyrchu rhagolygon y tywydd hefyd.
  • Rydyn ni wedi cael mwy o ddyddiau o law trwm bob blwyddyn.
  • Mae digwyddiadau mawr a oedd yn arfer digwydd ar gyfartaledd bob 125 diwrnod yn ystod y 1970au yn digwydd bob 85 diwrnod erbyn hyn.

Dyfyniad 5

O ran stormusrwydd, mae'r Swyddfa Dywydd yn awgrymu, er nad oes newidiadau sylweddol wedi bod yn amlder stormydd yn lledredau canolig gogledd yr Iwerydd, bod stormydd unigol yn ddwysach.”

undefined

Llun oddi wrth Geograph Project gan Noel Jenkins - CC BY

  • Nid yw’r Swyddfa Dywydd wedi dod o hyd i brawf fod mwy o stormydd bob blwyddyn.
  • Fodd bynnag, mae wedi darganfod fod y stormydd yn gryfach.

Dyfyniad 6

“Mae'n bwysig sylweddoli bod ffiseg sylfaenol cynhesu byd-eang yn cynnig sicrwydd y bydd allyriadau parhaus (a hanesyddol) yn golygu y bydd yr amgylchedd yn cynhesu eto. Yn sgil hynny, bydd y cefnforoedd yn cynhesu hefyd a bydd hynny'n anochel yn golygu y bydd lefel y môr yn codi’n sylweddol eto oherwydd ehangiad thermol. At hynny, canlyniad anochel ymsuddiant tir isostatig yn ne a chanolbarth Cymru hefyd fydd bod lefel y môr yn codi eto.”undefined

Llun wrth NOAA published data gan Robert A. Rohde - CC-NC-SA

  • Mae’r byd yn cael ei reoli gan ffiseg.
  • Mae ffiseg yn dweud wrthon ni y bydd allyriadau o nwyon fel CO2 yn y gorffennol a heddiw yn arwain at fwy o gynhesu’r awyr a’r cefnforoedd.
  • Mae ehangu thermol yn digwydd pan fydd pethau’n cynhesu – maen nhw’n mynd yn fwy. Wrth i’r moroedd hyn gynhesu, byddan nhw’n cynyddu yn eu cyfaint a bydd lefel y môr yn codi.
  • Yn Ne Cymru, a hyd yn oed yng Nghanolbarth Cymru, mae’r arfordir yn suddo ychydig, a bydd hyn yn gwneud i ddŵr y môr godi’n waeth.

Cawson ni stormydd gwael yn 2013 a 2014 ond chawson ni ddim storm fawr, gydag ymchwydd storm yn taro yn union yr un pryd â llanw uchel fel llanw anferth gwanwyn 2015. Pe bai hyn yn digwydd, bydden ni mewn tipyn o helynt. Y broblem yw bod hyn yn dod yn fwy tebygol bob blwyddyn. 

Mae iâ cap iâ yr Arctig yn arnofio; mae ei gyfaint yn cyfateb i’r dŵr y mae’n dadleoli o’i gwmpas. Dadleoliad yw’r hyn rydych chi’n ei weld pan fyddwch chi’n mynd i mewn i’r bath ac mae lefel y dŵr yn codi.

Mae cap iâ yr Antarctic ar dirond mewn gwirionedd mae’n mynd yn fwy trwchus. Mae hyn yn digwydd oherwydd hyd yn oed yn ystod y tymhorau cynhesaf, yn anaml iawn y bydd y tymheredd yn codi’n uwch na minws 10 gradd Celsius. Bydd mwy o anweddiad yn digwydd yn y cefnfor cynhesach o gwmpas yr Antarctig a bydd peth o’r lleithder ychwanegol hwn yn teithio ar draws cap iâ’r Antarctig ac yn cael ei ddyodi fel eira ychwanegol.

Pan fydd llawer o iâ sydd ar dir ar hyn o bryd yn toddi, fel ar yr Ynys Las, bydd hyn yn achosi newid yn lefel y môr. Gan ddefnyddio map, allwch chi ddod o hyd i diroedd eraill ger neu yn yr Arctig neu fynyddoedd uchel lle y byddai hyn yn gallu digwydd?

Gweithgaredd Myfyrwyr

Ceisiwch ysgrifennu rhestr o 10 rheswm pam, yn eich barn chi, mae posibilrwydd y bydd llifogydd arfordirol yn gwaethygu.

Gweithgaredd Ymestyn

Ceisiwch egluro pam y gall pob un o’ch 10 rheswm wneud llifogydd arfordirol yn waeth.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Adroddiad Cam 2 i’r Llifogydd Arfordirol

Adroddiad Cam 2 i’r Llifogydd Arfordirol

Beth wnawn ni ynglŷn â llifogydd arfordirol?

Beth wnawn ni ynglŷn â llifogydd arfordirol?