Mae rhan gyntaf yr adroddiad ar gyfer Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at nifer o resymau pam mae’r risg o lifogydd arfordirol yn cynyddu. Rydyn ni’n mynd i edrych ar yr hyn mae’n ei ddweud ac yna gweithio allan beth mae hyn yn ei olygu.
“Mae'r rhagfynegiadau ar gyfer dyfodol ein hardaloedd arfordirol yn dangos y bydd y perygl yn cynyddu, oherwydd newid yn yr hinsawdd ac, yn benodol, oherwydd bod lefel y môr yn codi.”
“Mae Pumed Adroddiad Asesu'r Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd, yn amcangyfrif bod tymereddau byd-eang wedi codi 0.85°C rhwng 1880 a 2012. Mae lefel y môr wedi codi hefyd ac mae'r cynnydd hwnnw bellach yn 3.2 mm y flwyddyn. Mae'r Panel yn dweud ei bod yn debygol y bydd lefel y môr yn yr 21ain Ganrif yn codi ar gyfradd fwy na'r gyfradd yn 1971-2000, ac mae hynny'n wir am yr holl senarios a fodelwyd ar gyfer allyriadau.”
“Yn ôl yr amcangyfrif canolog, amcangyfrifir cynnydd o 0.47m erbyn 2081 -2100, o'i gymharu â llinell sylfaen 1986-2005. Amcangyfrifir y bydd cynnydd o 0.5m yn arwain at gynnydd rhwng 10-gwaith a 100-gwaith yn amlder eithafion lefel y môr (o'u cymharu â heddiw) yng ngogledd Ewrop erbyn diwedd y ganrif. Byddai hyn yn golygu bod llifogydd arfordirol sydd ar hyn o bryd yn debygol o ddigwydd eto ymhen 100 mlynedd yn digwydd ar gyfartaledd rhwng bob blwyddyn a bob deng mlynedd erbyn 2100.”
Mae’r ffotograff yn dangos y rheilffordd yn Llanaber ger Abermo, a gafodd ei difrodi yn y storm yn 2014 - bu bron iddi gael ei golchi i ffwrdd. A allai hyn ddigwydd bob blwyddyn?
“Mae stormusrwydd a gwlybaniaeth eithafol hefyd yn ffactorau pwysig a fydd yn gwaethygu oherwydd newid yn yr hinsawdd ac yn cyfrannu at ragor o berygl llifogydd ac erydu. Eisoes, mae'r Swyddfa Dywydd wedi cofnodi cynnydd yn nifer y diwrnodau glaw trwm yn y Deyrnas Unedig, i'r graddau bod digwyddiad glawog a oedd ar gyfartaledd yn digwydd eto ymhen 125 o ddiwrnodau yn yr 1970au bellach yn digwydd eto ymhen 85 diwrnod.”
© NASA
“O ran stormusrwydd, mae'r Swyddfa Dywydd yn awgrymu, er nad oes newidiadau sylweddol wedi bod yn amlder stormydd yn lledredau canolig gogledd yr Iwerydd, bod stormydd unigol yn ddwysach.”
Llun oddi wrth Geograph Project gan Noel Jenkins - CC BY
“Mae'n bwysig sylweddoli bod ffiseg sylfaenol cynhesu byd-eang yn cynnig sicrwydd y bydd allyriadau parhaus (a hanesyddol) yn golygu y bydd yr amgylchedd yn cynhesu eto. Yn sgil hynny, bydd y cefnforoedd yn cynhesu hefyd a bydd hynny'n anochel yn golygu y bydd lefel y môr yn codi’n sylweddol eto oherwydd ehangiad thermol. At hynny, canlyniad anochel ymsuddiant tir isostatig yn ne a chanolbarth Cymru hefyd fydd bod lefel y môr yn codi eto.”
Llun wrth NOAA published data gan Robert A. Rohde - CC-NC-SA
Pe bai hyn i gyd ddim yn ddigon – mae lefel y môr yn codi, mae’r tir yn suddo, mae stormydd yn cryfhau, sy’n dod â mwy o law a gwyntoedd cryf, sy’n achosi tonnau uchel – mae rhywbeth arall dydyn ni ddim wedi’i egluro eto: ymchwydd storm. Ardal lle mae gwasgedd aer isel yw storm. Mae hyn yn golygu bod aer yn codi ac felly nid yw’n pwyso i lawr ar y ddaear neu ar wyneb y cefnfor gyda’r un grym ag arfer. Os yw’r storm yn gryf, yna mae’r gwasgedd aer yn isel. Mae gwasgedd aer uchel yn pwyso i lawr ar yr wyneb ac ar draws y cefnforoedd ac mae hyn yn gwneud lefel y môr yn is. Pan fydd gwasgedd aer isel, mae lefel y môr yn codi a phan fydd gwasgedd aer isel iawn pan fydd storm fawr, mae hyn yn gallu achosi i lefel y môr godi’n sylweddol.
Cawson ni stormydd gwael yn 2013 a 2014 ond chawson ni ddim storm fawr, gydag ymchwydd storm yn taro yn union yr un pryd â llanw uchel fel llanw anferth gwanwyn 2015. Pe bai hyn yn digwydd, bydden ni mewn tipyn o helynt. Y broblem yw bod hyn yn dod yn fwy tebygol bob blwyddyn.
Sut mae tir y Deyrnas Unedig yn gweithredu fel si-so anferth?
Mae iâ yr Arctig yn arnofio; mae ei gyfaint yn cyfateb i’r dŵr y mae’n dadleoli o’i gwmpas. Dadleoliad yw’r hyn rydych chi’n ei weld pan fyddwch chi’n mynd i mewn i’r bath ac mae lefel y dŵr yn codi.
Mae cap iâ yr Antarctic ar dir/cyfandir ond mewn gwirionedd mae’n edrych fel pe bai’n casglu mwy o iâ ac eira. Mae hyn yn digwydd oherwydd hyd yn oed yn ystod y tymhorau cynhesaf, yn anaml iawn y bydd y tymheredd yn codi’n uwch na minws 10 gradd Celsius, felly hyd yn oed pe bai cynnydd o un neu ddwy radd Celsius, mae siawns sylweddol y bydd yr iâ’n toddi. Bydd mwy o anweddiad yn digwydd yn y cefnfor cynhesach o gwmpas yr Antarctig a bydd peth o’r lleithder ychwanegol hwn yn teithio ar draws cap iâ’r Antarctig ac yn cael ei ddyodi fel eira ychwanegol.
Pan fydd llawer o iâ sydd ar dir ar hyn o bryd yn toddi, fel ar yr Ynys Las, bydd hyn yn achosi newid ewstatig yn lefel y môr. Gan ddefnyddio map, allwch chi ddod o hyd i diroedd eraill ger neu yn yr Arctig neu fynyddoedd uchel lle y byddai hyn yn gallu digwydd?
Ceisiwch ysgrifennu rhestr o 10 rheswm pam, yn eich barn chi, mae posibilrwydd y bydd llifogydd arfordirol yn gwaethygu.
Ceisiwch egluro pam y gall pob un o’ch 10 rheswm wneud llifogydd arfordirol yn waeth.