28

Adroddiad Cam 2 i’r Llifogydd Arfordirol

Dyma ddyfyniad o’r adroddiad cyntaf i’ch atgoffa pam mae ein hamddiffynfeydd môr mor bwysig a beth gallai fod wedi digwydd hebddynt:

“Roedd canfyddiadau Adroddiad Cam 1 yn dangos yn glir y budd cenedlaethol y mae'r rhwydwaith hwn o asedau'n ei gynnig.

  • Gallai mwy na 24,000 eiddo fod wedi wynebu llifogydd ar draws arfordir Gogledd Cymru yn ystod llifogydd Rhagfyr 2013;
  • Gallai mwy na 50,000 o eiddo drwy Gymru fod wedi wynebu llifogydd yn ystod stormydd mis Ionawr.

Os byddwn yn defnyddio cyfartaledd yr yswiriant llifogydd a hawlir ar gyfer y niferoedd hyn, sef £40.000, mae hynny'n awgrymu mai swm yr 'iawndaliadau a osgowyd ym mis Rhagfyr 2013 a mis Ionawr 2014 oedd oddeutu £960 miliwn a £2 biliwn, yn y drefn honno.”  

Roedd y ddwy storm yn dangos pa mor llwyddiannus yw ein seilwaith presennol ar gyfer amddiffyn y glannau ond, yn ogystal, roedden nhw’n rhybudd o’r peryglon cynyddol rydyn ni’n eu hwynebu yng Nghymru.

Mae datblygiadau pwysig wedi digwydd i’r seilwaith yma’n ddiweddar, yn eu plith:

  • Creu Canolfan Darogan Llifogydd ym mis Ebrill 2009. Mae’n gweithredu 24 awr bob dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
  • Gwella ansawdd y wybodaeth yn y rhagolygon tywydd yn y D.U.
  • Gwella’r sylw sy’n cael ei roi i ddarogan llifogydd a’i ansawdd a’r gwasanaeth rhybudd am lifogydd.
  • Gwella’r ddealltwriaeth o’r risg o erydu’r arfordir a mapio.
  • Gwaith ‘Ymwybyddiaeth Llifogydd Cymru’ yn ehangu dealltwriaeth leol o lifogydd ynghyd â cheisio sicrhau bod cymunedau’n barod.
  • Buddsoddi mewn adeiladu amddiffynfeydd arfordirol newydd, megis Borth, Riverside yng Nghasnewydd a Fairbourne.
  • Buddsoddi mewn cynnal a chadw ac ailadeiladu’r amddiffynfeydd presennol megis Argloddiau Llanw afon Clwyd.

Mae darogan risgiau yn un llwybr gyrfa ar gyfer daearyddwyr: yn 2009, agorwyd y Ganolfan Darogan Llifogydd er mwyn darparu asesiadau risg mewn perthynas â llifogydd yng Nghymru a Lloegr.

Mae daearyddwyr fel y rhai sy’n gweithio yn y Ganolfan Darogan Llifogydd yn defnyddio matrics risg i edrych ar ‘Debygolrwydd’ digwyddiad o’r fath a’i “Effeithiau Posibl” er mwyn cyhoeddi rhybuddion cod lliw sydd wedyn yn cael eu rhannu â’r cyhoedd.

undefined

Mapiau yn dangos y risg o lifogydd ar gyfer y ddwy storm ym mis Rhagfyr 2013 a mis Ionawr 2014

undefined

 

 

Mae’r wybodaeth yma’n cael ei rhoi i Gyfoeth Naturiol Cymru, sef y sefydliad sy’n gyfrifol am ddelio â llifogydd a phob agwedd arall ar yr amgylchedd yng Nghymru. Yna, mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n gweithio’n agos gyda phartneriaid cenedlaethol fel y Swyddfa Dywydd, yr Asiantaeth Briffyrdd a Llywodraeth Cymru; partneriaid yn y cyfryngau fel BBC Cymru; partneriaid rhanbarthol fel heddluoedd; partneriaid lleol fel cynghorau a chymunedau lleol a hyd yn oed unigolion.

 

In Welsh Version please highlight the listen feature of the website; it could be useful to some schools.

Mae’r union effeithiau ar eiddo i’w gweld yn y tabl hwn. Fodd bynnag, byddai cynnydd bach yn lefel y môr mewn nifer o leoliadau wedi arwain at effeithiau mwy sylweddol.

undefined

Yn ogystal ag effeithiau llifogydd ar eiddo, effeithiwyd hefyd ar seilwaith fel rheilffyrdd a ffyrdd, symudwyd pobl o ardaloedd oedd bron â chael llifogydd ac effeithiwyd ar lawer iawn o dir amaethyddol.

O ran penderfynu ar y ffordd orau o reoli’r arfordir, mae adroddiad cam 2 yn disgrifio’r Cynlluniau Rheoli Traethlin sydd mewn grym o fewn y pum Grŵp Arfordirol yng Nghymru ac mewn grwpiau partneriaethol ar draethlinau cyfagos yn Lloegr. A bod yn fanwl gywir, dylem alw pob cynllun yn Gynllun Rheoli Traethlin 2 gan mai’r ail fersiwn yw’r rhain.

Yng Nghymru, mae pob elfen sy’n ymwneud â gwneud penderfyniad ynglŷn â’r arfordir yn cael ei rhannu i bedwar Cynllun Rheoli Traethlin, sef:

  • Anchor Head hyd at Drwyn Larnog; sef Cynllun Rheoli Traethlin ‘Aber Afon Hafren’.
  • Trwyn Larnog hyd at Bentir St Ann; sef Cynllun Rheoli Traethlin ‘De Cymru’.
  • Pentir St Ann hyd at y Gogarth; sef Cynllun Rheoli Traethlin ‘Gorllewin Cymru’.
  • Y Gogarth hyd at Ororau’r Alban, sef Cynllun Rheoli Traethlin ‘Gogledd Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr’.

Mae pob Cynllun Rheoli Traethlin yn canolbwyntio ar ffrâm amser o 100 mlynedd dros 3 chyfnod ar gyfer rheolaeth arfaethedig o’r arfordir.

Dyma’r cyfnodau:

  • Cyfnod 1 (tymor byr) = 0 i 20 mlynedd
  • Cyfnod 2 (tymor canol) = 20 i 50 mlynedd
  • Cyfnod 3 (tymor hir) = 50 i 100 mlynedd

Mae modd gweithredu un o bedwar polisi ym mhob cyfnod ar gyfer pob uned rheoli arfordir (h.y. rhannau diffiniedig o’r arfordir) a’r polisïau hyn yw: 

  • Dim ymyrraeth weithredol: lle nad oes unrhyw fuddsoddi wedi ei gynllunio ar gyfer amddiffynfeydd arfordirol neu weithrediadau, hyd yn oed os oes amddiffynfeydd artiffisial wedi bodoli yn y gorffennol ai peidio.
  • Dal y Lein: dyhead i adeiladu neu gynnal a chadw amddiffynfeydd artiffisial er mwyn i safle’r draethlin aros fel y mae.
  • Adliniad wedi’i reoli: caniatáu i’r draethlin symud yn ôl neu ymlaen yn naturiol, ond rheoli’r broses er mwyn ei chyfeirio mewn mannau penodol.
  • Symud y lein ymlaen: adeiladu amddiffynfeydd newydd ar ochr atfor yr amddiffynfeydd gwreiddiol.

Mae’r rhain yn cael eu dangos ar y mapiau canlynol:

undefined

undefined

undefined

Un canfyddiad hanfodol bwysig yn adroddiad Cam 2 oedd bod rhaid i’r Cynlluniau Rheoli Traethlin gael eu cymeradwyo’n ffurfiol gan Lywodraeth Cymru fel bod yr holl gynllunio mewn ardaloedd arfordirol yn y dyfodol yn dod o fewn cyd-destun y Llywodraeth.

Gwnaeth Adroddiad Cam 2 47 o argymhellion o dan y penawdau canlynol. Cytunwyd arnyn nhw, neu cytunwyd arnyn nhw mewn egwyddor gyda Llywodraeth Cymru.

1-2: Bwrw ymlaen â’r argymhellion; llunio cynllun cyflenwi.

3-5: Difrifoldeb stormydd; gwella’n gwybodaeth mewn perthynas â thebygolrwydd stormydd difrifol.

6-9: Darogan llifogydd; gwella ein systemau o ddarogan llifogydd.

10-17: Rhybudd llifogydd ac ymateb y gymuned; gwella rhybuddion a’r ffyrdd y mae cymunedau’n eu defnyddio.

18-26: Ymateb gweithredol; adolygu a gwella cynllunio ar gyfer risg ac ymateb iddi.

27-42: Amddiffynfeydd arfordirol; adolygu ymateb ein hamddiffynfeydd morol i’r ddwy storm a chymeradwyo’r Cynlluniau Rheoli Traethlin er mwyn gallu dechrau cynllunio ar unwaith.

43-47: Cydnerthedd seilwaith; sicrhau bod seilwaith pwysig fel trafnidiaeth a’r gwasanaethau (trydan, nwy, dŵr, y ffôn a’r we) ar lefel dderbyniol o risg, yn seiliedig ar y stormydd hyn ac ar ragolygon y bydd digwyddiadau difrifol yn digwydd yn amlach (sef tebygolrwydd), sy’n gysylltiedig â newidiadau yn yr hinsawdd.

Wrth i ni barhau i edrych ar yr adran fwyaf o blith y rhain, sef beth rydym yn ei wneud gyda’n hamddiffynfeydd arfordirol, mae’n bwysig cofio y bydd gwella ein gwybodaeth a modelu stormydd difrifol yn ein helpu i ddatblygu darogan llifogydd, rhybuddion ac, yn sgil hynny, sut y bydd ein cymunedau ac asiantaethau ehangach llywodraeth genedlaethol a lleol yn ymateb i’r digwyddiadau difrifol hyn.

Yn yr erthygl gysylltiedig nesaf, bydd angen i chi edrych ar leoliadau o gwmpas ein harfordir a chwblhau Ymarfer Gwneud Penderfyniadau ar yr amddiffynfeydd arfordirol mewn lleoliadau penodol o gwmpas arfordir Cymru.

Gweithgaredd i’r Disgyblion

Defnyddiwch yr un categorïau ag Adroddiad Cam 2 i wneud map meddwl sy’n ymwneud â’r ffyrdd y mae angen i Gymru ymateb i’r risg gynyddol o lifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Pam mae’r risg o lifogydd arfordirol yn cynyddu?

Pam mae’r risg o lifogydd arfordirol yn cynyddu?

Beth wnawn ni ynglŷn â llifogydd arfordirol?

Beth wnawn ni ynglŷn â llifogydd arfordirol?