24

Lleoedd Anial

undefined

Lleoedd Anial

Yn yr erthygl hon byddwn ni'n dysgu am anialwch y byd yn defnyddio'r map rhyngweithiol isod. Wedyn, byddwn ni'n dechrau ar waith ymchwil i un anialwch penodol. Byddwch chi'n gweithio mewn grwpiau bychain i greu adroddiad ysgrifenedig am un anialwch neu ranbarth.

Mae'r map rhyngweithiol yn canolbwyntio ar ddaearyddiaeth ffisegol yr anialwch. Byddwn ni'n ystyried sut mae'r boblogaeth ddynol yn rhyngweithio â'r amgylchedd yn yr anialwch maen nhw'n byw ynddo yn nhrydedd erthygl y rhifyn hwn, sef 'Pobl yr Anialwch'.

Flash Player Required

Get Adobe Flash player

Gweithgaredd disgybl

Gweithiwch mewn grwpiau o dri neu bedwar. Dewiswch un anialwch a gwnewch ymchwil. Does dim rhaid i'r anialwch rydych chi'n dewis fod yn un o'r rhai a enwir, ond sicrhewch eich bod chi'n gallu dod o hyd i ddigon o wybodaeth i'w rhoi mewn adroddiad ysgrifenedig ar ôl i chi edrych ar erthygl 3: Pobl yr Anialwch.

Cofiwch fod sawl math o anialwch i chi ei ddewis, nid dim ond rhai poeth, isdrofannol.

Casglwch wybodaeth am:

  • ddaearyddiaeth (lle mae'r anialwch a sut dirwedd sydd yno?)

  • hinsawdd

  • nodiadau bras am y cymunedau sy'n byw yno (bodau dynol, anifeiliaid a phlanhigion).

Defnyddiwch fwy nag un ffynhonnell wybodaeth! Peidiwch â chael eich temtio i ddefnyddio'r canlyniad cyntaf a gewch chi wrth chwilio yn unig (Wikipeadia fel arfer). Mae gwaith ymchwil da yn golygu defnyddio sawl ffynhonnel wybodaeth a gwirio eich ffeithiau.

Mae digonedd o wybodaeth i'w chael am y byd naturiol mewn llyfrau, cylchgronau , rhaglenni dogfen, a llyfrau teithio hyd yn oes! Mae'r rhyngrwyd yn ffynhonnell dda hefyd, ond ceisiwch sicrhau eich bod chi'n defnyddio amrywiaeth o wefannau dibynadwy!

Bydd y wybodaeth rydych chi'n ei chasglu yn cael ei defnyddio mewn gweithgaredd lle mae'n rhaid i chi baratoi adroddiad ysgrifenedig ar anialwch o'ch dewis chi.

Sicrhewch eich bod chi wedi cywain digon o wybodaeth yn ystod y sesiwn hon fel eich bod chi wedi dechrau ar y gwaith yn ddigonol erbyn cam nesaf y gweithgaredd.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...