Yn yr erthygl hon byddwn ni'n dysgu am anialwch y byd yn defnyddio'r map rhyngweithiol isod. Wedyn, byddwn ni'n gweithio mewn grwpiau bychain i ddysgu mwy am un anialwch.
Mae'r map rhyngweithiol yn canolbwyntio ar ddaearyddiaeth ffisegol yr anialwch - pa fath o anialwch ydyn nhw a gwybodaeth am rai o'r anifeiliaid sy'n byw yno.
Byddwn ni'n edrych ar sut mae pobl yn rhyngweithio â'r amgylchedd yn yr anialwch maen nhw'n byw ynddo yn nhrydedd erthygl y rhifyn hwn, sef 'Pobl yr Anialwch'.
Gweithiwch mewn grwpiau o dri neu bedwar, dewiswch un anialwch a gwnewch ymchwil.
Does dim rhaid i'r anialwch rydych chi'n dewis fod yn un o'r rhai r y map rhyngweithiol, ond sicrhewch eich bod chi'n gallu dod o hyd i ddigon o wybodaeth amdano.
Cofiwch fod sawl math o anialwch i chi ei ddewis, nid dim ond rhai poeth, isdrofannol.
Casglwch wybodaeth am:
ddaearyddiaeth (lle mae'r anialwch a sut dirwedd sydd yno?)
hinsawdd
nodiadau bras am yr anifeiliaid a'r planhigion sydd yno
enwau rhai o'r cymunedau a'r grwpiau ethnig sy'n byw yno
Defnyddiwch fwy nag un ffynhonnell wybodaeth! Peidiwch â chael eich temtio i ddefnyddio'r canlyniad cyntaf a gewch chi wrth chwilio yn unig (Wikipeadia fel arfer). Mae gwaith ymchwil da yn golygu defnyddio sawl ffynhonnell wybodaeth a gwirio eich ffeithiau.
Mae digonedd o wybodaeth i'w chael am y byd naturiol mewn llyfrau, cylchgronau , rhaglenni dogfen, a llyfrau teithio hyd yn oed! Mae'r rhyngrwyd yn ffynhonnell dda hefyd, ond ceisiwch sicrhau eich bod chi'n defnyddio amrywiaeth o wefannau dibynadwy!
Efallai bydd eich athro yn edrych ar eich gwaith i wneud yn siwr eich bod chi wedi gwneud digon o ymchwil.