24

Pobl yr Anialwch

Bywyd yn yr Anialwch

Meddyliwch am anialwch. Beth sy’n dod i’ch pen?

Sych? Crin? Difywyd? Diffaith?

Y gwir amdani yw mai ychydig iawn o law a gwlybaniaeth mae anialwch yn cael, ond er hynny, dydy pob un ddim yn boeth ac yn sicr, ni ellir eu disgrifio fel 'difywyd'.

undefined

Mae anialwch y Ddaear wedi cael eu galw yn dir gwyllt hefyd sy'n golygu nad ydyn nhw'n cael eu ffermio na'u trin a'u bod nhw'n lle anodd i drigo ynddyn nhw. Mewn gwirionedd, os ydych chi'n cyfrif hanner anialwch fel y Sahel yn Affrica, a'r Steppe Rwsiaidd, mae dros 1 biliwn o bobl yn byw ar y 'tiroedd gwyllt' hyn.

Yn yr erthygl olaf hon, byddwn ni'n canolbwyntio ar y ffyrdd mae cymunedau trigolion yr anialwch wedi addasu a byw yn y cyflyrau anodd a didostur hyn.

Byddwn ni'n edrych ar dri anialwch. Dechreuwn gyda'r anialwch lleiaf poblog:

1. Antarctica

undefined

Antarctica yw'r anialwch mwyaf ar y Ddaear ac mae wedi’i orchuddio gan haenau trwchus o rew ac eira. Mae’n sych yno oherwydd bod cyflymder uchel y gwyntoedd yn cael gwared ar ddwr o'r aer, ac mae'r tymheredd oer eithafol yn achosi pwysau atmosfferig uchel ac awyr las.

Dim cymyla = dim glaw nac eira!

undefined

Er gwaetha'r amgylchedd anodd eithafol, mae grwp bychan o rhwng 1000 a 5000 o bobl yn byw yn Antarctica a'r ynysoedd ger llaw. Cafodd y cymunedau cyntaf eu sefydlu ar yr ynys Antarctig, De Georgia. Roedd hi'n cael ei defnyddio fel safle i helwyr morloi yn y 18fed ganrif.

undefined

Grytviken ganolfan hela morfil, South Georgia

Gwyddonwyr yw'r unig bobl sy'n byw yn Antarctica mewn canolfannau ymchwil ledled y cyfandir. Mae'r canolfannau hyn wedi cael eu rhoi yno gan y gwledydd sy'n eu rheoli nhw. Felly, gellir dadlau nad oes yno boblogaeth barhaol o gwbl. Wedi dweud hynny, mae o leiaf deg plentyn wedi'u geni yn Antarctica yn y 35 mlynedd diwethaf. Mae'n edrych yn debyg bod poblogaeth Antarctica yno i aros.

undefined

Vostok research station, Antarctica

2. Anialwch Arabia

undefined

Dyma'r pedwerydd anialwch mwyaf yn y byd ac mae yn y dwyrain canol. Mae’n ymestyn ar draws 8 gwlad:

  • Gwlad Iorddonen
  • Irac
  • Kuwait
  • Oman
  • Qatar
  • Saudi Arabia
  • United Arab Emirates
  • Yemen

Yn y canol mae Rub' al Khali, 'y rhan gwag', sef sgwâr mawr o dywod parhaol, un o'r mwyaf o'i fath ar y Ddaear. Fodd bynnag, er nad yw anialwch Arabia yn lletygar iawn, mae'n gartref i gyfoeth o ddiwylliant dynol ers miloedd o flynyddoedd.

undefined

Dechreuodd y cymunedau Arabaidd cyntaf tua 200,000 yn ôl. Roedd teuluoedd o Nomadiaid a llwythi yn symud o amgylch y tiroedd ffrwythlon yng nghanol y rhanbarth, yn hela a chasglu anifeiliaid er mwyn gadael iddyn nhw bori yn hwyrach.

Yng ngwerddon anialwch Arabia, mae ardaloedd gwryd yn tyfu o amgylch ffrydiau a ffynonellau dwr eraill ac redden nhw’n help nomadiaid i archwilio’r tir gwyllt trwy deithio o un werddon i’r llall.

Mae’r werddon fwyaf ar y Ddaear yn Al-Ahsa’a yn nwyrain Saudi Arabia. Mil o flynyddoedd yn ôl roedd yn un o ardaloedd mwyaf poblog y byd. Roedd llawer o ffrydiau dwr naturiol yno yn golygu y gallai bobl dyfu cnydau a ffrwythau.

undefined

Al Ahsa'a, Saudi Arabia

Mae Al-Ahsa’a dal yn enwog am ei ddatys yn ogystal â thyfu corn, gwenith, lemonau a ffrwythau eraill.

Fel wnaethon ni son ar ddechrau’r erthygl hon, pan fydd pobl yn meddwl am yr anialwch maen nhw’n meddwl am weres a thywod sych. Efallai eu bod nhw’n dychmygu camelod a’u perchnogion mewn mentyll hir a sgarffiau am eu pennau yn teithio ar draws ehangder o dywod a thwyni dal yr haul tanbaid.

Wel, mae’r llwyth traddodiadol Bedouin yn gweddu i’r disgrifiad hwn (er efallai y bydden nhw’n teithio gyda cherbydau a ffonau lloeren erbyn hyn!)

undefined

Tan hanner can mlynedd yn ôl roedd y rhan fwyaf o bobl Saudi Arabia, y wlad sy’n cynnwys y rhan fwyaf o anialwch Arabia, yn nomadiaid. Roedden nhw’n teithio ar draws yr anialwch gyda’u camelod, geifr a defaid yn defnyddio wadis (afonydd mewn anialwch sy’n llenwi pan mae hi’n bwrw glaw yn unig) a gwerddonau.

Ers y 1960au mae nifer y nomadiaid yn anialwch Arabia wedi gostwng yn ar - bellach mae llai na 5% o boblogaeth Saudi Arabia yn nomadiaid. Mae triliynnau o gasgenni olew a nwy o dan yr anialwch ac mae hynny wedi dod a llawer o gyfoeth i’w wlad o’i gwmpas. Mae dinasoedd mawr wedi cael eu hadeiladu, yn enwedig i’r gogledd-orllewin o’r ardal.

undefined

Burj Khalifa, Dubai

Mae gwerddonau concrid, gwydr a dur wedi cael eu hadeiladu gan ddyn yn yr anialwch. Mae’r adeilad talaf a waned gan ddyn yn ninas Dubai, y Burj Khalifa. Mae’ 829.8 o fetrau i fyny i’r awyr! Dychmygwch beth fyddai nomad o gan mlynedd yn ôl ynn ei feddwl pe bai’n gweld twr sydd dros hanner milltir yng nghanol yr anialwch!

3. Anialwch y Gobi

undefined

Mae Anialwch y Gobi (sy’n golygu ‘anialwch’ yn iaith Mongolia) yng nghanol Asia. Dyma’r bumed anialwch fwyaf ar y Ddaear a’r anialwch gaeaf-oer mwyaf yn y byd. Mae’n gorwedd i’r gogledd o fynyddoedd yr Himalaya sy’n rhwystro cymylau o law rhag teithio o Gefnfor India. Dyma pam mae’n cael ei alw’n anialwch ‘cysgod y glaw’ hefyd..

Un o fannau sychaf yr Anialwch y Gobi yw steppe yr anialwch, y Gobi Dwyreiniol. Doed dim coed yno, dim ond bryniau isel a gwastadeddau mawr, eang. Mae llwch sy’n cael ei chwythu gan wynt yn llenwi’r bryniau ac mae’r tymheredd yn amrywio o tua -40°C yn y gaeaf i 50°C pan fydd yr haf yn ei anterth.

undefined

Roedd magu da byw, sy’n cael ei alw’n ‘fugeilio nomadaidd’, wedi digwydd yn y Gobi am ganrifoedd. Ond siapiodd un anifail, yn fwy nag unrhyw un arall, hanes dynol Asia Ganol, yn cynnwys anialwch y Gobi - y ceffyl.

undefined

Mae ceffylau wedi cael eu marchogaeth am tua 5000 o flynyddoedd. Mae hyn yn caniatáu i nomadiaid deithio’n bell yn gyflym, yn ogystal â darparu llaeth a chig. Mae anifeiliaid eraill fel geifr a chamelod yn cael eu cadw hefyd, ond mae’r ceffyl wedi bod yn rhan bwysig o hanes am reswm arall - rhyfel!

Trwy gydol hanes, mae’r llwythi nomadig yn steppe Mongolia wedi ffurfio ymerodraethau ar draws Asia Ganol, yn cynnwys anialwch y Gobi. Y cyntaf o’r rhain oedd Xiongnu, a oedd yn brwydro brwydrau di-rif gyda Llinach Han o China dros 200 o flynyddoedd yn ôl.

undefined

Roedd gan y ddwy ochr fyddinoedd helaeth o ddegau o filoedd o filwyr ceffyl. Roedd y dynion a oedd yn ymladd ar droed hefyd yn teithio ar geffylau er mwyn symud dros bellter yn gyflym.

Yn 119 OC enillwyd brwydr gan fwy na’r milwyr ceffyl - roedd gan y Gobi rôl hefyd. Amgylchynodd gwyr meirch Xiongnu ran o fyddin Han a oedd yn defnyddio eu cerbydau rhyfel fel caerau symudol i amddiffyn eu hunain.

Erbyn diwedd y dydd, ddaeth y frwydr i stop llwyr. Fodd bynnag, wrth iddi nosi chwythodd storm dywod ar draws faes y gad. Tra roedd y tywod yn effeithio ar faint roedden nhw'n gweld, anfonodd yr Han weddill eu gwyr meirch i ymosod ar y Xiongnu. Gorchfygwyd y Xiongnu ac fe'u heliwyd ar hyd 100 milltir o anialwch gan wyr llinach Han.

undefined

Yng Nghanol Asia, daeth defnyddio byddinoedd enfawr ac ymladd ar gefn ceffyl yn rhan arferol o ryfeloedd ac adeiladu ymerodraethau. Roedd cyflyrau anodd a chas Anialwch y Gobi a'r Steppe ym Mongolia wedi creu ffordd benodol o fyw. Erbyn y 13eg ganrif OC, roedd hynny wedi helpu Genghis Kahn a'i ddisgynyddion i sefydlu’r Ymerodraeth Fongolaidd - yr ymerodraeth fwyaf ar dir erioed.

Doedd steppe garw gorllewin Anialwch y Gobi ddim yn rhwystr bellach oherwydd roedd nomadiaid a phrynwyr yn defnyddio ceffylau a chamelod i sefydlu llwybrau prynu a gwerthu ar draws Anialwch y Gobi rhwng Mongolia a China. Hyd yn oed heddiw, mae bron i draean o gartrefi Mongolaidd yn ennill eu bywoliaeth trwy fridio da byw, ac mae llawer ohonynt yn treulio rhan o'r flwyddyn fel nomadiaid yn teithio ar draws y steppe yn chwilio am y tir pori gorau.

undefined

Llwybrau prynu a gwerthu ar draws Anialwch y Gobi

Maen nhw'n dal i gael cig a llaeth gan eu ceffylau hefyd, er eich bod chi'n gallu prynu llaeth ceffyl yn yr archfarchnad y dyddiau hyn. Dyna i chi beth yw bywyd cyfoes yn y byd gwyllt!

Nawr eich bod chi wedi gorffen darllen y tair erthygl yn y rhifyn hwn o Ddaearyddiaeth yn y Newyddion - ewch yn ôl i''r erthygl gyntaf a rhoi cynnig arall ar y cwis "Anialwch". Yna, dewch yn ôl i fan hyn a rhoi cynnig ar y gweithgaredd isod.

Gweithgaredd disgybl

Yn yr un grwpiau â'r ail weithgaredd, paratowch adroddiad am bobl a chymunedau sy'n byw yn yr anialwch wnaethoch chi ei ymchwilio y tro diwethaf.

Mae ‘na lawer iawn o adnoddau ar y rhyngrwyd i ddweud wrthych am y bobl sy’n byw mewn lleoedd anial. Unwaith y byddwch chi wedi dewis pa genedl, grwp ethnig neu lwyth rydych chi eisiau ysgrifennu amdanynt, ewch i’r gwefannau a restrir isod a darllen amdanyn nhw.

Dylai eich adroddiad gynnwys:

  • O leiaf un map i ddangos o le ddaw’r bobl rydych chi’n ysgrifennu amdanyn nhw

  • Gwybodaeth am yr anialwch maen nhw’n byw ynddi. Defnyddiwch y pethau wnaethoch chi eu dysgu yn y gweithgaredd diwethaf – ond gwnewch yn siwr eu bod nhw’n berthnasol i thema’r adroddiad

  • Manylion am y bobl rydych chi’n ysgrifennu amdanyn nhw:

    • newidiadau i faint o dir a ddefnyddir gan gwmnïau mawr

    • colli tir pori

    • y llywodraeth yn gorfodi’r bobl i ymgartrefu mewn un lle

    • newidiadau i’r amgylchedd (e.e. hinsawdd, anialu)

Gallwch orffen eich adroddiad drwy fynegi eich barn CHI am ddyfodol y gymuned - ym mha ffordd bydd pethau’n newid dros y 50-100 mlynedd nesaf? Er well neu er gwaeth

Cyflwynwch eich adroddiad yn broffesiynol . Dylwch gynnwys lluniau perthnasol, diagramau a graffiau er mwyn rhoi tystiolaeth i gefnogi’r hyn rydych chi wedi’i ysgrifennu. Rhowch eich adroddiad terfynol i’ch athro ei marcio.

Ffynonellau gwybodaeth:

Mae llawer o wefannau sydd ar gael i'ch helpu chi, yn ogystal â gwyddoniaduron a llyfrau fydd yn llyfrgell yr ysgol, neu'r dref, o bosibl. Yn aml iawn, mae llyfrau teithio yn cynnwys gwybodaeth am draddodiadau diwylliannol y gwledydd dan sylw.

Dyma rai gwefannau fydd yn rhoi syniadau i chi ac yn eich helpu i ddechrau'r adroddiad. Cofiwch - gwiriwch ffeithiau! Os ydych chi'n darllen rhywbeth yn rhywle, dydy hynny ddim o reidrwydd yn golygu ei fod yn wir, Chwiliwch mewn ffynhonnell arall hefyd.

Cymraeg

Saesneg

Top

Mwy o’r rhifyn yma...