24

Prawf Gwybodaeth

undefined

Anialwch

Anialwch - bron yn syth mae'r enw yn rhoi delwedd benodol yn ein pen... camelod, tywod, twyni enfawr a nomadiaid yn teithio o un werddon i'r llall.

Ond, faint yn union ydyn ni'n gwybod am y math hwn o dirwedd go iawn? Mae'n bron yn bumed o'r tir sydd ar y Ddaear.

Yn y rhifyn hwn o Ddaearyddiaeth yn y Newyddion byddwn ni'n edrych ar yr anialwch ac yn dysgu am rai o amgylcheddau mwyaf anlletygar (anodd byw yn ddyn nhw) yn y byd.

Byddwn ni'n dechrau drwy ddysgu beth rydyn ni yn ei wybod am yr anialwch yn barod. Yn yr ail erthygl 'Lleoedd Anial', byddwn ni'n edrych yn fanwl ar rai o diroedd anial mwyaf y byd.

Yn olaf, yn y drydedd erthygl, 'Pobl yr Anialwch', byddwn ni'n edrych ar dri anialwch yn benodol a'r cymunedau o bobl sydd wedi ymgartrefu yno.

Creu adroddiad yw prif weithgaredd y rhifyn hwn. Byddwch yn gweithio mewn grwpiau bychain i ysgrifennu adroddiad am un anialwch yn benodol a'r bobl sy'n byw yno. Wrth wneud y cwis hwn, dechreuwch feddwl am ba fath o anialwch sydd o ddiddordeb i chi fel bod gennych chi ambell i syniad pan fyddwch chi'n dechrau'r gwaith ar ôl erthygl 2.

Prawf Gwybodaeth

Dechreuwch y cwis isod. Pwrpas y cwis yw ein helpu ni i ddeall yr hyn rydyn ni'n ei wybod am yr anialwch, felly peidiwch â chael eich temtio i chwilio am yr atebion tan fyddwch chi wedi cwblhau'r cwis!

Flash Player Required

Get Adobe Flash player

Unwaith y byddwch chi wedi cwblhau'r cwis, dechreuwch ddarllen yr ail erthygl er mwyn dysgu mwy am rai o anialwch mwyaf y byd.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...