24

Lleoedd Anial

undefined

Lleoedd Anial

Yn yr erthygl hon byddwn ni'n dysgu am anialwch y byd yn defnyddio'r map rhyngweithiol isod. Wedyn, byddwn ni'n gweithio mewn grwpiau bychain i ddysgu mwy am un anialwch.

Mae'r map rhyngweithiol yn canolbwyntio ar ddaearyddiaeth ffisegol yr anialwch - pa fath o anialwch ydyn nhw a gwybodaeth am rai o'r anifeiliaid sy'n byw yno.

Byddwn ni'n edrych ar sut mae pobl yn rhyngweithio â'r amgylchedd yn yr anialwch maen nhw'n byw ynddo yn nhrydedd erthygl y rhifyn hwn, sef 'Pobl yr Anialwch'.

Flash Player Required

Get Adobe Flash player

Gweithgaredd disgybl

Gweithiwch mewn grwpiau o dri neu bedwar, dewiswch un anialwch a gwnewch ymchwil.

Does dim rhaid i'r anialwch rydych chi'n dewis fod yn un o'r rhai r y map rhyngweithiol, ond sicrhewch eich bod chi'n gallu dod o hyd i ddigon o wybodaeth amdano.

Cofiwch fod sawl math o anialwch i chi ei ddewis, nid dim ond rhai poeth, isdrofannol.

Casglwch wybodaeth am:

  • ddaearyddiaeth (lle mae'r anialwch a sut dirwedd sydd yno?)

  • hinsawdd

  • nodiadau bras am yr anifeiliaid a'r planhigion sydd yno

  • enwau rhai o'r cymunedau a'r grwpiau ethnig sy'n byw yno

Defnyddiwch fwy nag un ffynhonnell wybodaeth! Peidiwch â chael eich temtio i ddefnyddio'r canlyniad cyntaf a gewch chi wrth chwilio yn unig (Wikipeadia fel arfer). Mae gwaith ymchwil da yn golygu defnyddio sawl ffynhonnell wybodaeth a gwirio eich ffeithiau.

Mae digonedd o wybodaeth i'w chael am y byd naturiol mewn llyfrau, cylchgronau , rhaglenni dogfen, a llyfrau teithio hyd yn oed! Mae'r rhyngrwyd yn ffynhonnell dda hefyd, ond ceisiwch sicrhau eich bod chi'n defnyddio amrywiaeth o wefannau dibynadwy!

Efallai bydd eich athro yn edrych ar eich gwaith i wneud yn siwr eich bod chi wedi gwneud digon o ymchwil.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...