24

Pobl yr Anialwch

Bywyd yn yr Anialwch

Yn aml iawn caiff anialwch eu disgrifio fel lleoedd 'sych', 'crin', difywyd' a 'diffaith'.

Y gwir amdani yw mai ychydig iawn o law a gwlybaniaeth mae anialwch yn cael, ond er hynny, dydy pob un ddim yn boeth ac yn sicr, ni ellir eu disgrifio fel 'difywyd'.

undefined

Mae anialwch y Ddaear wedi cael eu galw yn dir gwyllt hefyd (sy'n golygu nad ydyn nhw'n cael eu ffermio na'u trin a'u bod nhw'n lle anodd i drigo ynddyn nhw). Mewn gwirionedd, os ydych chi'n cyfrif hanner anialwch fel y Sahel yn Affrica, a'r Steppe Rwsiaidd, mae dros 1 biliwn o bobl yn byw ar y 'tiroedd gwyllt' hyn.

Yn yr erthygl olaf hon, byddwn ni'n canolbwyntio ar y ffyrdd mae cymunedau trigolion yr anialwch wedi addasu a byw yn y cyflyrau anodd a didostur hyn.

1. Antarctica

undefined

Rydyn ni eisoes wedi sôn, Antarctica yw'r anialwch mwyaf ar y Ddaear. Er ei fod wedi'i orchuddio gan haenau trwchus o rew ac eira, nid yw llawer o'r cyfandir yn cael llawer o waddod (precipitation), dim ond rhyw 50-250mm y flwyddyn. Mae cyflymder uchel y gwyntoedd yn cael gwared ar ddwr o'r aer, ac mae'r tymheredd oer eithafol yn achosi pwysau atmosfferig uchel ac awyr las. Dim cymylau = dim glaw nac eira.

Nid yr anialwch mwyaf yn unig yw Antarctica, mae hefyd y cyfandir mwyaf deheuol a'r mwyaf ynysig ar y Ddaear. Mae trwyn mwyaf gogleddol y Penrhyn Antarctig tua 600km oddi wrth ben deheuol yr Ariannin yn Ne America.

Nid pellter yn unig sydd yno ychwaith. Rhwng De America ac Antarctica mae Môr y De. Mae'n llifo o'r gorllewin i'r dwyrain o amgylch Antarctica. Ar gyfartaledd mae iddo ddyfnder sydd rhwng 4000 a 50000km. Mae tymheredd isel, gwyntoedd cryfion a stormydd garw rheolaidd yn golygu bod Antarctica yn lle anodd iawn ei gyrraedd.

undefined

Os cyrhaeddwch chi yno hyd yn oed, mae'r rhan fwyaf o'r tir wedi'r orchuddio gan gannoedd o fetrau o rew a thymheredd cyfartalog y cyfandir yw -57°C.

Er gwaetha'r amgylchedd anodd eithafol, mae grwp bychan o rhwng 1000 a 5000 o bobl yn byw yn Antarctica a'r ynysoedd ger llaw. Cafodd y cymunedau cyntaf eu sefydlu ar yr ynys Antarctig, De Georgia. Roedd hi'n cael ei defnyddio fel safle i helwyr morloi yn y 18fed, 19eg a'r 20 fed ganrif, tan y 1960au.

undefined

Grytviken ganolfan hela morfil, South Georgia

Gwyddonwyr yw'r unig bobl sy'n byw yn Antarctica ei hun a staff cynorthwyol mewn dros 40 ganolfannau ymchwil ledled y cyfandir. Mae'r canolfannau hyn yn dibynnu'n llwyr ar y gwledydd sy'n eu rheoli nhw. Felly, gellir dadlau nad oes yno boblogaeth barhaol o gwbl. Wedi dweud hynny, mae o leiaf deg plentyn wedi'u geni yn Antarctica ers 1978 mewn dwy ganolfan Archentaidd a Chileaidd. Mae ganddyn nhw eglwysi a chapeli yn sawl un o'r canolfannau ymchwil hyd yn oed. Mae'n edrych yn debyg bod poblogaeth Antarctica yno i aros.

undefined

Vostok ganolfan ymchwil, Antarctica

2. Anialwch Arabia

undefined

Dyma'r pedwerydd anialwch mwyaf yn y byd (yr ail anialwch poeth fwyaf, ar ôl y Sahara) ac mae hi'n ymestyn o'r gogledd wrth Iorddonen ac Irac i'r de at Yemen ac Oman y Dwyrain Canol. Yn y canol mae Rub' al Khali, 'y rhan gwag', sef 650,00km sgwâr o dywod parhaol, un o'r mwyaf o'i fath ar y Ddaear. Fodd bynnag, er nad yw anialwch Arabia yn lletygar iawn, mae'n gartref i gyfoeth o ddiwylliant dynol ers miloedd o flynyddoedd.

undefined

Tua 20,000 o flynyddoedd yn ôl byddai teuluoedd a llwythi nomadig yn symud o gwmpas yr uwchdir ffrwythlon i ganol y penrhyn a'r ardaloedd arfordirol gwyrdd yn chwilio am le i'w hanifeiliaid gael pori. Yn anialwch Arabia ei hun, roedd gwerddonau (oasis - ardaloedd gwyrdd, ynysig wrth ymyl ffrydiau ffynonellau dwr eraill) yn caniatáu i'r nomadiaid archwilio'r tir gwyllt trwy deithio o'r naill werddon i'r llall.

Yn y werddon fwyaf ar y Ddaear, Al-Ahsa'a yn nwyrain Saudi Arabia, mae tystiolaeth o olion byw bodau dynol ers cyn hanes yno. Yn y mileniwm cyntaf OC, roedd ganddo un o'r poblogaethau mwyaf yn y byd. Byddai degau o filoedd yn cael eu denu at y werddon a'i ffrydiau naturiol, niferus.

undefined

Al Ahsa'a, Saudi Arabia

Sefydlwyd amaethyddiaeth yr adeg yma ac mae Al-Asha'a yn dal i dyfu datys o safon uchel sy'n cael eu morio i bob cwr o'r byd. Mae Al-Asha'a yn parhau i fod yn un o'r ychydig leoedd yn Arabia lle caiff reis ei dyfu. Mae corn, gwenith, lemonau a ffrwythau eraill yn rhai o'r cnydau sy'n cael eu tyfu yno. Coed palmwydd datys yw'r cnwd mwyaf yno, gyda dros 3 miliwn o goed ar y fferm fwyaf.

Mae dealltwriaeth fanwl o werddonau anialwch Arabia wedi bod yn sylfaen i sefydlu gwareiddiad yn yr ardal. Pan fydd person yn dychmygu'r anialwch, fel arfer byddan nhw'n gweld bugeiliaid camel yn gwisgo mentyll hir a sgarffiau am eu pennau yn teithio dan belydrau haul berwedig, dros dwyni tywod di-ben-draw. Mae'r llwythi Bedouin traddodiadol anialwch Arabia dal i ffitio'r disgrifiad hwnnw, ond efallai eu bod nhw'n teithio mewn Land Cruiser a gyda ffôn lloeren y dyddiau hyn.

undefined

Tan y 1960au, roedd y mwyafrif o boblogaeth Saudi Arabia yn nomadig. Roedden nhw'n teithio drwy'r anialwch gyda'u da byw yn defnyddio wadis (afonydd yn yr anialwch sy'n llenwi pan fydd hi'n glawio yn unig), a gwerddonau i'r da byw gael pori. Rhan o boblogaeth y Penrhyn Arabaidd yw'r Bedouin, ynghyd ag Arabiaid eraill a grwpiau bach o bobl Affro-Arab ac Affro-Asiaidd. Fodd bynnag, mae eu dylanwad ar ddatblygiad diwylliant y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica wedi bod yn anferthol.

Yn yr hanner can mlynedd diwethaf mae nifer y nomadiaid yn anialwch Arabia wedi gostwng yn ar - bellach mae llai na 5% o boblogaeth Saudi Arabia yn nomadig. Mae'r datblygiad economaidd cyflym sy'n cael ei gynnal gan y cyflenwad enfawr o olew a nwy o dan yr anialwch, wedi achosi twf dinasoedd mawr. Yn enwedig felly mewn gwledydd fel Qatar, Kuwait a'r United Arab Emirates (UAE) ar arfordir gogledd-orllewin y penrhyn Arabaidd. Mae adeiladau, concrid, dur a gwydr wedi 'u codi yn yr anialwch gyda'r pinacl - Burj Khalifa - yn sefyll 829.8 metr uwchben dinas Dubai, UAE.

undefined

Burj Khalifa, Dubai

3. Anialwch y Gobi

undefined

Y Gobi (sef y gair Mongolian am anialwch) yw'r anialwch mwyaf yn Asia, y bumed ar y Ddaear a'r anialwch gaeaf-oer mwyaf yn y byd. Mae'n ymestyn dros rannau o dde Mongolia a gogledd China, ychydig i'r gogledd o fynyddoedd yr Himalya. Mae'r mynyddoedd yn rhwystro cymylau glaw sy'n symud i'r gogledd o'r Môr Indiaidd ac yn lleihau glaw dros y Gobi. Dyma''r rheswm ei fod yn cael ei alw yn 'anialwch cysgod y glaw'.

Un o fannau sychaf yr Anialwch y Gobi yw steppe yr anialwch, y Gobi Dwyreiniol. Daw 'Steppe' o'r iaith Rwsieg am 'step', ac mae'n cyfeirio at wastadeddau mawr sydd heb goed. Mae rhai steppes (cânt eu galw yn prairie yn UDA) weddi'u gorchuddio gan laswellt a gwrychoedd. Mae steppes sych, fodd bynnag, yn fwy diffaith. Ychydig o law yn unig mae'r steppe y Gobi yn ei gael bob blwyddyn a chaiff ei alw'n anialwch oherwydd hynny.

undefined

Does gan steppe'r Gobi Dwyreiniol ddim coed, dim ond bryniau isel ac mae'r rhan fwyaf ohono yn dir gwastad iawn. Mae llwch yn cael ei chwythu gan wynt ac yn llenwi pantiau a chymoedd sychion gan greu gwaddod o'r enw 'loes'. Mae tymheredd anialwch y Gobi yn amrywio o tua -40°C yn y gaeaf i 50°C pan fydd yr haf yn ei anterth.

Roedd y bobl gyntaf i ymgartrefu ym Mongolia yn tyfu cnydau, ond bugeilio da byw fu'r brif ffordd o fyw yn Anialwch y Gobi ers canrifoedd. Mae wedi siapio diwylliant a gwleidyddiaeth yr ardal am dros 20000 o flynyddoedd. Mae un anifail, yn fwy nag unrhyw beth arall, wedi siapio hanes dynol Canol Asia, yn cynnwys Anialwch y Gobi sef y ceffyl.

undefined

Cafodd ceffylau eu dofi am y tro cyntaf tua 5000 CC a bu pobl yn eu marchogaeth ers o leiaf 3000 CC. Roedd hyn y galluogi'r nomadiaid i deithio yn bell ac yn sydyn, yn ogystal â rhoi llaeth a chig. Byddai anifeiliaid eraill fel geifr a chamelod yn cael eu heidio hefyd, ond y ceffyl wnaeth chwarae rhan annatod yn hanes Anialwch y Gobi a gweddill y Steppe Eiriesid a hynny am reswm arall - rhyfel!

Trwy gydol hanes, mae llwythi'r nomadiaid y Steppe Mongolaidd wedi ymuno â'i gilydd i dro i dro er mwyn ffurfio ymerodraeth a rheoli rhannau mawr o Ganol Asia, yn cynnwys Anialwch y Gobi. Yn gyntaf o'r rhain oedd Xiongnu, a ffurfiodd dalaith o gydffederasiwn yn 209 CC a barodd am 300 mlynedd.

Tra roedden nhw’n rheoli'r hyn rydyn ni'n ei adnabod fel Mongolia, roedd y Xiongnu yn ymladd brwydrau di-ri gyda Han Llinach China. Roedd gan y ddwy ochr fyddinoedd helaeth o ddegau o filoedd o filwyr ceffyl. Roedd y dynion a oedd yn ymladd ar droed hefyd yn teithio ar geffylau er mwyn symud dros bellter yn gyflym.

undefined

Yn 119 OC, bu cyfres o frwydrau yng ngogledd Anialwch y Gobi. Yn y gyntaf, roedd gwyr meirch elitaidd Llinach Han yn goruchafu ar y frwydr a chyn pen dim roedden nhw wedi curo lluoedd Xiongnu. Doedd yr ail frwydr ddim mor syml, ac roedd gan yr anialwch ei hun rôl i'w chwarae. Amgylchynodd gwyr meirch Xiongnu ran o fyddin Han a oedd yn defnyddio eu cerbydau rhyfel fel caerau symudol i amddiffyn eu hunain.

Erbyn diwedd y dydd, ddaeth y frwydr i stop llwyr. Fodd bynnag, wrth iddi nosi chwythodd storm dywod ar draws faes y gad. Tra roedd y tywod yn effeithio ar faint roedden nhw'n gweld, anfonodd yr Han weddill eu gwyr meirch i ymosod ar y Xiongnu. Gorchfygwyd y Xiongnu ac fe'u heliwyd ar hyd 100 milltir o anialwch gan wyr llinach Han.

undefined

Yng Nghanol Asia, daeth defnyddio byddinoedd enfawr ac ymladd ar gefn ceffyl yn rhan arferol o ryfeloedd ac adeiladu ymerodraethau. Roedd cyflyrau anodd a chas Anialwch y Gobi a'r Steppe ym Mongolia wedi creu ffordd benodol o fyw. Erbyn y 13eg ganrif OC, roedd hynny wedi helpu Genghis Kahn a'i ddisgynyddion i sefydlu’r Ymerodraeth Fongolaidd - yr ymerodraeth fwyaf ar dir erioed.

Doedd steppe garw gorllewin Anialwch y Gobi ddim yn rhwystr bellach oherwydd roedd nomadiaid a phrynwyr yn defnyddio ceffylau a chamelod i sefydlu llwybrau prynu a gwerthu ar draws Anialwch y Gobi rhwng Mongolia a China. Roedd y llwybrau hyn yn ymestyn ar draws dri chyfandir - o Korea yn y dwyrain i Orllewin Ewrop ac Affrica yn y gorllewin.

undefined

Llwybrau prynu a gwerthu ar draws Anialwch y Gobi

Hyd yn oed heddiw, mae bron i draean o gartrefi Mongolaidd yn ennill eu bywoliaeth trwy fridio da byw, ac mae llawer ohonynt yn treulio rhan o'r flwyddyn fel nomadiaid yn teithio ar draws y steppe yn chwilio am y tir pori gorau. Maen nhw'n dal i gael cig a llaeth gan eu ceffylau hefyd, er eich bod chi'n gallu prynu llaeth ceffyl yn yr archfarchnad y dyddiau hyn. Dyna i chi beth yw bywyd cyfoes yn y byd gwyllt!

Nawr eich bod chi wedi gorffen darllen y tair erthygl yn y rhifyn hwn o Ddaearyddiaeth yn y Newyddion - ewch yn ôl i''r erthygl gyntaf a rhoi cynnig arall ar y cwis "Anialwch". Yna, dewch yn oll i fan hyn a rhoi cynnig ar y gweithgaredd isod.

Gweithgaredd disgybl

Yn yr un grwpiau â'r ail weithgaredd, paratowch adroddiad am bobl a chymunedau sy'n byw yn yr anialwch wnaethoch chi ei ymchwilio y tro diwethaf.

Byddwch yn benodol! Yn aml iawn, mae trigolion yr anialwch yn llwythol ac mae'r gwahaniaethau yn eu ffordd o fyw, diwylliant, iaith a chredoau crefyddol yn fawr iawn o'u cymharu â'r llwyth neu'r gymuned sy'n gymdogion iddynt. Mae llawer iawn o adnoddau ar y we i'ch helpu chi - unwaith y byddwch chi wedi dewis cenedl, grwp ethnig neu lwyth i ysgrifennu amdanynt, defnyddiwch rai o'r gwefannau isod i ddysgu mwy amdanyn.

Dylai eich adroddiad gynnwys:

  • O leiaf un map sy'n dangos o le mae'r bobl yn eich adroddiad yn dod

  • Rhai manylion perthnasol am ba bynnag anialwch maen nhw'n trigo ynddi. (Peidiwch ag ailadrodd darnau mawr o'r ymarfer diwethaf - dewiswch ffeithiau sy'n berthnasol i sut mae'r bobl hyn yn byw)

  • Traddodiadau a diwylliant y gymuned rydych chi wedi'i dewis

  • Gwybodaeth am sut mae'r newidiadau sydd wedi digwydd yn y byd wedi effeithio arnyn nhw a pha heriau maen nhw'n eu hwynebu. Gallai hyn gynnwys:

    • newidiadau’r ffordd mae tir yn cael ei ddefnyddio

    • colli pori

    • newidiadau gwleidyddol ac economaidd

    • newidiadau amgylcheddol (e.e. hinsawdd)

Gorffennwch eich adroddiad gyda'ch syniadau a barn, ar sail tystiolaeth, am yr hyn sydd o flaen y gymuned rydych chi wedi'i dewis - ym mha ffordd allai pethau newid, er gwaeth neu er gwell, dros y 100 mlynedd nesaf?

Cyflwynwch eich adroddiad yn broffesiynol - cofiwch gynnwys lluniau, diagramau a graffiau perthnasol i roi tystiolaeth o'r hyn rydych chi wedi'i ysgrifennu. Rhowch yr adroddiad terfynol i 'ch athro i'w marcio.

Ffynonellau gwybodaeth:

Mae llawer o wefannau sydd ar gael i'ch helpu chi, yn ogystal â gwyddoniaduron a llyfrau fydd yn llyfrgell yr ysgol, neu'r dref, o bosibl. Yn aml iawn, mae llyfrau teithio yn cynnwys gwybodaeth am draddodiadau diwylliannol y gwledydd dan sylw.

Dyma rai gwefannau fydd yn rhoi syniadau i chi ac yn eich helpu i ddechrau'r adroddiad. Cofiwch - gwiriwch ffeithiau! Os ydych chi'n darllen rhywbeth yn rhywle, dydy hynny ddim o reidrwydd yn golygu ei fod yn wir, Chwiliwch mewn ffynhonnell arall hefyd.

Cymraeg

 

Saesneg

Top

Mwy o’r rhifyn yma...