Dros y misoedd diwethaf bu’r newyddion yn un o fwyd ond nid mewn ffordd sy’n codi blys ar rywun...
Dechreuodd ar y 14eg o Ionawr 2013 pan ddywedodd Awdurdod Diogelwch Bwyd Iwerddon bod miliynau o fyrgyrs a oedd ar werth yn archfarchnadoedd Prydain yn cynnwys rhywbeth gwahanol i’r hyn a ddylent.
Daeth i’r amlwg dros yr wythnosau canlynol bod rhai o’r cynnyrch ‘eidion’ yn siopau Prydain, fel peli cig, lasagne, byrgyrs a mins yn cynnwys cig ceffyl. Mewn rhai achosion, roedd yr holl gig yn y pryd bwyd wedi dod o geffylau.
Taflwyd miliynau o dunelli o fwyd oddi ar silffoedd yr archfarchnadoedd. Caewyd lladd-dai a chwmnïau prosesu bwyd ac mae sawl arestiad wedi digwydd yn sgil ymchwiliad yr heddlu i’r sgandal.
Ond dyma’r cwestiwn, mewn gwlad sy’n cynhyrchu cannoedd o filoedd o dunelli o gig eidion bob blwyddyn, pam nad ydyn ni’n gwybod o le mae’n prydau bwyd ni’n dod, na chig o ba anifail sy’n cael ei roi ar ein platiau?
Bydd y rhifyn hwn o Ddaearyddiaeth yn y Newyddion yn edrych ar y diwydiant bwyd ym Mhrydain ac yn Ewrop. Yn benodol byddwn ni’n edrych ar:
Chwe mis yn ôl, roedd y rhan fwyaf o bobl ym Mhrydain yn cymryd yn ganiataol mai cig eidion, a oedd wedi dod mor uniongyrchol ag sy’n bosibl o’r fferm i’r siop, oedd y cig yn y byrgyr neu’r lasagne oedd ar eu Wedi’r cyfan, yn y rhan fwyaf o archfarchnadoedd ym Mhrydain gallwch weld y cigydd yn paratoi’r cig yn y siop.
Yn anffodus, nid yw’r stori hanner mor syml â hynny! Mae llawer o ffactorau wedi dod at ei gilydd i wneud y gadwyn gyflenwi bwyd yn llawer iawn mwy cymhleth na feddyliech chi...
Mae’r term ‘cadwyn gyflenwi’ yn cael ei defnyddio i ddisgrifio’r system sy’n symud cynnyrch oddi wrth y cyflenwr (y fferm) ar y cwsmer (ni). O ran ein byrgyr blasus, y gadwyn symlaf fyddai:
Ffermwr → Cigydd → Cwsmer
Y dyddiau hyn, nid yw llawer o gigyddion yn lladd y cig eu hunain ac yn defnyddio lladd-dy yn lle, sy’n rhoi’r gadwyn hon i ni:
Ffermwr → Lladd-dy → Cigydd → Cwsmer
Fodd bynnag, fel y byddwn ni’n gweld, mae’r sefyllfa go iawn yn llawer iawn mwy cymhleth. Mae hyn yn wir iawn o ran cig mins neu gynnyrch cig mind fel byrgyrs a ‘bwydydd wedi’u prosesu’ fel prydau-parod.
Cyn i ni edrych ar enghraifft o gadwyn gyflenwi gymhleth a ddaeth á’r cig ceffyl i’r siopau ym Mhrydain, beth am edrych ar sut ddaeth y sgandal i’r amlwg?
Ionawr 2013
Canfu cig ceffyl mewn byrgyrs cig eidion a oedd yn cael eu cynhyrchu gan gwmni Gwyddelig, ABP Silvercrest.
Mae’r cwmni yn mynnu nad yw’n gwybod dim am y cig ceffyl ac yn rhoi’r ba ar y cyflenwyr.
Peidiodd rhai archfarchnadoedd yn cynnwys Aldi, Tesco, Lidl, Iceland, Sainsbury’s, Asda a Waitrose werthu peth o’u bwydydd parod wedi rhewi.
Chwefror 2013
Cafodd cig ceffyl ei ddarganfod mewn bwydydd gan ragor o gynhyrchwyr yn Iwerddon, Prydain a Ffrainc.
Canfod bod lasagne ‘eidion’ Findus, a gynhyrchir gan gwmni Ffrengig o’r enw Comirgel, yn cynnwys 100% o gig geffyl. (gweler y map rhyngweithiol isod)|.
Mae’r heddlu yn ymosod ar fasnachwyr cig, lladd-dai a ffatrïoedd cig, yn cynnwys Farmbox MeatsCyf ger Aberystwyth.
Mae perchennog cwmni Cymreig yn cael ei arestio a chaeir safle Farmbox Meats
Mawrth/Ebrill 2013
Parhau â’r ymchwiliad i’r sgandal cig ceffyl yn y DU, Iwerddon ac Ewrop.
Caiff cig ceffyl yn lasagne parod Findus, sy’n cael ei werth ym Mhrydain, ei olrhain yn ôl i ladd-dai yn Romania.
Mynnodd y cwmni Romaniaidd bod y cynhyrchydd bwyd yn gwybod eu bod nhw’n prynu cig ceffyl pan osodwyd yr archeb.
Felly, pam bod cig ceffyl mewn bwydydd yn gymaint o sgandal? Wedi’r cyfan, mae bwytai a siopau mewn gwledydd Ewropeaidd yn gwerthu cig ceffyl i’r cyhoedd ac maen nhw’n fodlon ei fwyta.
Mae hi’n gwbl ddiogel bwyta ceffyl - ar yr amod bod y ffermydd, y lladd-dai a’r ffatrïoedd yn cael eu cynnal yn iawn - yn union fel unrhyw gig arall.
Nid diogelwch oedd y broblem ond cam-labelu bwyd. Os yw lasagne yn cael ei werth fel ‘cig eidion’ yna dim ond cig o wartheg ddylai fod ynddo. Os ddim, yna gellir erlyn y cwmni sy’n ei gyflenwi am dwyll (fraud) – sy’n drosedd ddifrifol iawn ym Mhrydain.
Ymhlith cymunedau crefyddol fel Iddewon a Mwslimiaid mae pryder mawr y gallai cynnyrch ‘cig eidion’ hefyd gynnwys porc, a dydyn nhw ddim yn cael bwyta porc.
Y Sgandal Cig Ceffyl – Cadwyni Cyflenwi Bwyd
Felly, sut rydyn ni wedi magu system lle mae cael cig o fferm i siop mor gymhleth? Mae’n rhaid ei bod hi’n haws i archfarchnadoedd brynu eu bwyd yn lleol?
Mae sawl ffactor yn cyfrannu:
Mae popeth uchod, yn ogystal â ffactorau eraill wedi creu cadwyn gyflenwi bwyd, hir a chymhleth sy’n anodd ei dilyn a’u rheoleiddio. Mae’r potensial am gamgymeriadau, yn ogystal â thorri rheolau yn fwriadol, yn enfawr.
Soniwyd am un enghraifft uchod, sef lasagne rhew Findus a oedd yn cael ei werthu mewn siopau ym Mhrydain, a oedd yn 100% cig ceffyl. Mae’r map rhyngweithiol isod yn dangos yn union pa mor gymhleth yw’r daith o’r fferm i’r plât erbyn hyn.
Fel cyflwyniad i’r wers, dylai’r dosbarth ddefnyddio’r rhyngrwyd neu bapurau newydd lleol i ddarganfod mwy am un siop fferm leol:
O le ddaw eu cig?
Yn fras, pam mor bell mae’n rhaid iddo deithio i’r siop?
Ble mae’r lladd-dy? Ydyn nhw’n lladd eu cig eu hunain?
Yna, yn defnyddio’r erthygl hon a ffynonellau gwybodaeth eraill, cymharwch y gadwyn cyflenwi bwyd i’r siop fferm ac i’r prydau parod (fel lasagne) sydd ar werth yn yr archfarchnad:
Sawl cam sydd yn y gadwyn gyflenwi?
Beth yw’r gwahaniaeth yn y pellter y mae’r cig yn ei deithio?
Sawl gwlad a chwmni oedd yn rhan yn y broses gynhyrchu?
Cyflwynwch eich darganfyddiadau mewn adroddiad ysgrifenedig fer, gan ddefnyddio darluniau a thablau lle bo hynny’n addas. Gorffennwch yr adroddiad gyda’ch syniadau chi am sut y gallai hi fod yn rhatach i archfarchnadoedd werthu bwydydd o ffatrïoedd sydd gannoedd o filltiroedd i ffwrdd yn hytrach na gan gyflenwyr lleol.