22

Meddwl am fwyd...

Meddwl am fwyd...

Yn y rhifyn hwn byddwn ni’n meddwl am y newidiadau sydd wedi digwydd yn arferion bwyta Prydain yn y degawdau diwethaf. Yna byddwn ni’n edrych ar dri pheth a allai newid y ffordd rydyn ni’n cynhyrchu ei n bwyd.

Newid yn y farchnad – Cyflenwad a Galw

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd aeth cyflenwadau bwyd yn brin iawn a bu rhaid i’r llywodraeth reoli faint o fwyd y byddai teulu yn gallu ei brynu.

Yr enw ar hyn oedd dognu (rationing) ac roedd yn effeithio ar bryniant y prif fwydydd fel cig, siwgr, llaeth a chynnyrch llaeth, grawnfwyd, te ac wyau.

undefined

Hyd yn oed ar ôl y rhyfel, roedd prydau bwyd y rhan fwyaf o deuluoedd yn brif fwydydd fel tatws, bara, llysiau a chig. Ni ddaeth bwydydd tramor fel cyri Indiaidd i mewn i gystadlu â’r farchnad fwyd draddodiadol Brydeinig tan y 1970au.

Ers hynny, mae bwydydd Asiaidd a Mediteranaidd wedi dod yn hynod boblogaidd yn y DU, nes bod cyri, stir-fry, pasta a phizza yn uchel iawn ar restrau ‘hoff fwyd’ pobl Prydain.

Oeddech chi'n gwybod?

Beth bynnag sy’n gwneud bywyd yn hawdd...

“Arferai’r term “bwyd rhad” olygu eich bod chi’n tyfu eich llysiau eich hun ac yn defnyddio rhannau o anifeiliaid y byddai pobl yn troi eu trwynau arnynt y dyddiau hun: arennau, iau, tafod, traed moch ac ati.

Mewn gwirionedd, rydyn ni’n dal i fwyta’r rhannau hyn o’r anifeiliaid ond maen nhw’n dueddol o fod wedi cael eu cuddio’n feistrolgar mewn selsig, byrgyrs a phrydau bwyd parod.

undefined

Mae prydau bwyd parod yn enghraifft o fwydydd hwylus. Maen nhw’n cael eu paratoi mewn ffatri ac yn cael eu gwerthu yn barod i’w bwyta. Maen nhw’n brydau bwyd cyflawn sy’n cael eu gwerthu wedi rhewi neu wedi oeri. Dyma’r prydau bwyd parod sydd wedi bod yng nghanol y sgandal cig ceffyl.

Dyfodol bwyd?

Bydd gweddill yr erthygl hon yn edrych ar dair gwahanol ffordd o ffermio a fydd, o bosibl, yn fwy poblogaidd yn y dyfodol.

1. Amaethyddiaeth Gymunedol

Mae Amaethyddiaeth Gymunedol (yn golygu bod y bobl sy’n bwyta’r bwyd yn cymryd rhan yn y broses o ffermio’r bwyd. Mae hyn yn golygu:

  • Tyfu bwyd yn lleol.

  • Rhannu cost y bwydydd drwy roi taliad tuag at y bwyd cyn ei fod wedi tyfu.

  • Dim ond bwyta bwyd sy’n dymhorol.

undefined

Rhai o’r pethau da am Amaethyddiaeth Gymunedol yw bod:

  • ffermwyr yn cael incwm mwy sefydlog.

  • y Gymuned yn mwynhau bwyd ffres, iach.

  • y bwyd a gynhyrchir yn well i’r amgylchedd.


2. Ffermio Trefol

Yr Haf hwn, bydd y prosiect Biospheric yn cael ei lansio ym Manceinion. Mi fydd yn troi hen ffatri yn ‘fferm drefol fertigol’ a allai ddarparu “bwyd lleol” i bobl sy’n byw mewn dinasoedd.

undefined

Daw’r syniad o draddodiad ffermio Affricanaidd o dyfu cnydau uwch ben ei gilydd. Er enghraifft mae cnau coco yn cael eu tyfu uwch ben bananas, sy’n cael eu tyfu uwch ben coed coffi. Islaw mae iamau a chnydau eraill yn cael eu plannu i dyfu o ar wyneb y ddaear neu o dan y ddaear.

Bydd y lefel gyntaf o’r fferm fertigol yn magu mwydod a fydd yn cael eu defnyddio i fwydo pysgod mewn tanciau. Bydd y pysgod yn cael eu bwyta a bydd eu gwastraff yn cael ei ddefnyddio fel gwrtaith i’r planhigion ar y lloriau uwchben. Ychwanegwch gychod gwenyn a siediau ieir ac mae’n dechrau swnio fel fferm go iawn!


3. Cinio Corynod

Ym mis Mai 2013 datganodd y Cenhedloedd Unedig ((sefydliad sy’n cynnwys llywodraethau pob gwlad yn y byd) syniad am ddyfodol bwyd... Bwyta pryfed!

Efallai bod y syniad yn codi cyfog arnoch, ond y gwir amdani yw bod tua 2 biliwn o bobl yn bwyta pryfed yn barod.

Nid yw’n syniad mor wallgof â hynny – mae gan bryfed lawer o brotein a maeth ynddyn nhw sydd eu hangen arnom ni i fod yn iach a chryf. Maen nhw yn cynhyrchu llawer llai o nwyon ty gwydr nag anifeiliaid fferm mawr hefyd.

undefined

Mae gwartheg, defaid a geifr yn cynhyrchu tua 80 miliwn tunnell o fethan, nwy ty gwydr pwysig, bob blwyddyn.

Sut maen nhw’n rhyddhau’r nwy? Ie, cywir - maen nhw’n gollwng gwynt...

Felly, byddai bwyta pryfed yn ddewis iachach ac yn un sy’n well i’r amgylchedd. Os yw’r syniad yn troi arnoch chi, cofiwch os ydych chi erioed wedi reidio beic neu gysgu â’ch ceg ar agor mae’n debygol eich bod chi wedi bwyta pryfed heb hyd yn oed sylweddoli!


Gwirio Gwybodaeth

Faint rydych chi wedi’i ddysgu yn y rhifyn hwn o Ddaearyddiaeth yn y Newyddion? Gwnewch y cwis rhyngweithiol isod i gael gweld. Os nad ydych chi’n gwneud cystal â’r disgwyl, ewch yn ôl a darllen yr erthyglau eto. Yna, trïwch eto.

Flash Player Required

Get Adobe Flash player

Gweithgaredd disgybl

Dewch o hyd i gynhwysion neu brydau bwyd sy’n cael eu bwyta mewn rhannau eraill o’r byd, ond ddim yn y DU er enghraifft. Er enghraifft:

  • Gwymon.

  • Pryfed.

  • Llaeth ceffyl.

Gan weithio’n unigol neu mewn parau, gwnewch bosteri hysbysebu’r bwydydd hyn. Er mwyn cymell pobl Prydain i’w bwyta nhw gallech sôn am:

  • Eu gwerth maethlon.

  • A ydyn nhw’n dda i’r amgylchedd neu ddim?

  • Sut maen nhw’n blasu?

Rhowch eich gwaith i’ch athro neu athrawes i’w farcio. Efallai y byddant yn cael eu harddangos yn y dosbarth neu ar y coridorau – efallai bydd eich posteri yn cymell pobl i drïo math newydd o fwyd!

Top

Mwy o’r rhifyn yma...