Dros y misoedd diwethaf bu’r newyddion yn un o fwyd ond nid mewn ffordd sy’n codi blys ar rywun...
Mi ddechreuodd ym mis Ionawr pan ddarganfu gwyddonwyr bwyd bod miliynau o fyrgyrs a oedd ar werth mewn archfarchnadoedd ym Mhrydain yn wahanol iawn i beth ddylen nhw fod. Erbyn deall, roedd rhai byrgyrs, lasagne parod a mins cig eidion mewn gwirionedd yn cynnwys cig ceffyl!
Cafodd llwyth o fwyd ei daflu gan archfarchnadoedd a siopau. Cafodd lladd-dai a ffatrïoedd bwyd eu cau a chafodd llawer o bobl eu harestio.
Dyma gwestiwn...
Mae’r DU yn cynhyrchu cannoedd o filoedd o dunelli o gig eidion bob blwyddyn, felly pam nad ydyn ni’n gwybod o le mae’n prydau bwyd ni’n dod, na chig o ba anifail sy’n cael ei roi ar ein platiau?
Bydd y rhifyn hwn o Ddaearyddiaeth yn y Newyddion yn edrych ar y diwydiant bwyd ym Mhrydain ac yn Ewrop:
Y sgandal cig ceffyl diweddar
O le ddaw bwyd? (Ac arolwg sy’n dangos bod llawer ohonom yn gwybod llai na’r ydyn ni’n ei feddwl!)
Rhai syniadau radicalaidd a allai newid y ffordd y bydd ein diwydiant bwyd yn gweithio yn y dyfodol.
Efallai eich bod chi’n meddwl bod y byrgyr a lasagne sydd ar eich plât wedi dod o’r fferm ac yn syth i’r siop. Wedi’r cyfan, mewn llawer o archfarchnadoedd ym Mhrydain, gallwch wylio’r cigyddion yn paratoi’r bwyd yn y siop.
Ond, erbyn deall, nid yw’r stori mor syml â hynny. Mae ein cadwyni cyflenwi bwyd ni yn gallu bod yn gymhleth iawn, iawn.
Mae ‘cadwyn gyflenwi’ yn system sy’n symud y cynnyrch (yn yr achos hwn – y fferm) at y cwsmer. Byddai’r gadwyn symlaf i gael byrgyr yn mynd fel hyn:
Ffermwr → Cigydd → Cwsmer
Y dyddiau hyn, nid yw llawer o gigyddion yn lladd y cig eu hunain ac yn defnyddio lladd-dy yn lle, sy’n rhoi’r gadwyn hon i ni:
Ffermwr → Lladd-dy → Cigydd → Cwsmer
Mae’r straeon diweddar am gig ceffyl yn ein harchfarchnadoedd wedi dangos fod y cadwyni cyflenwi bwyd wedi mynd yn llawer iawn mwy cymhleth.
Cyn i ni edrych ar un enghraifft o gadwyn cyflenwi bwyd gymhleth a ddaeth a chig ceffyl i siopau Prydain, beth am edrych ar sut ddaeth y sgandal i’r amlwg:
Ionawr 2013
Canfu cig ceffyl mewn byrgyrs cig eidion a oedd yn cael eu cynhyrchu yn yr Iwerddon.
Dywedodd y cwmni nad oeddent yn gwybod gan feio’r cyflenwyr yn lle.
Peidiodd rhai archfarchnadoedd yn cynnwys Aldi, Tesco, Lidl, Iceland, Sainsbury’s, Asda a Waitrose werthu peth o’u bwydydd parod wedi rhewi.
Chwefror 2013
Cafodd cig ceffyl ei ddarganfod mewn bwydydd gan ragor o gynhyrchwyr yn Iwerddon, Prydain a Ffrainc.
Mae’r heddlu yn ymosod ar fasnachwyr cig, lladd-dai a ffatrïoedd cig, yn cynnwys Farmbox MeatsCyf ger Aberystwyth.
Mawrth/Ebrill 2013
Caiff cig ceffyl yn lasagne parod Findus, sy’n cael ei werth ym Mhrydain, ei olrhain yn ôl i ladd-dai yn Romania.
Dywedodd y cwmni Romaniaidd bod y cynhyrchydd bwyd yn gwybod eu bod nhw’n prynu cig ceffyl pan osodwyd yr archeb.
Felly, pam bod cig ceffyl mewn bwydydd yn gymaint o sgandal? Wedi’r cyfan, mae bwytai a siopau mewn gwledydd Ewropeaidd yn gwerthu cig ceffyl i’r cyhoedd ac maen nhw’n fodlon ei fwyta.
Mae hi’n gwbl ddiogel bwyta ceffyl - ar yr amod bod y ffermydd, y lladd-dai a’r ffatrïoedd yn cael eu cynnal yn iawn - yn union fel unrhyw gig arall.
Cam-labelu’r bwyd yw’r broblem. Os yw lasagne yn cael ei werth fel ‘cig eidion’ yna dim ond cig o wartheg ddylai fod ynddo. Os ddim, yna gellir erlyn y cwmni sy’n ei gyflenwi.
Ymhlith cymunedau crefyddol fel Iddewon a Mwslimiaid mae pryder mawr y gallai cynnyrch ‘cig eidion’ hefyd gynnwys porc, a dydyn nhw ddim yn cael bwyta porc.
Y Sgandal Cig Ceffyl – Cadwyni Cyflenwi Bwyd
Felly, sut rydyn ni wedi magu system lle mae cael cig o fferm i siop mor gymhleth? Mae’n rhaid ei bod hi’n haws i archfarchnadoedd brynu eu bwyd yn lleol?
Mae sawl rheswm:
Mae cadwyn gyflenwi bwyd, hir yn anodd ei dilyn. Caiff camgymeriadau eu gwneud ac weithiau caiff rheolau eu torri yn fwriadol.
Un enghraifft o hyn yw achos lasagne Findus a oedd ar werth yn archfarchnadoedd [Prydain. Roedd profion ym mis Ionawr 2013 wedi dangos bod rhai ohonynt wedi’u gwneud â 100% o gig ceffyl.
Mae’r map rhyngweithiol isod yn dilyn y lasagne Findus ac yn dangos yn union pa mor gymhleth yw’r daith o’r fferm i’r plât erbyn hyn.
Defnyddiwch y rhyngrwyd neu bapurau newydd i geisio darganfod mwy am siop fferm neu gyflenwydd bwyd organig yn eich ardal. Ceisiwch ddarganfod:
O le ddaw eu bwyd?
Yn fras, pa mor bell mae’n rhaid iddo deithio cyn cyrraedd y siop?
Gwnewch lun neu ddiagram sy’n dangos y gwahanol gamau o’r daith.
Yna, yn defnyddio’r erthygl hon a ffynonellau wybodaeth eraill, darganfyddwch o leiaf un cynhwysyn sy’n dod o dramor (gallai’r cynhwysyn fod yn llysieuyn, ffrwyth, perlysieuyn neu sbeis, cig ac yn y blaen):
O ba wlad ddaw’r cynhwysyn?
Pa mor bell sy’n rhaid iddo deithio cyn cyrraedd y siopau yn y Deyrnas Unedig?
Defnyddiwch dabl i gymharu bwyd y siop fferm gyda’r bwydydd o dramor. Ydych chi’n gallu meddwl am fanteision ac anfanteision prynu bwyd gan gyflenwyr lleol a gwledydd tramor?
Os hoffech chi, gallwch lawr lwytho ac argraffu’r map isod er mwyn arddangos teithiau’r bwydydd rydych chi wedi’u dewis. Cliciwch ar y map i’w lawr lwytho.