22

Bwyd: Tarddiad

O le ddaw ein bwyd ni?

Yn erthygl gyntaf y rhifyn hwn, edrychon ni ar y sgandal cig ceffyl diweddar a darganfod mwy am y gadwyn gyflenwi sy’n dod â’r bwyd i’n siopau ac ar ein platiau.

Yn yr erthygl hon byddwn ni’n canolbwyntio ar darddiad y bwydydd rydyn ni’n eu bwyta. Yn gyntaf, byddwn ni’n edrych ar y gwahanol fathau o ffermio yn y DU. Yna, byddwn ni’n edrych ar sut mae rhai o’r cynhwysion yn ein bwyd yn cael eu gwneud.


Ffermio yn y DU

Yn syml, mae dau brif fath o ffermio yn y DU: ffermio âr a ffermio bugeiliol.

Mae ffermio âr yn golygu tyfu cnydau fel gwenith, had rêp ac yd.

undefined

Mae ffermio bugeiliol yn golygu magu da byw fel gwartheg, moch ac ieir

undefined

Defaid ar Fferm Ty Newydd ger Aberystwyth

Mae yna fathau o ffermio eraill sy’n fwy arbenigol. Dyma rai enghreifftiau:

Perllaniaeth – tyfu coed ffrwythau, e.e. afalau a gellyg

undefined

Acwafeithrin – magu pysgod, pysgod cregyn neu alga mewn tanciau a chewyll

undefined

Gwenynfeithrin – cadw gwenyn ar gyfer eu mêl

undefined

Ydych chi’n gallu meddwl am ragor o ffermio yn y DU? Os ydych chi, cadwch nhw mewn cof ar gyfer y gweithgaredd ar ddiwedd yr erthygl hon.

Oeddech chi'n gwybod?

Yw caws yn tyfu ar goed?

Yw hwnnw’n gwestiwn rhyfedd i’w ofyn? Mae pawb yn gwybod o le ddaw caws, 'dydyn?

Wel, erbyn deall, yn ôl arolwg diweddar gan y Sefydliad Maeth Prydain, mae bron i draean o blant ysgolion cynradd yn credu bod caws yn dod o blanhigion. Roedd ‘fish fingers’ yn broblem hefyd, gydag un o bob pump o blant ysgolion cynradd yn meddwl eu bod nhw wedi’u gwneud o gyw iâr.

undefined

Er i’r ystadegau wella mewn plant 11-14 mlwydd oed, roedd y canlyniadau dal yn syndod. Doedd mwy nag un ym mhob deg plentyn oed ysgol uwchradd ddim yn gwybod bod wyau yn dod o ieir, ac roedd rhai ohonynt yn credu bod wyau yn dod o wartheg.

Anifail llysieuyn neu fwyn?

Yn nhrydedd erthygl y rhifyn hwn o Ddaearyddiaeth yn y Newyddion mae cwis i chi gael profi eich gwybodaeth chi am fwyd. Cyn hynny, fodd bynnag, beth am edrych ar rai o’r bwydydd a’r cynhwysion sy’n cael eu bwyta fwyaf ym Mhrydain a gweld o le maen nhw’n dod.

undefined

Does dim byd fel cael paned o de, ac mae’r bob yng Nghymru a gweddill y DU wrth eu boddau â the! Mae pobl ym Mhrydain wedi bod yn yfed te am dros 350 o flynyddoedd ac yn 2009 mewnforiwyd 149,000 tunnell ohono. Ond o le mae e’n dod?

undefined

Caiff te ei wneud o ddail planhigyn sy’n tynnu mewn hinsawdd drofannol neu isdrofannol. Mae’n debyg mai yn China ddechreuwyd yfed te (a nhw yw’r cynhyrchwyr te mwyaf yn y byd) ond nawr caiff ei dyfu mewn llawer o wledydd, yn cynnwys y DU.

China, India, Kenya a Sri Lanka yw’r pedair cenedl sy’n tyfu’r mwyaf o de yn y byd, rhyngddynt maent yn tyfu bron i 75% o’r te yn y byd. Cyflwynwyd tyfu te i India gan gwmnïau Prydeinig ac mae’r rhan fwyaf o de du (y math mwyaf poblogaidd) sy’n cael ei werthu yn y DU yn cynnwys cymysgedd o ddail o India, Kenya a Sri Lanka.

Am baned cyfan gwbl Brydeinig mi allwch brynu dail te gan gwmni yng Nghernyw, Tregothnan, a ddechreuodd blannu eu busnes te yn 2006 gan ddechrau gwerthu’r te y llynedd. Mae cwmni arall yn Sir Benfro yn bwriadu ymuno â’r busnes tyfu te cartref yn y blynyddoedd nesaf hefyd.

Bacwn a Bara

Un o’r prif fwydydd ar fwyteir ym Mhrydain yw’r frechdan bacwn. Ond o le ddaw bacwn a bara?

undefined

Mae bacwn yn gynnyrch cig sy’n dod o foch (weithiau caiff bacwn ei alw yn ‘gig moch’). Caiff ei dorri yn sleisiau bach ac yna caiff ei galedu gyda halen ac yn cael ei sychu neu ei fygu cyn y bydd yn barod i’w goginio.

Mae bara, yn ei ffurf symlaf, wedi’i wneud yn defnyddio blawd a dwr. Mae’n un o’r bwydydd hynaf i gael ei baratoi yn hytrach na’i gasglu neu ei hela. Dechreuwyd gwneud bara yn ôl yn Oes y Cerrig gyda phethau fel gwenith a haidd. Mae’n cael ei fwyta dros y byd i gyd ac mae’n un o’r prif fwydydd – hynny yw, bod y rhan fwyaf o bobl yn ei fwyta y rhan fwyaf o ddyddiau – yn Ewrop, Affrica, y Dwyrain Canol ac America.

Basil

Efallai nad yw’n swnio fel un o hoff fwydydd pob Prydain ond, pan fyddwch chi’n sylweddoli bod basil yn un o’r cynhwysion pwysicaf yn llawer o sawsiau pasta Eidalaidd, mae’n amlwg ein bod ni’n bwyta llawer ohono. Wedi’r cyfan mae sbageti bolonês yn un o brydau bwyd mwyaf poblogaidd y DU, dro ar ôl tro.

undefined

Mae basil yn berlysieuyn, sef planhigyn a ddefnyddir i roi blas ar fwyd. Mae’n fychan ac yn ddeiliog ac o India yn wreiddiol. Nawr mae’n tyfu mewn sawl rhan o’r byd YN cynnwys Ffrainc, Unol Daleithiau America, De Affrica a’r Eidal wrth gwrs. Gellir ei dyfu yn y DU, ond fel arfer mae angen ty gwydr i wneud hynny.

Monosodium Glutamate

Un cynhwysyn dirgel arall yw monosodium glutamate (MSG yn fyr) sef math o halen. Caiff rhai bwydydd eu bwyta yn Asia fel gwymon a physgod cregyn. Mae gan bopeth byw ychydig o MSG yn eu celloedd, ond mae’n enwocach fel ychwanegyn sy’n cael ei ddefnyddio i ddenu’r blas allan o wahanol fwydydd.

undefined

Mae gan yr hen ffefryn Prydeinig Marmite lefelau uchel iawn o MSG ac mae bwytai bwyd cyflym ledled y byd yn ei roi ar eu sglodion. Mae saws soia, sy’n cael ei wneud â ffa soia yn cael ei ddefnyddio’n aml iawn mewn coginio Tsieinïaidd ac mae hwnnw hefyd yn cynnwys llawer o glutamate.

Y dyddiau hyn mae llawer o MSG yn cael ei gynhyrchu mewn ffatrïoedd yn defnyddio bacteria sy’n tyfu ar fetys siwgr a thriagl. Efallai y bydd hyn yn eich gwneud i chi feddwl ddwywaith y tro nesa y byddwch chi’n archebu sglodion gyda’ch byrgyr!


Tarddiad ein Bwydydd

Fel y stori flaenorol am y sgandal cig ceffyl, nod yr erthygl hon yw ein gorfodi ni i feddwl o le ddaw ein bwyd ni.

Mae globaleiddio a’r newidiadau i gynhyrchu bwyd yn y degawdau diwethaf yn golygu nad yw’r daith rhwng y fferm a’n bwrdd bwyd ni bellach yn un syml.

At hyn, mae arferion bwyta’r bobl ym Mhrydain yn wahanol iawn i rai’r cenedlaethau o’u blaenau ac ymddengys bod llawer o’r newidiadau hyn yma i aros. 


Gweithgaredd disgybl

Gan weithio mewn grwpiau o ddau neu dri, dewiswch un o’ch hoff fwydydd ac yna dewiswch un cynhwysyn penodol ohono.

Darganfyddwch:

  • Sut mae’r cynhwysyn yna’n cael ei gynhyrchu? A yw’n anifail, planhigyn neu’n a yw’n fwyn hyd yn oed?

  • O le mae’n dod yn wreiddiol a ble gaiff ei gynhyrchu nawr?

  • Beth yw gofynion ei gynhyrchu? Er enghraifft, a oes arno angen rhywbeth penodol, fel:

    • tymheredd?

    • gwaddod?

    • math o bridd?

    • uchder?

  • Yw’r cynhwysyn yn cael ei brosesu, neu a yw’n dod yn syth o’r fferm i’r siop?

  • A yw’n cael ei fwyta yn rhywle arall yn y byd, neu ddim ond yn y DU?

Paratowch gyflwyniad byr am y cynhwysyn rydych chi wedi’i ddewis. Byddwch yn barod i ateb rhai cwestiynau ar y diwedd. Gellir adolygu’r cyflwyniadau gan gyfoedion gyda goruchwyliaeth athro neu athrawes.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...