Yn erthygl gyntaf y rhifyn hwn, edrychon ni ar y sgandal cig ceffyl diweddar a darganfod mwy am y gadwyn gyflenwi sy’n dod â’r bwyd i’n siopau ac ar ein platiau.
Yn yr erthygl hon byddwn ni’n canolbwyntio ar darddle’r bwyd rydyn ni’n ei fwyta; y gwahanol fathau o ffermio yn y DU a sut y mae rhai cynhwysion yn ein bwydydd ni’n cael eu gwneud.
Yn syml, mae dau brif fath o ffermio yn y DU: ffermio âr a ffermio bugeiliol.
Mae ffermio âr yn golygu tyfu cnydau fel gwenith, had rêp ac yd.
Cae o had rêp sy’n cael ei ddefnyddio i wneud olew coginio
Mae ffermio bugeiliol yn golygu magu da byw fel gwartheg, moch ac ieir.
Defaid ar Fferm Ty Newydd ger Aberystwyth
Mae yna fathau o ffermio eraill sy’n fwy arbenigol. Dyma rai enghreifftiau:
Perllaniaeth – tyfu coed ffrwythau, e.e. afalau a gellyg.
Acwafeithrin – magu pysgod, pysgod cregyn neu alga mewn tanciau a chewyll.
Gwenynfeithrin – cadw gwenyn ar gyfer eu mêl.
Ydych chi’n gallu meddwl am ragor o ffermio yn y DU? Os ydych chi, cadwch nhw mewn cof ar gyfer y gweithgaredd ar ddiwedd yr erthygl hon.
Yw caws yn tyfu ar goed?
Yw hwnnw’n gwestiwn rhyfedd i’w ofyn? Mae pawb yn gwybod o le ddaw caws, 'dydyn?
Wel, yn ôl un arolwg diweddar, nid dyna’r achos. Mae bron i draean o blant ysgol gynradd yn meddwl bod caws yn dod o blanhigion.
Roedd ‘fish fingers’ yn broblematig hefyd, gyda bron i bumed o blant ysgolion cynradd yn dweud eu bod nhw’n meddwl mai cyw iâr oedd ynddynt.
Nid hynny yn unig – doedd mwy nag un ym mhob deg mewn ysgolion uwchradd ddim yn gwybod bod wyau yn dod o ieir. Roedd rhai yn meddwl mai o wartheg yr oedd wyau yn dod!
Faint ydych chi’n ei wybod am y bwyd rydych chi’n ei fwyta? Cewch gyfle i ddarganfod mwy gyda’n cwis ni yn yr erthygl nesaf, ond yn gyntaf beth am edrych ar rai o gynhwysion mwyaf poblogaidd Prydain...
Does dim byd fel paned o de, a dydy pobl Cymru a gweddill Prydain methu cael digon! Felly o le mae’n dod?
Caiff te ei wneud gyda dail o berth fechan. Dechreuodd pobl yfed te yn China ac mae’n cael ei dyfu mewn gwledydd gyda hinsawdd drofannol neu isdrofannol.
Mae’r rhan fwyaf o’r te rydyn ni’n ei yfed yn y DU yn gymysgedd o ddail o India, Kenya a Sri Lanka. Am baned o de cwbl Brydeinig mi allwch chi brynu dail gan gwmni tyfu te o Gernyw. Mae cwmni yn Sir Benfro yn gobeithio ymuno â’r gymuned tyfu te cartref yn y blynyddoedd nesaf.
Enghraifft arall o fwyd ‘Prydeinig’ yw’r frechdan bacwn. Felly o le ddaw’r bacwn a’r bara?
Cynnyrch cig yw bacwn ac mi ddaw o foch (weithiau caiff ei alw yn ‘cig moch’). Mae’r cig yn cael ei dorri yn sleisiau ac yn cael ei galedu gyda halen. Yna caiff ei sychu neu ei fygu cyn y bydd yn barod i’w goginio.
Yn ei ffurf symlaf, mae bara yn cael ei wneud yn defnyddio blawd a dwr. Mae grawn fel gwenith a haidd wedi cael eu defnyddio ers Oes y Cerrig.
Caiff bara ei fwyta dros y byd i gyd ac mae’n u’n o’r prif fwydydd – bwyd sy’n cael ei fwyta’r rhan fwyaf o ddyddiau gan y rhan fwyaf o bobl - yn Ewrop, Affrica, y Dwyrain Canol ac America.
Efallai nad yw’n swnio fel un o hoff fwydydd Prydain ond mae’n gynhwysyn allweddol yn llawer o sawsiau pasta. Mae prydau fel sbageti bolognase yn hynod boblogaidd ym Mhrydain, felly rydyn ni’n bwyta digonedd o fasil bob blwyddyn.
Perlysieuyn yw basil – planhigyn sy’n cael ei ddefnyddio i roi blas ar fwyd. Mae’n fychan ac yn ddeiliog ac mae’n tyfu mewn sawl rhan o’r byd. Gellir ei dyfu ym Mhrydain hefyd, mewn ty gwydr.
Un cynhwysyn dirgel arall yw monosodium glutamate (MSG yn fyr) sef math o halen. Mae gan bopeth byw ychydig o MSG yn eu celloedd. Caiff rhai bwydydd eu bwyta yn Asia fel gwymon a physgod cregyn ac mae’r rheiny yn cynnwys llawer iawn ohono.
Caiff MSG ei fwyta ym Mhrydain oherwydd caiff ei ddefnyddio i roi blas ar fwydydd sawrus fel Marmite a bwydydd cyflym. Mae saws soia, sy’n cael ei ddefnyddio mewn coginio Tsieinïaidd, yn llawn glutamate hefyd. Mae’n gwneud bwydydd yn flasus iawn, ac mae bwydydd â lefelau uchel o MSG yn anodd iawn eu gwrthod.
TY dyddiau hyn mae llawer o MSG yn cael ei gynhyrchu mewn ffatrïoedd yn defnyddio bacteria sy’n tyfu ar fetys siwgr a thriagl. Efallai y bydd hyn yn eich gwneud i chi feddwl ddwywaith y tro nesa y byddwch chi’n archebu sglodion gyda’ch byrgyr!
Mae’r erthygl hon, yn union fel y sgandal cig ceffyl, yn gwneud i ni feddwl am darddiad ein bwyd ac o le ddaw e.
Mae globaleiddio a newidiadau i’r ffordd rydyn ni’n cael ein bwyd wedi gwneud y daith rhwng y fferm a’r bwrdd bwyd yn un llawer iawn mwy cymhleth.
At hyn, mae arferion bwyta pobl ym Mhrydain yn wahanol iawn i’r gorffennol ac mae’n debyg bod y newidiadau hyn yma i aros.
Gan weithio mewn grwpiau o ddau neu dri, dewiswch un o’ch hoff fwydydd ac yna dewiswch un cynhwysyn penodol ohono.
Darganfyddwch:
Sut mae’r cynhwysyn yna’n cael ei gynhyrchu? A yw’n anifail, planhigyn neu’n fwyn hyd yn oed?
O le mae’n dod??
Oes angen rhywbeth penodol arno, fel:
tymheredd?
glaw?
math o bridd?
A yw’n cael ei fwyta yn rhywle arall yn y byd, neu ddim ond yn y DU?
Paratowch gyflwyniad byr am eich cynhwysyn. Byddwch yn barod i ateb cwestiynau ar ei ddiwedd.