22

Meddwl am fwyd...

Meddwl am fwyd...

Yn y rhifyn hwn byddwn ni’n meddwl am y newidiadau sydd wedi digwydd yn arferion bwyta Prydain yn y degawdau diwethaf. Yna byddwn ni’n edrych ar dri pheth a allai newid y ffordd rydyn ni’n cynhyrchu ei n bwyd.

Fodd bynnag, byddwn ni’n dechrau drwy edrych ar un newid sydd wedi digwydd yn barod.

Newid yn y farchnad – Cyflenwad a Galw

Mae’r ffordd y mae pobl yn y DU yn gweld bwyd wedi newid yn sylweddol dros y degawdau diwethaf. Yn y blynyddoedd a ddilynodd yr Ail Ryfel Byd roedd cyflenwad bwyd dal yn weddol brin ac roedd rhaid i’r llywodraeth reoli faint o fwyd oedd pobl yn ei gael.

Yr enw ar hyn oedd dognu (rationing) ac roedd yn effeithio ar bryniant y prif fwydydd fel cig, siwgr, llaeth a chynnyrch llaeth, grawnfwyd, te ac wyau. Diflannodd rhai pethau, fel ffrwythau trofannol, o siopau yn y DU.

undefined

I’r rhan fwyaf o deuluoedd gweithiol, roedd prydau bwyd wedi’i gwneud gyda’r prif fwydydd fel tatws, bara, llysiau a chig. Ni ddaeth bwydydd tramor fel cyri Indiaidd i mewn i gystadlu â’r farchnad fwyd draddodiadol Brydeinig tan y 1970au.

Ers hynny, mae bwydydd Asiaidd a Mediteranaidd wedi dod yn hynod boblogaidd yn y DU, nes bod cyri, stir-fry, pasta a phizza yn uchel iawn ar restrau ‘hoff fwyd’ pobl Prydain.

undefined

Mae hi’n annhebygol iawn y bydd hyn yn dadwneud ei hun, ac mae cynhwysion wedi’u mewnforio yn mynd i fod yn rhan nodweddiadol o’n harchfarchnadoedd a’n bwytai am amser hir.

Oeddech chi'n gwybod?

Beth bynnag sy’n gwneud bywyd yn hawdd...

Yn y blynyddoedd ar ôl y rhyfel, arferai’r term “bwyd rhad” olygu eich bod chi’n tyfu eich llysiau eich hun ac yn defnyddio rhannau o anifeiliaid y byddai pobl yn troi eu trwynau arnynt y dyddiau hun: arennau, iau, tafod, traed moch ac ati.

Mewn gwirionedd, rydyn ni’n dal i fwyta’r rhannau hyn o’r anifeiliaid ym Mhrydain ond maen nhw’n dueddol o fod wedi cael eu cuddio’n feistrolgar mewn selsig, byrgyrs a phrydau bwyd parod. Efallai bod selsig wedi bod yn rhan o’r diet Prydeinig ers peth amser, ond mae prydau bwyd parod (enghraifft o fwyd hwylus) yn weddol newydd.

undefined

Bwydydd hwylus yw bwydydd sydd wedi cael eu paratoi’n barod (wedi’u coginio’n barod yn aml) ac wedi’u pecynnu yn ‘barod i’w bwyta’. Maen nhw’n cael eu prosesu ac yna’n cae eu pecynnu mewn modd sy’n galluogi eu storio am wythnosau, misoedd neu flynyddoedd hyd yn oed.

Mae bwydydd parod yn fath penodol o fwyd hwylus. Maen nhw’n brydau bwyd cyflawn sy’n cael eu gwerthu wedi rhewi neu wedi oeri. Dyma’r prydau bwyd parod sydd wedi bod yng nghanol y sgandal cig ceffyl.

Dyfodol bwyd?

Bydd gweddill yr erthygl hon yn ystyried tair ffordd amgen i ffermio cyfoes ac arferion cynhyrchu bwydydd sydd wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar.

1. Amaethyddiaeth Gymunedol

Math o ffermio sy’n golygu bod cynhyrchu a dosbarthu’r bwyd yn digwydd yn lleol yw ffermio cymunedol. Mae hyn yn gyferbyniad llwyr i’r diwydiant bwyd byd-eang soniwyd amdanynt yn erthygl gyntaf yr erthygl hon.

Mae yna sawl math o Amaethyddiaeth Gymunedol. Fodd bynnag, dyma rai pethau mae gan bob un yn gyffredin:

  • Pwyslais ar gynnyrch lleol (wedi’i ffermio’n organig yn aml).

  • Mae aelodau’r amaethyddiaeth gymunedol yn rhannu’r costau drwy dalu am gynhyrchu’r bwyd cyn i’r tymor ffermio ddechrau.

  • Dosbarthu bwyd yn wythnosol i gynnwys y bwydydd sy’n barod i’w cynaeafu ar y pryd.

undefined

Mae amaethyddiaeth gymunedol o fudd i’r ffermwyr ach i’r gymuned leol mewn sawl ffordd. Dyma rai ohonynt:

  • Bydd ffermwyr yn derbyn incwm mwy sefydlog

  • Mae’r gymuned yn cael mwynhau bwyd ffres, iach

  • the community enjoy fresh, healthy food.

  • Mae’r bwyd a gynhyrchir yn well i’r amgylchedd drwy ddefnyddio llai o becynnu a chostau trafnidiaeth llawer llai


2. Ffermio Trefol

Ym mis Mehefin 2013 bydd y prosiect Biospheric yn cael ei lansio ym Manceinion. Mi fydd y prosiect rhagorol hwn yn troi hen ffatri yn ‘fferm drefol fertigol’ a allai ddarparu “bwyd lleol” i bobl sy’n byw mewn dinasoedd.

Cyfuniad o syniad Prydeinig iawn - rhandiroedd ble caiff bobl dyfu eu bwydydd eu hunain ar ddarnau cul o dir a thechnegau ffermio yn Affrica yw’r prosiect.

undefined

Mae’r technegau ffermio Affricanaidd yn ymwneud â thyfu cnydau uwch ben ei gilydd. Er enghraifft mae cnau coco yn cael eu tyfu uwch ben bananas, sy’n cael eu tyfu uwch ben coed coffi. Islaw mae iamau a chnydau eraill yn cael eu plannu i dyfu o ar wyneb y ddaear neu o dan y ddaear.

Efallai bod y bwydydd a gynhyrchir ar fferm drefol yn swnio’n gyfyngedig - cêl a bresych yn hytrach na thomato a ffa - ond mae rheswm da am hyn. Er mwyn bod yn hunangynhaliol rhaid peidio dibynnu ar wrtaith llawn ynni ac felly mae dychwelyd at gnydau traddodiadol gogledd Ewrop yn angenrheidiol.


3. Cinio Corynod

Ym mis Mai 2013 awgrymodd Sefydliad Bwyd ac Amaethyddiaeth, sy’n rhan o’r Cenhedloedd Unedig, syniad am ddyfodol bwyd... bwyta pryfed!

Efallai bod y syniad yn codi cyfog arnoch, ond y gwir amdani yw bod tua 2 biliwn (28% o ‘r boblogaeth) o bobl yn bwyta pryfed yn barod.

Nid yw’n syniad mor wallgof â hynny – mae gan bryfed lawer o brotein a maeth ynddyn nhw sydd eu hangen arnom ni i fod yn iach a chryf. Maen nhw’n dda iawn am droi eu bwyd yn brotein. Mae hi’n cymryd 8kg o fwyd i fuwch gynhyrchu 1kg o brotein. Dim ond 2kg o fwyd sydd ei angen ar bryfed i wneud yr un fath.

undefined

Ar ben hynny, mae pryfed yn cynhyrchu llawer iawn llai o nwyon ty gwydr nag anifeiliaid fferm mawr. Yn ôl yr Asiantaeth Amddiffyn yr Amgylchedd, rhan o lywodraeth yr Unol Daleithiau, mae anifeiliaid fferm fel gwartheg, defaid a geifr yn cynhyrchu tua 80 miliwn tunnell o fethan bob blwyddyn. Mae hynny yn dros chwarter allyriadau’r byd o nwyon ty gwydr pwerus.

Sut maen nhw’n ei ryddhau? Ie, cywir – gollwng gwynt...

Felly, byddai bwyta pryfed yn ddewis iachach ac yn un sy’n well i’r amgylchedd. Os yw’r syniad yn troi arnoch chi, cofiwch os ydych chi erioed wedi reidio beic neu gysgu â’ch ceg ar agor mae’n debygol eich bod chi wedi bwyta pryfed heb hyd yn oed sylweddoli!


Gwirio Gwybodaeth

Faint rydych chi wedi’i ddysgu yn y rhifyn hwn o Ddaearyddiaeth yn y Newyddion? Gwnewch y cwis rhyngweithiol isod i gael gweld. Os nad ydych chi’n gwneud cystal â’r disgwyl, ewch yn ôl a darllen yr erthyglau eto. Yna, trïwch eto.

Flash Player Required

Get Adobe Flash player

Gweithgaredd disgybl

Yng nghyd-destun yr erthygl, dylai myfyrwyr gymharu’r ffordd y mae math penodol o fwyd yn cael ei gynhyrchu a’i werthu yn y byd datblygedig (Ewrop, Gogledd America ac Awstralasia) gyda Gwlad Lai Economaidd Ddatblygedig.

TGan feddwl am y materion a godwyd yn yr erthygl Meddwl am fwyd, ystyriwch effaith y gallai’r gwahanol fathau o ffermio ar eu gwlad h.y.

  • Effaith amgylcheddol.

  • Effaith economaidd gymdeithasol.

  • Effaith ddiwylliannol.

Gorffennwch drwy awgrymu ffyrdd y gallai ffermwyr mewn gwledydd Datblygedig a Llai Datblygedig ddysgu oddi wrth ei gilydd.

Cyflwynwch eich gwaith ar ffurf poster. Gweithiwch fel grwp neu fel unigolion. Rhowch eich gwaith i’ch athro i’w farcio.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...