10

Effaith Newid Economaidd

Ar yr 11eg o Fai agorodd ffatri tyrbinau gwynt werth £38 miliwn gan y Gweinidog ar gyfer Ynni a Newid Hinsawdd, Charles Hendry yng Nghas-gwent yn Ne Cymru. Crëwyd 280 o swyddi eisoes a phan fydd y ffatri cyrraedd anterth ei chynhyrchiant, bydd yn gallu cynhyrchu 300 twr tyrbin wynt y flwyddyn.

undefined

Ffermydd gwynt yng Nghymru

Mae cwmni rhyngwladol o Iwerddon yn gobeithio creu mwy na 1200 o swyddi yn sgil cynhyrchiant diweddaraf technoleg paneli solar yng Ngogledd Cymru.

undefined

Paneli Solar

Mae'r rhain i gyd yn enghreifftiau o swyddi'r dyfodol.

Mae rhai gwyddonwyr yn credu ei bod hi'n debygol iawn bod y swydd y byddwch chi'n ei wneud pan fyddwch chi'n 40 mlwydd oed heb ei chreu eto!

Beth mae'r holl newidiadau hyn yn ei olygu i chi a phobl eraill o amgylch y byd?

Wrth i wledydd eraill ddatblygu mi fyddan nhw'n dechrau gwneud y swyddi yr ydym ni'n eu gwneud yma, yn enwedig y rhai sy'n gofyn am lefel isel o sgiliau penodol a gwybodaeth arbenigol. Bydd y swyddi hyn yn cynnwys llawer o rai'r sector gynradd a sawl swydd gweithgynhyrchu yn y sector eilaidd. Bydd hyn yn cyfoethogi GLEDd. Mi fyddan nhw'n gwerthu neu'n allforio cynnyrch cynradd i weddill y byd a dechrau gwneud neu weithgynhyrchu cynnyrch eilaidd yn yr un modd ag y mae China'n ei wneud nawr. Mae'n debyg y byddwn ni'n prynu neu'n mewnforio'r cynnyrch yma gan y gwledydd hyn.

Pan fydd y gwledydd hyn yn gyfoethocach mi fyddan nhw'n gallu buddsoddi mewn ystod eang o wasanaethau iechyd ac o'r herwydd fyw bywydau gwell. Mae'n debyg y byddwn ni'n gweld eu bywydau'n ymestyn (Disgwyliad Oes) a hefyd weld cynnydd yn safon addysg - felly rhaid aros ar flaen y gad drwy weithio'n galed yn yr ysgol rhagof i ni gael ein goddiweddi a cholli allan yn y dyfodol.

Felly, beth fyddwn ni'n ei wneud yn y dyfodol?

Gobeithio y byddwn ni'n gallu cadw'n safle yn y byd yn enwedig o ran gwasanaethau gwerthfawr megis cyllid. Mae'n debyg y byddwn ni'n dod yn ganolfan arbenigol ar gyfer gweithgynhyrchu. Mae llywodraethau'r DU a Chymru yn ceisio gwneud hyn - dim ond y dechrau yw adeiladu tyrbinau gwynt a phaneli solar.

Hefyd, disgwyliwch lawer o swyddi newydd, hi-tec wrth i systemau cyfrifiadurol a chyfathrebu newydd gael eu dyfeisio. Meddyliwch yn ofalus am y swydd hoffech chi ei gwneud - a fydd hi mewn bodolaeth mewn deng mlynedd neu a fydd angen sgiliau gwahanol iawn arnoch i'w gwneud hi?

Flash Player Required

Get Adobe Flash player

Tasg

Cynhaliwch ymchwiliad daearyddol am strwythurau cyflogaeth i ddangos lefelau datblygiad a pham. Meddyliwch am sut y bydd hyn yn dylanwadu ar y mathau o swyddi y byddwch chi'n eu gwneud yn y dyfodol.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Pwer economaidd : newid

Pwer economaidd : newid