10

Pwer economaidd : newid

Mae economeg yn ymwneud ag arian - fel arfer daw arian o swyddi y mae pobl neu wledydd yn eu gwneud. Mae'r rhan fwyaf o wledydd yn dechrau'n dlawd gan newid yn raddol fel eu bod yn gyfoethocach. Maen nhw'n gwneud hyn drwy newid y math o waith y mae trigolion yn wlad yn ei wneud. Weithiau, gelwir y broses hon yn Ddatblygiad Economaidd.

Weithiau, gelwir y gwledydd cyfoethocaf yn GMEDd, sy'n golygu Gwledydd Mwy Economaidd Ddatblygedig. Mae Cymru yn enghraifft dda o GMEDd - rydym ni'n byw yn un o'r gwledydd cyfoethocaf yn y byd ac mae gennym safonau byw uchel. UDA yw'r enghraifft a ddefnyddir amlaf o ran GMEDd.

undefined

UDA - Enghraifft o GMEDd

Yr enw a roddir ar rai o'r gwledydd tlotaf yw Gledd, sy'n golygu Gwledydd Llai Economaidd Ddatblygedig (weithiau mae'r Cenhedloedd Unedig yn defnyddio Gwledydd Lleiaf Economaidd Ddatblygedig ar gyfer y rhai tlotaf) mae'r rhan fwyaf o'r rhain yn ardal is Saharaidd yn Affrica.

undefined

Is-Ddifeithwch y Sahara, Affrica - GLlEDd

Mae rhai o'r gwledydd a gategoreiddiwyd fel y gwledydd lleiaf economaidd datblygedig wedi datblygu dros yr hanner can mlynedd diwethaf. Aeth rhai o'r rhain drwy hyn yn y 60au a'r 70au ac fe'u gelwir heddiw yn Wledydd Diwydiannol Newydd (NIC - Newly Industrialised Countries). Dim ond rhyw ddeng mlynedd yn ôl y datblygodd rhai ohonynt ac felly, gelwir rhai o'r rhain yn Wledydd Diwydiannol Diweddar neu RIC (Recently Industrialising Countries). Mae De Korea yn enghraifft dda o NIC Ac mae India a China yn enghreifftiau da o RIC. Weithiau, caiff China ei galw'n FCC ond byddai Rwsia yn well enghraifft o hynny. Golyga FCC am Former Communist Country sef gwlad a arferai fod yn un gomiwnyddol. Mae hynny'n golygu bod economi'r wlad yn arfer cael ei rhedeg gan lywodraeth oedd am wneud arian a darparu swyddi i bawb. Nawr, caiff yr economi ei rhedeg gan unigolion er mwyn ceisio gwneud arian.

Cyfalafiaeth / Comiwnyddiaeth

Ffordd o redeg economi gwlad yw cyfalafiaeth lle mae unigolion yn cael rhedeg busnesau er mwyn gwneud arian iddyn nhw eu hunain (mae'r llywodraeth yn cael rhan drwy drethi). Y syniad tu ôl iddo yw bod yr unigolion hyn yn cael eu cymell i greu busnesau mwy a mwy o swyddi er mwyn gwneud mwy o elw. 

Ffordd o gynnal economi yw comiwnyddiaeth lle mae'r llywodraeth yn gyfrifol am yr holl waith er mwy ceisio gwneud arian a chreu swyddi i bawb. Weithiau caiff hyn ei enwi'n Economi wedi'i Gynllunio'n Ganolog.

 

 

Flash Player Required

Get Adobe Flash player

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Effaith Newid Economaidd

Effaith Newid Economaidd