10

Cyflogaeth newidiol

Mae gwaith yn rhan bwysig o fywyd i lawer o bobl yn y DU a gweddill y byd. Am hynny, mae hi'n bwysig eich bod chi'n gwybod:

  • Pa fath o swyddi sydd yna?

  • Ble mae'r swyddi hyn wedi'u lleoli?

  • Pam eu bod nhw wedi'u lleoli ble maen nhw?

  • Beth yw effeithiau newidiadau yn y byd ar y gweithle ac ar bobl?

undefined

Diwydiant cynradd

Beth yw dy swydd?

Swyddi sy'n golygu cynaeafu'r cnydau o'r tir neu'r môr, neu echdynnu rhywbeth o'r ddaear yw'r rhai a elwir yn ddiwydiant cynradd. Mae cynradd yn golygu 'cyntaf' ac mae swyddi yn y diwydiant cynradd yn cyflawni'r swydd gyntaf yn y gadwyn.

undefined

Diwydiannau eilaidd

Mae cynnyrch diwydiannau cynradd fel grawn, pysgod neu olew yn aml iawn yn cael eu troi'n gynnyrch newydd. Er enghraifft, gwneir blawd gyda grawn, gellir sychu gweddillion pysgod ar gyfer bwydo anifeiliaid a gellir puro olew ar gyfer tanwydd a chemegolion eraill. Mae diwydiannau sy'n gwneud neu gynhyrchu pethau yn cael eu galw'n ddiwydiannau eilaidd. Yn aml iawn mae swyddi yn y diwydiant gweithgynhyrchu yn ail yn y gadwyn swyddi.

undefined

Tyfir grawn ar fferm, Caiff grawn ei felino'n flawd, Caiff blawd ei werthu mewn siop

Y trydydd math o ddiwydiant yw'r diwydiant trydyddol. Mae hyn yn cynnwys swyddi sy'n darparu gwasanaeth i bobl; pethau fel nyrsio, torri gwallt neu addysgu. Hefyd, mae'n ymwneud á chynnyrch y diwydiannau cynradd ac eilaidd: er enghraifft gwerthu, trin neu hyrwyddo'r nwyddau.

Rhywbryd yn ystod eu bywydau, bydd y rhan fwyaf o bobl yn gweithio mewn swydd. Mae miliynau o wahanol swyddi ac mae pob un ohonynt, rhywsut, yn gysylltiedig. Rydym ni'n galw'r swyddi cysylltiedig hyn yn 'gadwyni swyddi'.

Yn aml iawn, bydd Daearyddwyr yn cyflwyno gwybodaeth ar ffurf diagram llif. Mae diagram llif yn ffordd o ddangos symudiad rhywbeth. Fel arfer bydd tynnu llun bocsys sydd wedi'u cysylltu gyda saethau yn dangos y wybodaeth.

Bydd beth bynnag sy'n symud yn teithio ar hyd y saethau. Bydd pob bocs fel arfer yn cynnwys ysgrifen er mwyn dangos yr hyn maen nhw'n ei gynrychioli.

undefined

Tyfu a chymynu pren, Eu gwneud yn blanciau tymhorol, Gwneud dodrefn, Gwerthu dodrefn

Dros amser, mae'n debygol y bydd newid mewn diwydiant yn unrhyw leoliad. Weithiau, gelwir y newid hwn yn ddatblygiad diwydiannol. Mae hyn yn golygu bod newid yn y mathau o swyddi y mae pobl yn eu gwneud mewn ardal benodol. Mewn ardal ddatblygedig bydd llawer o bobl yn gweithio yn y diwydiannau trydyddol tra mai dim ond ychydig fydd yn gweithio yn y diwydiannau cynradd. Mewn ardaloedd annatblygedig, bydd y rhan fwyaf o bobl yn gweithio mewn diwydiannau cynradd tra bod dim ond ychydig yn gweithio yn y diwydiannau trydyddol. Mae hyn yn egluro'r termau gwlad ddatblygedig a gwlad ddatblygol. Mae'r DU yn wlad ddatblygedig felly bydd disgwyl bod y rhan fwyaf o bobl yn gweithio mewn diwydiannau trydyddol.

Un ffordd o ganfod lefelau datblygiad yw edrych ar strwythurau cyflogaeth. Dyma'r ganran o bobl sy'n gweithio yn y diwydiannau cynradd, eilaidd a thrydyddol. Fel arfer daw'r wybodaeth hon o arolwg a elwir y cyfrifiad.

undefined

Cynradd, Trydyddol

Gweithgaredd

Cynhaliwch gyfrifiad eich hun yn eich dosbarth er mwyn dod o hyd i strwythur cyflogaeth ardal benodol o Gymru. Darganfyddwch y ffigyrau ar gyfer pob sector - a'u trosi'n ganrannau neu'n graffiau pei. Yna, cymharwch nhw â'r proffiliau yn yr erthygl am Newid Trefn mewn Pŵer Economaidd.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...

Effaith Newid Economaidd

Effaith Newid Economaidd

Pwer economaidd : newid

Pwer economaidd : newid