1

Adroddiad Traffig

Flash Player Required

Get Adobe Flash player

Mae llai o swyddi ar Ynys Môn nag sydd ar y tir mawr. Mae’n rhaid i lawer o bobl deithio er mwyn cyrraedd eu gwaith. Cyflogwr mwyaf Ynys Môn oedd y gwaith Alwminiwm yng Nghaergybi ond fe gaeodd ym Medi 2009. Mae hyn yn golygu bod rhaid i fwy o bobl deithio i’r dwyrain i gyrraedd eu gwaith.

Wrecsam yw ardal fwyaf diwydiannol Gogledd Ddwyrain Cymru. Mae’n rhaid i lawer o bobl yn yr ardal gymudo. Mae’r system draffig bron yn llawn ac mae’r lonydd yn hynod brysur. Mae hyn yn golygu y gall un cerbyd sy’n torri i lawr achosi tagfeydd am filltiroedd.

Mae llifogydd yng nghanolbarth Cymru yn eithaf cyffredin yn ystod y gaeaf. Mae hyn oherwydd bod afonydd mawr fel yr Hafren ynghyd a’i llednentydd yn llifo drwy’r ardal yma. Ar hyd arfordir gorllewinol Cymru, mae gwyntoedd cryfion a glaw trwm yn achosi problemau traffig am fod yr ardal hon yn fryniog. Mae’r problemau hyn yn llawer iawn mwy cyffredin yn yr ardal yma nac unrhyw ardal arall yn y DU.

Mae llawer o bobl yn byw yn yr hen drefi mwyngloddio sydd i’r Gogledd o Gaerdydd. Ers i’r hen ddiwydiannau mwyngloddio gau, mae pobl wedi gorfod dod o hyd i waith yn y ddinas. O ganlyniad, mae cymudwyr yn teithio i’w gwaith ar hyd coridor yr M4. Mae tagfeydd yn digwydd yma bob dydd!

Adeiladwyd yr M4 30 o flynyddoedd yn ôl gyda dwy lôn bob ffordd ar yr adran ogleddol o Gaerdydd. Nid yw dwy lôn yn ddigon bellach. Mae gwaith i gynyddu nifer y lonydd wedi achosi oedi traffig am y tair blynedd ddiwethaf.

Mae rhwydwaith o reilffyrdd yn cysylltu cymoedd De Cymru gyda Chaerdydd a Chasnewydd. Mae nifer o gymudwyr a siopwyr yn dibynnu ar y rhwydwaith hwn, ond gall tywydd drwg darfu ar reilffordd drwy achosi llifogydd neu hyd yn oed daflu coed a dail ar y cledrau.

Ni all y gwasanaeth fferi cyflym hwylio pan mae Môr Iwerddon yn stormus. Gall y fferi fawr, arafach ymdopi gyda thywydd garw, ond caiff y ddwy fferi eu canslo mewn stormydd difrifol!

Anaml iawn y bydd Maes Awyr Cymru Caerdydd yn cau, ond gall gwyntoedd cryfion, tarth a niwl o Fôr Hafren achosi tywydd difrifol gan orfodi’r awdurdodau i gau’r maes awyr.

Top

Mwy o’r rhifyn yma...