Newyddion da! Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi gwirioni â cherdded a beicio! Maent wedi cynhyrchu Cynllun Gweithredu Cerdded a Beicio 2009-2013.
Cadw'n iach drwy ymarfer corff
Ennyn diddordeb mwy o bobl i wella'n amgylchedd
Annog dulliau teithio cynaliadwy a fydd yn lleihau allyriad CO2 ac yn brwydro yn erbyn newid hinsawdd
'Llwybrau diogel i Gymunedau' lle bydd awdurdodau lleol yn datblygu llwybrau cerdded a beicio mewn ardaloedd lleol.
Mae hyn yn golygu darparu llwybrau cerdded a llwybrau beicio mewn pentrefi a threfi. Oes yna lwybrau fel hyn yn eich pentref chi?
Adeiladu llwybr cerdded a beicio newydd pan fydd gwelliannau ffordd yn digwydd. Maent yn cyfrannu i dalu amdano hefyd.
Mae hyn yn golygu y bydd rhaid i'r Cynulliad adeiladu llwybrau cerdded a beicio pan fod angen gwella'r lonydd. Ydych chi'n gwybod am unrhyw lôn feicio newydd yn eich ardal chi?
Sefydliad sy'n annog beicio a cherdded.
Mae'r rhai yn cynnwys:
Sustrans Cymru
Safonau Cenedlaethol mewn Hyfforddiant Beicio
Dewch i gerdded! Cymru
Beiciwch hi! - Mae hwn yn gynllun peilot gan Sustrans Cymru sy'n anelu at gynyddu beicio i'r ysgol gan godi ymwybyddiaeth o'i fuddiannau, dysgu sgiliau beicio, a chynnal digwyddiadau dod a beic i'r ysgol a theithiau
Elusen trafnidiaeth gynaliadwy yw Sustrans. Ers ei sefydlu yn 1977 mae wedi annog datblygiad llwybrau beicio lleol a chenedlaethol. Yn Rhagfyr 2007 yr oedd dros 12,000 o filltiroedd o lwybrau a chysylltiadau, gyda mwy yn cael eu hychwanegu drwy'r adeg.
Dechreuodd Sustrans drwy drawsnewid hen reilffyrdd yn llwybrau beicio, ond nawr, mae llwybrau beicio yn cael eu hadeiladu ar ochr lonydd. Amcangyfrifodd Sustran bod dros 386 miliwn o dripiau cerdded a beicio eu cyflawni ar y Rhwydwaith yn 2008 yn unig!
Dyma weithgaredd i'r plant
Pa lwybrau cenedlaethol sydd agosaf i'ch cartref chi?
Pa ardaloedd o Gymru allech chi ymweld â hwy wrth ddilyn eich llwybr beicio lleol?
Dychmygwch eich bod chi a thri o'ch ffrindiau yn penderfynu cynllunio gwyliau deg diwrnod o feicio a gwersylla ar hyd rhannau o'r Llwybrau Beicio Cenedlaethol. Chi sydd i benderfynu lle fyddwch chi'n dechrau a lle fyddwch yn gorffen.
Pa mor bell allwch chi feicio mewn diwrnod tybed? Byddai'r rhan fwyaf o bobl yn dweud rhwng 50-100 Km (31-62 milltir) gan ddibynnu ar eu lefel ffitrwydd… a'r gelltydd!
I le yng Nghymru fyddech chi'n mynd? Dechreuwch gynllunio'ch taith. Cofiwch, mae'n rhaid iddi fod ar hyd llwybrau'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol.
Defnyddiwch hwn i lwybro'ch cynllun.
Diwrnod |
Dylai hwn gynnwys: man cychwyn / llwybr a gymerwyd / pellter |
Disgrifiad o’ch taith (defnyddiwch atlas o Gymru i ddarganfod mwy o fanylion am yr ardaloedd o Gymru yr ydych yn bwriadu beicio trwyddynt). |
Diwrnod 1 |
||
Diwrnod 2 |
||
Diwrnod 3 |
||
Diwrnod 4 |
||
Diwrnod 5 |
||
Diwrnod 6 |
||
Diwrnod 7 |
||
Diwrnod 8 |
||
Diwrnod 9 |
||
Diwrnod 10 |
|