1

Ar dy Feic!

Newyddion da! Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi gwirioni ar gerdded a beicio! Maent wedi cynhyrchu Cynllun Gweithredu Cerdded a Beicio 2009-2013.

Felly, beth yw'r rheswm am hyn? Pam eu bod nhw am gael pawb i ddefnyddio'u coesau, a phedlo?

Mae'r Cynulliad wedi gosod nod i helpu pawb:

  • I gadw'n iach drwy ymarfer corff

  • I geisio codi diddordeb mwy o bobl mewn gwella'n amgylchedd

  • Annog dulliau teithio hawdd i'w cynnal a fydd yn golygu bod llai o garbon deuocsid yn cael ei ddefnyddio fel ein bod yn gallu brwydro yn erbyn newid hinsawdd

Mae hynny'n wych, ond beth sy'n cael ei wneud amdano?

Er mwyn ein helpu i gyrraedd y nod, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru eisiau:

  • Datblygu llwybrau cerdded a beicio diogel mewn ardaloedd lleol.

Mae hyn yn golygu bod mwy o lwybrau cerdded a llwybrau beicio ar gael mewn pentrefi a threfi. Oes yna lwybrau fel hyn yn eich pentref chi?

  • Adeiladu llwybr cerdded a beicio newydd pan fydd gwaith gwella'r ffordd yn digwydd. Maent yn rhoi arian tuag ato hefyd.

Mae hyn yn golygu y bydd rhaid i'r Cynulliad adeiladu llwybrau cerdded a beicio pan fod angen gwella'r lonydd. Ydych chi'n gwybod am unrhyw lôn feicio newydd yn eich ardal chi?

  • Sefydliadau sy'n annog beicio a cherdded.

Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Sustrans Cymru

  • Safonau Cenedlaethol mewn Hyfforddiant Beicio

  • Dewch i gerdded Cymru

  • Beiciwch hi! - Mae hwn yn gynllun peilot sy'n cael ei gynnal gan Sustrans Cymru sy'n anelu at godi'r niferoedd sy'n beicio i'r ysgol gan godi ymwybyddiaeth ymarfer drwy; ddysgu sgiliau beicio, a chynnal digwyddiadau dod a beic i'r ysgol a theithiau mynd am dro.

Beth yw Sustrans?

Elusen trafnidiaeth all gael ei gynnal, yw Sustrans. Ers ei sefydlu yn 1977 mae wedi ceisio odi mwy o lwybrau beicio lleol a chenedlaethol. Yn Rhagfyr 2007 yr oedd dros 12,000 o filltiroedd o lwybrau a chysylltiadau, gyda mwy yn cael eu hychwanegu drwy'r adeg.

Dechreuodd Sustrans drwy droi hen reilffyrdd yn llwybrau beicio, ond nawr, mae llwybrau beicio yn cael eu hadeiladu wrth ochr lonydd. Amcangyfrifodd Sustran bod dros 386 miliwn o dripiau cerdded a beicio wedi eu cynnal ar y Rhwydwaith yn 2008 yn unig!

undefined

Yn Chwefror 2009, cynhyrchodd Sustrans fap newydd a thaflen wybodaeth am lwybrau beicio yn Gymraeg a Saesneg. Cewch gopi fan hyn: Sustrans NCN Wales PDF

Rhan 2

Dyma weithgaredd i'r plant

Cwestiynau Mawr:

  • Pa lwybrau cenedlaethol sydd agosaf i'ch cartref chi?

  • Pa ardaloedd o Gymru allech chi ymweld â nhw wrth ddilyn eich llwybr beicio lleol?

Prosiect:

Dychmygwch eich bod chi a thri o'ch ffrindiau yn penderfynu mynd ar wyliau deg diwrnod o feicio a gwersylla ar hyd rhannau o'r Llwybrau Beicio Cenedlaethol. Chi sydd i benderfynu lle fyddwch chi'n dechrau a lle fyddwch yn gorffen.

Pa mor bell allwch chi feicio mewn diwrnod tybed? Byddai'r rhan fwyaf o bobl yn dweud rhwng 50-100 Km (31-62 milltir) gan ddibynnu ar eu lefel ffitrwydd…a'r rhiwiau!

I le yng Nghymru fyddech chi'n mynd? Dechreuwch gynllunio'ch taith. Cofiwch, mae'n rhaid iddi fod ar hyd llwybrau'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol.

Defnyddiwch hwn i gynllunio'ch taith.


Diwrnod

Dylai hwn gynnwys: man cychwyn / llwybr a gymerwyd / pellter

 

Disgrifiad o’ch taith (defnyddiwch atlas o Gymru i ddarganfod mwy o fanylion am yr ardaloedd o Gymru yr ydych yn bwriadu beicio trwyddynt).

Diwrnod 1

   

Diwrnod 2

   

Diwrnod 3

   

Diwrnod 4

   

Diwrnod 5

   

Diwrnod 6

   

Diwrnod 7

   

Diwrnod 8

   

Diwrnod 9

   

Diwrnod 10

   
Top

Mwy o’r rhifyn yma...